Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

ANHYGOEL!

Vaughan Roderick | 16:50, Dydd Mercher, 2 Medi 2009

clancy.jpgMae'n rhyfedd beth mae dyn yn ffeindio ar beirannau ffotogopio weithiau! Beth yw hyn? Diawcs, llythyr gan brif weithredwr y cynulliad Claire Clancy at y Bwrdd Iaith yn amddiffyn hawl cyfreithiol y comisiwn i dorri yn ol ar gyfieithu'r cofnod. Dyna gyd-ddigwyddiad!

Mae'r llythyr yn cyfaddef bod geiriad y cynllun iaith yn amwys. Efallai bod hynny'n wir am y fersiwn Saesneg. Yn sicr dyw e ddim yn wir am y geiriad Cymraeg. Serch hynny mae Ms. Clancy yn mynnu nad yw'r polisi newydd yn groes i'r cynllun. Mae'n mynd yn ei blaen i ofyn i'r bwrdd gymeradwyo newidiadau i'r cynllun i wneud hynny'n ddiamwys. Nonsens yw hynny wrth reswm. Os ydy'r polisi yn cydymffurfio a'r cynllun pam bod angen newid geiriad y cynllun?

Mae 'na rywbeth llawer, llawer mwy rhyfedd i ddod. Mae'n amlwg o'r llythyr bod y bwrdd wedi bygwth dwyn sancsiynau yn erbyn y Cynulliad o dan Deddf Iaith 1993 oherwydd y newid polisi. Mae'r ymateb i'r bygythiad hwnnw yn gyfan gwbwl anhygoel.

Mae Ms. Clancy yn honni nad oes angen i'r Cynulliad gael cynllun iaith o gwbwl a nad oes 'na unrhyw werth statudol i'r cynllun iaith presenol! Dywed y llythyr "any reference to statutory powers is innapropriate" ac mae'n cynnig "dialogue on the basis of voluntary co-operation."

Gadewch i ni fod yn gwbwl eglur beth sy'n mynd ymlaen yn fan hyn. Fe bleidleisiodd cyfarfod llawn o'r cynulliad i fabwysiadu cynllun iaith. Roedd y cynllun hwnnw'n datgan ei fod wedi ei lunio yn unol â chymal 21 o ddeddf iaith 1993. Hynny yw bod y cynllun yn un statudol.

Nawr mae'r comisiwn a'i swyddogion yn chwilio ym mhob twll a chornel am esgusodion cyfreithiol i anwybyddu ewyllus a phleidlais y cynulliad llawn. Y cyfan sydd angen i wneud y cynllun yn un statudol yw i'r comisiwn ei gymeradwo. Roedd y cynulliad yn dymuno cael cynllun iaith statudol. Mae Dafydd Elis Thomas, Chris Franks, William Graham, Peter Black, a Lorraine Barret wedi penderfynnu rhwystro hynny rhag digwydd.

Pe bai unrhyw gorff cyhoeddus arall yng Nghymru yn ymddwyn fel hyn fe fyddai aelodau'r cynulliad ar eu pennau fel tunnell o frics. Anghredadwy.

DIWEDDARIAD Mae Bwrdd yr Iaith yn cymryd cyngor cyfreithiol ynghylch pa gamau i gymryd nesaf.

DIWEDDARIAD 2 Deallaf fod y Gweinidog Treftadaeth Alun Fred Jones wedi 'sgwennu at y comisiwn i "fynegi pryderon"

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 00:25 ar 3 Medi 2009, ysgrifennodd Simon Brooks:

    Fe werthfawrogaf y ffaith dy fod yn rhoi sylw i hyn. Does dim digon o drafod wedi bod. Efallai oherwydd y penderfyniad gwaradwyddus i ryddhau'r penderfyniad ar ddydd Gwener olaf y Steddfod pan oedd unrhywun call mewn tafarn yn y Bala. Ond bydd rhaid mynd i'r afael a'r peth yn awr. Difyr oedd gweld Gwion Lewis yn awgrymu cael adolygiad barnwrol o benderfyniad y Comisiwn.

    I mi, mae penderfyniad y Cynulliad i dorri'r Cynllun Iaith yn wael oherwydd yr hyn y mae'r Cynulliad wedi bod yn ei ddweud wrthym ni ers ei sefydlu yw ei fod am drin dinasyddion Cymru'n gyfartal, a sicrhau fod bywyd Cymru'n gynhwysol ayyb. Dwi'n cefnogi'n ddi-amod y camau sydd wedi eu cymryd i sicrhau fod cynwysoldeb yn cael ei hyrwyddo mewn meysydd cydraddoldeb eraill y mae'r Cynulliad yn ymwneud a hwy (hil, gender, anabledd ayyb).

    Dwi ddim yn deall felly pam fod y Cynulliad yn bwriadu trin siaradwyr Cymraeg ar sail anghydraddoldeb.

    Pa ddemocratiaeth all ffynnu os yw'n trin 20% o'i dinasyddion ar y sail eu bod yn anghyfartal?

  • 2. Am 15:11 ar 3 Medi 2009, ysgrifennodd Hedd Gwynfor:

    Dyma ddatganiad gan Gymdeithas yr Iaith ar y mater yma:

    **Cymdeithas am gael Cyngor Cyfreithiol ynglŷn a'r Cofnod**

    Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg am gael cyngor cyfreithiol i weld os oes modd herio penderfyniad Comisiwn y Cynulliad ddechrau Awst i roi'r gorau i gynhyrchu trawsgrifiadau dwyieithog o gyfarfodydd llawn y Cynulliad. Dywedodd Dafydd Morgan Lewis ar ran Cymdeithas yr Iaith Gymraeg

    "Yr ydym wedi cwyno mewn llythyr at y Comisiwn yngl?n â'r mater hwn eisoes. Yn y llythyr hwnnw bu i ni bwysleisio fod y penderfyniad yn dangos gwendid yn y Ddeddf iaith bresennol lle mae cyrff yn gallu creu polisïau iaith ac yna eu hanwybyddu yn llwyr."

    "Bu i ni hefyd bwysleisio fod hyn yn gosod esiampl wael i gyrff eraill yn y sector gyhoeddus i i anwybyddu eu Cynlluniau Iaith a dechrau cwtogi ar eu gwasanaethau dwyieithog gan ddefnyddio penderfyniad y Cynulliad fel esgus dros wneud hynny."

    "Yn yr un modd tybiem y gallai penderfyniad y Comisiwn gael effaith yr un mor andwyol ar y sector breifat gan fod pwysau ar hyn o bryd ar iddynt hwythau fabwysiadu polisïau dwyieithog hefyd. Yn eu hateb i ni mae'r Comisiwn yn mynnu fod y cyfieithu yn rhy ddrud a dyna'r union ddadl a ddefnyddir gan y sector breifat dros beidio a defnyddio'r Gymraeg"

    "Mae'n drist meddwl fod Llywydd y Cynulliad yn rhan o'r penderfyniad hwn gan ei fod yn adlewyrchiad o feddylfryd trefedigaethol a thaeogaidd sydd yn gwbwl annheilwng o wlad sy'n mynnu ei bod yn trin y Gymraeg a'r Saesneg yn gyfartal."

    "Ond fel y pwysleisiais ar y dechrau ein nod yn awr fydd yst

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.