Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Galw Draw

Vaughan Roderick | 12:12, Dydd Mercher, 14 Hydref 2009

telephone_203bbc.jpgFe fydd y rheiny ohonoch chi sy'n byw yn un o'r etholaethau ymylol traddodiadol wedi hen arfer erbyn hyn a chanfasio ffôn. Doeddwn i erioed wedi cael y profiad tan neithiwr.

Er nad yw Gorllewin Caerdydd, yr etholaeth dwi'n byw ynddi, yn gadarnle Lafur does 'na ddim brwydr go-iawn wedi bod yma ers i Rhodri Morgan gipio'r sedd o'r Ceidwadwyr yn 1987. Roedd y Torïaid wedi ei hennill yn '83 am y tro cyntaf ers yr ail rhyfel byd yn rhannol oherwydd dryswch ynghylch enwau ymgeiswyr y Blaid Lafur a'r SDP. Ta beth, ers '87 mater o ambell i daflen a chnoc ar ddrws oedd yr ymgyrchu etholiadol yn fan hyn. Tan eleni.

Llafur oedd ar y ffôn ac, o farnu o'r acen, aelod lleol oedd wrthi nid gweithwr mewn rhyw fanc ffôn ym mhellafion Lloegr. Yr hyn sy'n ddiddorol yw bod Llafur yn gweld yr angen i wneud hyn. O safbwynt ystadegol mae Gorllewin Caerdydd yn rhif 194 ar restr dargedau'r Ceidwadwyr. I fod yn deg mae newid cymdeithasol, canlyniadau etholiadau lleol, cynulliad ac Ewrop ynghyd a gweithgarwch y Ceidwadwyr lleol yn awgrymu y gallai hi fod yn uwch mewn gwirionedd.

Nawr, pe bai Llafur yn dewis gosod ei llinellau amddiffynnol mewn seddi sydd (ar bapur) mor ddiogel a Gorllewin Caerdydd fe fyddai hynny'n gyfaddefiad bod y blaid nid yn unig am golli'r etholiad nesaf ond ei bod hi'n debyg o gael crasfa. Rwy'n amau mai mesur maint y bygythiad yw pwrpas y canfasio presennol yn hytrach nac arwydd bod penderfyniad strategol eisoes wedi ei wneud ond mae'r ffaith bod Llafur hyd yn oed yn ystyried torri ei ffosydd a gosod ei magnelau ar gaeau Llandaf ac ym Mharc Victoria yn dweud rhywbeth!

Yn y cyfamser fe fydd hi'n fwy eglur sut mae pethau'n sefyll yn wleidyddol yng Nghymru ymhen pythefnos. Draw ar flog Betsan mae 'na fanylion am gynllun newydd i gynnal arolygon barn rheolaidd yng Nghymru. Hen **#$** bryd, fe ddweda i!

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 14:15 ar 14 Hydref 2009, ysgrifennodd Mabon:

    Dydi blog Betsan ddim yn gweithio heddiw, am ryw reswm - dim ond sgrin wen sydd i'w weld, gyda'r archifau ar y gwaelod.

  • 2. Am 14:31 ar 14 Hydref 2009, ysgrifennodd William:

    Fe wnaethoch awgrymu cyn yr haf eich bod yn bwriadu ysgrifennu dadansoddiad o ddyfodol gwleidyddol etholaethau ymylol yng Nghaerdydd. A ydych dal yn bwriadu gwneud hyn?

  • 3. Am 14:54 ar 14 Hydref 2009, ysgrifennodd Elin:

    Ai'r Ceidwadwyr yw'r bygythiad mwyaf yng Nghorllewin Caerdydd? Mae Plaid Cymru yn grediniol bod ganddyn nhw obaith ennill yma.

  • 4. Am 17:43 ar 14 Hydref 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Ar lefel seneddol ras dau geffyl yw Grollewin Caerdydd yn fy marn i...ond mae'n etholaeth hynod ddiddorol ar lefel gynulliadol. Mae William wedi atgoffa fy mod wedi addo erthygl ynghylch hyn...Mae hi ar ei ffordd!

  • 5. Am 17:47 ar 14 Hydref 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Dydw i ddim yn cael y broblem yna fy hun ond wna i ofyn i'r bois gael golwg arni.

  • 6. Am 17:56 ar 14 Hydref 2009, ysgrifennodd William:

    Elin, fe ddaeth Plaid Cymru'n bedwerydd yn yr etholiad cyffredinol diwethaf yn etholaeth Gorllewin Caerdydd, dros dair mil o bleidleisiau y tu ol i'r Ceidwadwyr. Cytunaf a Vaughan mai ras dau geffyl amlwg fydd hi yng Ngorllewin Caerdydd y flwyddyn nesaf rhwng Llafur a'r Ceidwadwyr.

  • 7. Am 08:39 ar 15 Hydref 2009, ysgrifennodd Hogyn o Rachub:

    Ar y risg o gael fy nghyhuddio o hunanhyrwyddo (nid fy mwriad - gaddo rwan!) dwi 'di taro golwg ar Orllewin Caerdydd os ydi hi o ddiddordeb

    http://rachub.blogspot.com/2009/10/gorllewin-caerdydd.html

    Fydd hi'n ddiddorol cymharu!

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.