Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Gwyliwch eich iaith...

Vaughan Roderick | 15:27, Dydd Iau, 15 Hydref 2009

duck300.jpgLansiodd Edwina Hart ei hymgyrch i fod yn arweinydd Llafur Cymru heddiw gan gyhoeddi maniffesto llawer mwy manwl na rhai Huw Lewis a Carwyn Jones. Chwarae teg iddi ond mae 'na un paragraff allai ganu clychau larwm ymhlith cefnogwyr addysg Gymraeg.

Yn yr adran yn ymwneud a'r iaith mae Edwina yn dweud hyn;

"Rwyf eisiau i addysg gyfrwng Cymraeg fod ar gael i bawb sydd ei heisiau ac i ysgolion Cymraeg fod yn wirioneddol agored i bawb sy'n dymuno eu mynychu."

Nawr mewn un ystyr gellid darllen y frawddeg fel un sydd ond yn galw am gynyddu'r ddarpariaeth Gymraeg a datrys y prinder llefydd sy'n bodoli mewn rhai mannau ond mae hi wedi ei hysgrifennu mewn ffordd ryfedd iawn. Mae hi fel pe bai 'na awgrym bod yr ysgolion eu hun yn dewis a dethol eu disgyblion. Beth arall y mae awgrym nad ydynt yn "wirioneddol agored" yn gallu golygu?

Mae'r frawddeg nesaf yn ymhelaethu;

"Rwyf yn pryderu nad yw rhai ysgolion Cymraeg yn adlewyrchu'r cymunedau o'u cwmpas. Pam mae cyn lleied o wynebau duon mewn ystafelloedd dosbarth rhai o'r ysgolion Cymraeg yng nghanol ein dinasoedd mawrion, Casnewydd Caerdydd ac Abertawe? Y peth gwaethaf sy'n gallu digwydd i iaith yw ei bod hi'n troi'n eiddo ecscliwsif i leiafrif hunan dewisedig"

Nawr mae'r frawddeg olaf yna yn peri pryder i rai o wleidyddion y cynulliad. Dyw hi ddim mor wahanol â hynny i'r fath o ymosodiadau yr oedd gwleidyddion Llafur arfer cyfeirio at y "crachach" a'r "Welsh speaking elites " yn y dyddiau pan oedd yr iaith yn fwy o bwnc llosg.

Mae awgrymu bod y ffaith nad yw rhieni o gefndiroedd ethnig yn dewis danfon eu plant i ysgolion Cymraeg (os ydy hynny'n wir) yn golygu nad yw'r ysgolion hynny'n "wirioneddol agored i bawb" jyst yn od.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 16:34 ar 15 Hydref 2009, ysgrifennodd Macsen:

    Diolch Vaughan. Diddorol. wrth gwrs, gellid troi'r holl beth ar ei ben ac awgrymu fod aelodau o'r cymunedau ethnig yn sefydliadol wrth-Gymraeg ac yn meddu ar agwedd ffroen-uchel at y Gymraeg. Wedi'r cyfan, mae'r ddarpariaeth addysg Gymraeg ar gael i bawb os ydy pobl yn gwneud y penderfyniad i beidio danfon eu plant i ysgol Gymraeg onid yw'n amlwg fod y rhieni a meddwl isel o'r iaith Gymraeg ac o bosib yn wrth-Gymraeg.

    Yn sicr, o'm mhrofiad i, mae rhai o'r sylwadau mwyaf gwrth-Gymraeg rwy wedi eu clywed wedi dod o wefusau aelodau o'r gymuned ethnig. Rwy'n cofio menywod o is-gyfandir Asia yn gweiddi 'Welshies go home' pan agorwyd Ysgol Gymraeg Glantaf yng Nghaerdydd. Rwy'n cofio cael fy 'nghofyn' i adael tacsi yng Nghaerdydd un noson gan y gyrrwr gan 'mod i a'm ffrindiau'n siarad Cymraeg. rwy wedi cael person dramor yn edrych arnaf yn hurt a'm cyhuddo o hiliaeth am i mi ofyn cwestiwn yn y siop yn Gymraeg. Rhyfedd fel nad yw aelodau Llafur byth yn codi'r pwyntiau neu'r agwedd yma? Ai ond y Cymry Cymraeg sy'n gul?

    Rwy am i'r Gymraeg berthyn i bawb o bob hil a chred a'r ffordd fwyaf effeithiol o wneud hynny, ac i wneud y Gymraeg yn wir iaith amlethnig a chosmopolitan, yw fod pob ysgol yng Nghymru yn ysgol cyfrwng Cymraeg. Sgwn i os wneith Edwina (neu unrhyw un o'r Blaid Lafur) awsgrymu hynny?! Efallai y gelli di gofyn hi yn y cynhadledd i'r wasg nesa? (dwi o ddifri).


