Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Rymbl yn y Rhondda

Vaughan Roderick | 13:50, Dydd Mercher, 3 Tachwedd 2010

Fe fydd y rheiny ohnonoch chi sy'n ymddiddori mewn hanes yn ymwybodol bod canmlwyddiant terfysgoedd Tonypandy yn cael ei goffhau'r wythnos hon gyda sawl digwyddiad a rhaglen wedi eu trefnu i nodi trobwynt pwysig yn hanes gwleidyddol Cymru.


Mae'r hyn ddigwyddodd yn Nhonypandy yn rhan o chwedloniaeth y mudiad Llafur ac fel pob chwedl mae'n cyfuno elfennau o wirionedd ynghyd a ffrwyth dychymyg y rheiny sydd wedi ail-adrodd y stori ar hyd y blynyddoedd.

Mae hi yn wir, er enghraifft bod Winston Churchill, yr ysgrifennydd cartref ar y pryd, wedi caniatau danfon milwyr i gesio dofi'r glowyr. Ond mae hi hefyd yn wir bod y milwyr wedi ymddwyn yn llawer mwy pwyllog a gwaraidd na gwnaeth y plismyn lleol a'r rheiny oedd wedi eu galw mewn o Fryste.

Ta beth am hynny fe barodd y drwgdeimlad yn erbyn Churchill am ddegawdau yn y maes glo ac fe gafodd hynny effaith andwyol ar obeithion dwy blaid - effaith sy'n para hyd heddiw.

Fe ddefnyddiodd Llafur benderfyniad Churchill fel arf i golbio'r Ceidwadwyr ar hyd y degawdau. Er nad oedd Churchill yn Dori yn 1910 roedd yr arf yn un effeithiol.

Yn y canrif ers y terfysgoedd mae ymgeiswyr Ceidwadol wedi bod yn greaduriaid prin yn y cymoedd. Yn y Rhondda ei hun dim ond un Ceidwadwr sydd wedi llwyddo i ennill sedd cyngor. Peter Leyshon oedd hwnnw. Fe enillodd e yng Nghymmer yn 1988 ond does neb wedi efelychu ei gamp ers hynny.

Mae'n ddigon posib wrth gwrs mae'r un fyddai hanes y Ceidwadwyr yn y cymoedd pe na bai bwgan Tonypandy yn bodoli. Mae 'na sail gadarn dros ddweud, ar y llaw arall, mae'r terfysgoedd oedd dechrau'r diwedd i'r blaid Ryddfrydol yn y maes glo gan sicrhau mai Llafur nid y Rhydfrydwyr fyddai'n rhoi llais gwleidyddol i drigolion y pentrefi glofaol o hynny ymlaen.

Ar ddechrau 1910 roedd William Abraham (Mabon) wedi ei ail-ethol i gynrychioli'r Rhondda yn y Senedd. Fel ym mhob etholiad ers 1885 roedd Mabon wedi sefyll ar docyn Lib-Lab ond y tro hwn dewisodd ymuno a'r Blaid Lafur seneddol yn hytrach nac eistedd ar y meinciau Rhyddfrydol. Roedd hynny'n golygu bod gan yr egin-blaid sosialaidd 29 aelod yn San Steffan.

Ar lawr gwlad yn y cymoedd roedd y sefyllfa wleidyddol o hyd yn hyblyg.

Cymerwch un teulu bach yng Nghlydach Vale fel enghraifft. Roedd y Rodericks ( fy hen hen daid a'i frodyr) wedi cael llond bol o grafu bywoliaeth ar diroedd Prices Gogerddan ac wedi symud i'r Rhondda yn y gobaith o fywyd gwell. Yng nglofa'r Cambrian yr oedd dynion a bechgyn y teulu yn gweithio a phan ddechreuodd anghydfod Tachwedd 1910 roedden nhw ymhlith y streicwyr.

Nid teulu milwriaethus oedd hwn. Pobol capel, Rhyddfrydol oedd y rhain. Yn wir roedd un ohonyn nhw yn gynghorydd Rhyddfrydol. Yn sicr bysai'r un ohonyn nhw wedi ymuno a'r rheiny wnaeth greu terfysg yn Nhonypandy. Rwy'n ddigon bodlon mentro y bydden nhw wedi eu harswydo gan y fath ymddygiad gan roi'r bai ar annuwioldeb, y ddiod gadarn neu'r ddau!

Ar ôl dweud hynny roedd penderfyniad Churchill - oedd yn Rhyddfrydwr ar y pryd - yn ormod i'r teulu hwn a miloedd o deuluoedd tebyg . Dros gyfnod o amser fe drodd aelodau'r teulu, eu cymdogion a'u cyfeillion eu cefnau ar y Rhyddfrydwyr a chofleidio Llafur. Sefydlwyd Plaid Lafur y Rhondda fel plaid annibynol o'r Rhyddfrydwyr ar Hydref 31ain 1911.

Cyn Tachwedd 1910 rwy'n weddol sicr y byddai bron pob un o fy nheulu yn ystyried nhw ei hun yn Rhyddfrydwyr. Ar ôl hynny prin yw'r rhai fyddai'n gwneud.

Mae 'na hen ddigon o bobol Llafur a Phlaid Cymru a'r Ceidwadwyr ymhlith fy mherthnasau a'm cyndeidiau ond prin yw'r Rhyddfrydwyr ar ôl 1910. Terfysg Tonypandy sy'n gyfrifol am hynny.

Gelllwch wrando ar raglen Radio Cymru ynghylch y terfysgoedd yn fan hyn.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 17:59 ar 3 Tachwedd 2010, ysgrifennodd EnglandandWales:

    "Dros gyfnod o amser fe drodd aelodau'r teulu, eu cymdogion a'u cyfeillion eu cefnau ar y Rhyddfrydwyr a chofleidio Llafur."

    Ti wedi cyfaddef o'r diwedd Vaughan. Roeddwn i'n gwybod.....Roeddwn i'n gwybod!;-)

  • 2. Am 13:15 ar 6 Tachwedd 2010, ysgrifennodd Harold Street:

    Dwi ddim yn hoffi'r gair 'terfysg' (na 'riots' yn Saesneg chwaith). Disgrifiad o'r digwyddiadau o safbwynt y sefydliad, y perchnogion, y lluoedd arfog a'r wladwriaeth yw sôn am 'terfysg'.

    O safbwynt y gweithwyr - fel sy'n wir wrth feddwl yn ôl i Ferthyr ym 1831 -bydai "gwrthryfel" yn nes ati (a 'rising' yn Saesneg).

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.