Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Mesur y mesur

Vaughan Roderick | 13:01, Dydd Mercher, 17 Mawrth 2010

_940628_morgan300.jpgMae'r Prif Weinidog Carwyn Jones yn westai ar CF99 heno ac yntau ar fin dathlu ei ganfed diwrnod yn y swydd. Roedd Rhodri Morgan arfer cynnal "photo-op" a theisen ar achlysuron o'r fath er mai'r newyddiadurwyr ac nid y gwleidydd oedd yn cael bwyta'r gacen. Doctors ordyrs!

Go brin y bydd Carwyn yn orawyddus i ddilyn esiampl neu dderbyn cyngor gan ei ragflaenydd am ddathliadau o'r fath nac unrhyw beth arall yn sgil ei sylwadau yn y pwyllgor deddfwriaeth sy'n ystyried y mesur iaith y bore 'ma. Fe roddodd Rhodri amser anghysurus i'r Gweinidog Treftadaeth a dweud y lleiaf.

Gofyn wnaeth y cyn brif weinidog a fyddai'n ddyletswydd ar y Comisiynydd Iaith i geisio sicrhau cydraddoldeb i'r Saesneg mewn ardaloedd lle mae'r Gymraeg yn iaith fwyafrifol. Roedd Betsan yn gwylio'r cyfarfod, ei blog hi felly yw'r lle i gael y manylion i gyd.

Does bosib nad yw Rhodri'n gwybod yn iawn mae nad hynny yw rôl y Comisiynydd. Siawns nad oedd e wedi trafod y peth droeon wrth i'r LCO iaith ymlwybro'i ffordd trwy goridorau San Steffan.

Mae'n ddigon posib mai ceisio sicrhau bod rôl y comisiynydd wedi ei ddisgrifio'n yn fwy manwl ac eglur yn y mesur oedd Rhodri. Dyna mae fe ei hun yn dweud ond fe fydd eraill yn ei weld fel enghraifft arall o'r berthynas ryfedd rhwng Rhodri a'r byd Cymraeg.

Ar y naill ochor mae'n siarad yr iaith a phob tro yn barod i'w defnyddio. Dyw e ddim yn un o'r gwleidyddion hynny sy'n gwrthod gwneud cyfweliadau Cymraeg os nad oes 'na gyfle i wneud un Saesneg hefyd. Mae 'na fwy o'r rheiny na fyswch chi'n meddwl. Gwna i ddim o'u henwi ond dyw Rhodri byth wedi bod yn un ohonyn nhw.

Ar y llaw arall mae Rhodri'n reddfol ddrwgdybus ynghylch unrhyw syniad neu awgrym sy'n deillio o'r hyn mae'n ystyried fel "y sefydliad Cymraeg". Mae agweddau Rhodri tuag at y sefydliad hwnnw (os ydy'r peth yn bodoli) wedi eu gwreiddio'n ddwfn ac a wnelo rhywbeth a'i dad, W. J. Gruffydd a Saunders Lewis! Ta beth am hynny, maen nhw wedi eu hamlygu droeon ar hyd y blynyddoedd, yn natur gyfyngedig mesur iaith arfaethedig y llywodraeth ddiwethaf a'i agwedd tuag at addysg Gymraeg yn ei etholaeth, er enghraifft.

Serch hynny y tro hwn mae gan Rhodri bwynt dilys. Os nad yw'n rhan o rôl y Comisiynydd Iaith i fod yn bencampwr i'r Saesneg yng Ngwynedd oni ddylai'r mesur ddweud hynny?

Nid Rhodri yw'r unig un sy'n gweld diffygion y mesur. Fe fydd y rhai o ben-bandits byd y gyfraith yn mynegi eu hanfodlonrwydd mewn llythyr i'w wasg yfory. Mwy am hynny yn y man.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 16:02 ar 17 Mawrth 2010, ysgrifennodd crwban:

    hmmm, fel y gwyddom ni oll, mae'r Saesneg dan fygythiad. Mae Gwynedd yn llawn o blant i Saeson sy'n gwrthod siarad Saesneg am fod y Gymraeg mor gryf.

    Ydy Llafur nawr yn amddiffyn hawl Saeson i beidio dysgu unrhyw Gymraeg tra'n mynnu (yn ol Gordon Brown, Jack Straw etc) fod yn rhaid i fewnfudwyr ddysgu Saesneg? Fydd Rhodri Morgan yn amddiffyn hawl Saeson i beidio dysgu Ffrangeg yn Ffrainc? Neu, ydy'r Gymraeg ond is-iaith a ddylse gwybod ei lle fel iaith y gegin gefn a'r capel?

    Dydy'r Gymraeg ddim yn saff yn nwylo Llafur.

  • 2. Am 16:13 ar 17 Mawrth 2010, ysgrifennodd D Hughes:

    Mae'n biti ddaru Alun Ffred Jones ddim gofyn i Rhodri Morgan am rhoi enghreifftiau o lle mae'r Saseneg ddim ar gael yn Pen Lleyn?

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.