  • 2. Am 18:12 ar 15 Hydref 2009, ysgrifennodd Simon Brooks:

    Fyddwn i ddim yn mynd yn rhy bell a'r ddadl fod lleiafrifoedd ethnig yn elyniaethus i'r Gymraeg. Does dim tystiolaeth i awgrymu hyn. Y gwir amdani ydi bod cefnogaeth a gwrthwynebiad i'r Gymraeg yn y gymuned leiafrifol ethnig - yn union fel sydd yn y gymuned groenwyn ddi-Gymraeg.

    Hwyrach fod sylwadau Edwina Hart yn wrth-Gymraeg. Pwy a wyr? Efallai mai "addysg ddwyieithog" (h.y. hanner Saesneg) yw ei dymuniad. Byddai'n werth i chi ofyn iddi. Byddai hynny wrth gwrs yn annerbyniol. Rwyf wedi bod o'r farn erioed fod y Blaid Lafur yn sefydliadol wrth-Gymraeg. Ond methu yn y pen draw wna'r strategaeth hon oherwydd mai ffol yw ceisio ennill grym gwleidyddol ar sail dieithrio chwarter o'r boblogaeth am ddim rheswm amgen na'r ffaith eu bod yn siarad yr iaith anghywir.

    Dwi'n cytuno a Macsen o ran trywydd ei bwynt olaf, beth bynnag. Y ffordd i gynyddu ymgyfranogiad lleiafrifoedd ethnig o addysg Gymraeg yw ehangu'r addysg yma mewn llefydd megis Treganna a Grangetown yng Nghaerdydd. Ond pwy ydy prif wrthwynebwyr cynlluniau i ehangu addysg Gymraeg yn y cymunedau hyn? Y Blaid Lafur wrth gwrs!

  • 3. Am 19:17 ar 15 Hydref 2009, ysgrifennodd D Hughes:

    Am peth wirion i ddweud! Mae ysgolion Cymraeg yn agored i bawb, felly os ydi rhai rhieni ddim eisiau gyrru eu plant am beth bynnag rheswm, mae eisiau gofyn i nhw pam. A pa blaid sy'n fwyaf yn erbyn ehangu ysgolion gyfrwng Gymraeg yn ardaloed fel Gaerdydd? Ie, y blaid Lafur.

    Mae ond eisiau gweld pwy sy yn cefnogi y ddynes, Don Touhig a Paul Murphy, ddau sy gyda ychydig iawn o gydymdeimlad at yr iaith yn y gorffenol. Felly duw a helpa ni os rhain fydd yn rheoli dyfodol ein iath! Dim rhyfedd bod Llafur bron wedi diflannu yn gorllwein Cymru.

  • 4. Am 20:08 ar 15 Hydref 2009, ysgrifennodd Dewi:

    Hmmm - ysgwyn i faint o'r 10,000 o aelodau Llafur sy'n Gymry Cymraeg erbyn hyn. Oes yna aelod Llafur yn barod i wneud sylw yma er engrhaifft?

  • 5. Am 12:44 ar 16 Hydref 2009, ysgrifennodd Dai:

    Rwy'n credu bod Edwina Hart yn dangos ei annealldwriaeth o sefyllfa'r Gymraeg manhyn. Mae'r ardaloedd mae'n nodi (Casnewydd, Caerdydd, ac Abertawe) yn ardaloedd ble NAD OES digon o ddarpariaeth Addysg Gymraeg i rheina sydd yn mynd i ymladd amdani heb son am rheina sydd ar y ffens! Does dim ysgol gyfun Gymraeg yng Nghasnewydd hyd yn oed.

    Rhaid agor rhagor o ysgolion cyfrwng Cymraeg yn yr ardaloedd yma cyn meddwl am ceisio cynyddu'r nifer o deuluoedd di-Gymraeg (du neu gwyn) sy'n ddanfon ei blant i'r ysgolion cyfrwng Gymraeg.

    Mae D Hughes yn nodi yn cwbl gywir mae'r Cynghorau Llafur sydd wedi atal hyn yn y gorffenol.

  • 6. Am 20:39 ar 16 Hydref 2009, ysgrifennodd Sioned :

    Mae hyn yn cadarnhau'r argraff ges i o Edwina Hart pan on i'n ymgyrchu dros gael safle newydd i Ysgol Gymraeg Llwynderw yn Abertawe. Roedd hi (fel AC lleol) yn gefnogol o'r garfan oedd yn gwrthwynebu symud yr ysgol o'i safle dros dro i'r adeilad newydd yn West Cross (Rych chi siwr o fod yn cofio'r ffrae a'r chwerwder fuodd) ac fe wnaethon ni fel rhieni yr ysgol ei gwahodd i'n hannerch ni er mwyn iddi esbonio pam. Cyn y noson honno ron i wedi clywed llawer un ( a sawl un ym Mhlaid Cymru) yn ei chanmol fel gwleidydd craff a medrus. Ond roedd ei hagwedd at yr iaith ac addysg Gymraeg yn glir - dwi'n ei chofio hi'n dweud ei bod yn cydymdeimlo a'r trigolion hynny yng Ngorllewin Abertawe oedd yn gwrthwynebu sefydlu ysgol Gymraeg newydd yno - gan nad yw Cymraeg yn iaith 'naturiol' yr ardal....fe wnaeth hi helpu i hollti cymuned. Canlyniad hyn oedd agor ysgol sydd yn barod yn rhy fach - os yw hi am i'r ysgolion Cymraeg ehangu eu hapel mae angen iddyn nhw fod yn ddigon mawr yn y lle cynta!

