Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

OS...

Vaughan Roderick | 14:23, Dydd Llun, 10 Mai 2010

kipling_rudyard.jpgMae heddiw yn ddiwrnod lle mae gwleidyddion a newyddiadurwyr gwleidyddol yn dal eu hanadl. Does gen i ddim byd mawr i ddweud ond rwyf am ddweud pwt bach ynghylch un ystadegyn sydd yn cael tipyn i sylw.

Fe gynhyrchwyd yr ystadegyn gan ein cyfeillion Rallings a Thrasher ac mae'n gyfan gwbl gywir. Mae'r ddau yn nodi y byddai gan y Ceidwadwyr fwyafrif yn Nhŷ'r Cyffredin pe bai 16,000 o bobol mewn 19 etholaeth wedi pleidleisio'n wahanol. Mae casgliadau'r ddau wedi derbyn gryn sylw yn y papurau ac ar wefannau Ceidwadol sy'n eu defnyddio fel arwydd bod y Ceidwadwyr wedi ennill buddugoliaeth foesol.

Yr ymateb cywir, yn fy marn i, i ystadegau o'r fath yw "a'ch pwynt yw?"

O dan system gyntaf i'r felin mae ystadegau fel yr un yma yn anorfod mewn etholiad agos.

Yn 1992, er enghraifft fe enillodd John Major a mwyafrif o 21 sedd. Dydw i ddim yn cofio'r union nifer ond fe fyddai ychydig filoedd o bleidleisiau gwahanol mewn un ar ddeg sedd wedi golygu senedd grog.

Yn yr un modd, yn yr etholiad yma rwy'n sicr y byddai'n bosib cynhyrchu ystadegyn yn dangos y byddai ychydig ddegau o filoedd o bleidleisiau yn y mannau cywir wedi golygu mai Llafur ac nid y Ceidwadwyr fyddai'r blaid fwyaf.

Y pwynt sylfaenol yw bod 'na elfen o hap a damwain a lwc ac anlwc yn ein system etholiadol ac ar ddiwedd y dydd ennill yw ennill a cholli yw colli.

Gofynnwch i Jonathan Evans am hynny. Ef yw'r gwleidydd Prydeinig sydd wedi gorfod wynebu ail-gyfri'r pleidleisiau'n yn fwy aml na neb arall. Fe wnaeth e ennill a cholli o drwch blewyn ym Mrycheiniog a Maesyfed ac yna gorfod goddef ail-gyfri yng Ngogledd Caerdydd y tro hwn.

Fe ddywedodd Jonathan yn ei araith yng nghyfri Gogledd Caerdydd fod y ffordd y mae ymgeisydd neu blaid yn colli yn gymaint o fesur o'u cymeriad ac yw'r ffordd y maen nhw'n dathlu buddugoliaeth. Mae'n amlwg bod Jonathan yn nabod ei Rudyard Kipling ac wedi ei drwytho yn athroniaeth "IF...", ond mae'n bwynt digon teg.

Mae gan y Ceidwadwyr le i gwyno am degwch y gyfundrefn etholiadol bresennol heb orfod dadlau dros system gyfrannol. Mae'r gwahaniaeth rhwng nifer yr etholwyr yn etholaethau Cymru a rhai Lloegr yn un enghraifft o hynny. Yn ogystal â'r ddadl ynghylch cynrychiolaeth gyfrannol felly, mae 'na ddadl i'w chael ynghylch ffyrdd o sicrhau bod y system gyntaf i'r felin yn gweithio'n well.

Ar ôl dweud hynny dyw ystadegyn fel un Rallings a Thrasher a breuddwydion ynghylch yr "oni bai" ddim mewn gwirionedd yn cyfrannu at y ddadl honno.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 16:53 ar 10 Mai 2010, ysgrifennodd Elin:

    Os arall.... Mae'r Gymdeithas Ddiwygio Etholiadol wedi dadansoddi sut olwg fyddai ar Dy'r Cyffredin gyda threfn bleidleisio gyfrannol STV. Mae'r manylion ar eu gwefan. http://www.electoral-reform.org.uk/news.php?ex=0&nid=469
    Yr hyn darodd fi yn fwy na dim oedd y gwahaniaeth rhwng nifer y seddau i Blaid Cymau a'r SNP o dan drefn STV. Byddai gan Blaid Cymru 4 sedd a'r SNP 13 sedd, o gymharu a 3 a 6 nawr. Rhywbeth arall i gnoi cil arno cyn etholiad y Cynulliad.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.