  • 7. Am 12:16 ar 18 Hydref 2009, ysgrifennodd Mark Jones:

    Wel, pwy a wyr, efallai y bydd Edwina Hart yn cefnogi gwersi Cymraeg am ddim ar gyfer newydd-ddyfodiaid, fel y gallan nhw ddysgu Cymraeg a chyfranogi'n llawn o'r gymdeithas o'u cwmpas - wedi'r cwbl mae gwersi Saesneg am ddim ar gael i newydd-ddyfodiaid!

    Ond, wrth gwrs nid dyna yw bwrdwn yr hyn y mae'n ei awgrymu. Mae ei gosodiad yn rhan o strategaeth gan rai yn y Blaid Lafur i awgrymu bod hiliaeth yn rhemp yn yr ysgolion Cymraeg ac ymhlith siaradwyr Cymraeg, rhywbeth nad yw'n wir, ac rwy'n sicr bod Edwina Hart a'r aelodau eraill yn y Blaid Lafur sy'n ceisio defnyddio'r dacteg honno yn gwybod hynny hefyd. Ond, maen nhw'n becso, maen nhw wedi gweld y cymunedau 'lleiafrifoedd ethnig' yn troi at Blaid Cymru, ac yn cael croeso a chwarae teg (sawl AC Asiaidd sydd gan y Blaid Lafur?) Mae gan aelodau o'r cymunedau hyn rol amlwg ym Mhlaid Cymru yng Nghaerdydd ac mae'r Blaid Lafur erbyn hyn yn colli allan - dyna paham maen nhw eisiau ymosod ar yr ysgolion Cymraeg, er mwyn ymosod yn llechwraidd ar Blaid Cymru, ond peth ffol yw hynny, gan nad yw trwch y rhieini sy'n anfon eu plant at ysgolion Cymraeg yn ymwneud ag unrhyw blaid (dw i ddim yn aelod o blaid, a bues i'n aelod o'r Blaid Lafur am flynyddoedd, ac wedi ymgyrchu amdani o fewn y pum mlynedd ddiwethaf ond Cymraeg yw iaith gyntaf fy mab ac mae'r rwts hwn yn fy nghyddurddo!) a bydd ymosodiadau o'r fath yn troi'r rhieni hynny i ffwrdd o'r Blaid Lafur. Dylid hefyd gofio bod plant (neu wyrion a wyresau) rhai gwleidyddion amlwg yn y Blaid Lafur mewn ysgolion Cymraeg, neu wedi bod. Dw i ddim eisiau enwi enwau gan fod preifatrwydd yn beth pwysig a dylid parchu hynny, ond rhagrith yw gweld rhai o'r gwleidyddion hyn yn siarad yn y fath ffordd a nhwthau'n gwybod bod eu plant neu blant eu plant yn yr ysgolion hynny neu wedi bod trwy'r sustem.

    Ac yn olaf, efallai y dylai Edwina Hart fynd i weld rhai o'r ysgolion hyn a holi'r plant am eu cefndiroedd, mae disgynyddion pwyliaid, rwsiaid, gwyddelod, iddewon, ac ie, y cymuenedau asiaidd, a chroenddu yn yr ysgolion hyn, ac maen nhw'n parchu'r egwyddor o gydraddoldeb ond mae cau llygaid i'r gwirionedd a galw pobl yn hiliol yn chwarae'n saff i ddwylo'r selogion gwrth-gymraeg sydd yn y Blaid Lafur o hyd, y rhai nad yw'n fodlon derbyn bod gan siaradwyr Cymraeg hawl i addysg yn eu hiaith eu hunain.

  • 8. Am 17:06 ar 20 Hydref 2009, ysgrifennodd Mark Jones:

    Jyst eisiau ategu rhywbeth i'm sylwadau uchod - drwy gydol yr wythnos hon rwyf wedi bod yn edrych ar famau a thadau'r plant sy'n sefyllian y tu allan i un o ysgolion cynradd Cymraeg ein prif-ddinas wrth inni i gyd aros am i'n hepil gael eu rhyddhau o'u dosbarth. Ie, mae'n wir bod y rhan fwyaf ohonynt yn groenwyn (ond eto mae'r un peth yn wir am ran fwyaf y trigolion lleol) ond yn rhyfedd ddigon, yng ngoleuni honiadau Edwina, rwy'n dechrau sylweddoli faint ohonynt sydd yn amlwg o dras croenddu - rhywbeth nad oeddwn i wedi talu dim sylw iddo o'r blaen ond bellach rwy'n ei weld yn glir.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.