Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Cwmgors, Daren a Garth Tonmawr

Vaughan Roderick | 14:41, Dydd Mawrth, 9 Mehefin 2009

Mae'n destun balchder i mi bod Rhodri Morgan yn darllen y blog yma o bryd i gilydd. Mae'n ymddangos ei fod wedi darllen yr hyn wnes i bostio ddoe ynghylch cyflwr y blaid Lafur. Fe dreuliodd talp o'i gynhadledd newyddion heddiw yn trafod rhai o'r pwyntiau yr oeddwn wedi eu codi.

Roedd y Prif Weinidog yn cytuno a rhannau helaeth o'r dadansoddiad ond yn anghytuno ynghylch un pwynt sylfaenol. Gan nad yw Rhodri yn dewis gwneud sylwadau (neu efallai nad yw'n gwybod sut mae gwneud) fe wnâi grynhoi ei ddadl.

Yn ôl Rhodri mae parodrwydd cefnogwyr Llafur i gefnu ar y blaid yn dyddio yn ôl i'r cyfnod cyn i'r strwythurau undebol a phleidiol ddechrau dirywio. Nid fe yw'r cyntaf i weld isetholiad Caerfyrddin (1966) fel y trobwynt allweddol yn ein diwylliant gwleidyddol. O hynny ymlaen medd Rhodri roedd y peiriant Llafur ond yn gallu gwarantu buddugoliaeth mewn etholiadau lle'r oedd llywodraethau yn cael eu hethol. Yn yr etholiad hwnnw a rhai Gorllewin Rhondda (1967) a Chaerffili (1968) fe ddaeth dyddiau teyrngarwch awtomatig i Lafur i ben. Dim ond mewn etholiadau cyffredinol yr oedd Llafur yn gallu dibynnu ar ei chefnogwyr o hynny ymlaen.

Mae 'na sylwedd i'r ddadl ond dim ond yn yr ystyr yma. Mae'n awgrymu bod y dirywiad yn y teyrngarwch i Lafur wedi digwydd yn gyfochrog a'r dirywiad yn y drefniadaeth yn hytrach o ganlyniad iddo. Cofiwch mai un o'r rhesymau am lwyddiant Plaid Cymru yn y Rhondda a Chaerffili oedd cynllun Harold Wilson i gau pyllau glo- rhaglen llawer mwy ffyrnig nac un Mrs Thatcher yr wythdegau.

Rhwng 1964 a 1970 cafodd y nifer o lowyr yng Nghymru ei haneri gyda bron i ddeugain mil o ddynion yn colli eu gwaith. Mae gwleidyddiaeth Cymru yn ceisio dal lan a'r newid cymdeithasol ac economaidd chwyldroadol hyd heddiw.

Mae darllen rhestr o'r hen byllau glo yn brofiad rhyfedd. Mae hi fel camu i mewn i lyfr hanes. Glyncastell, Fforchaman, Felinfran, Wernos, Aberbeeg, Garngoch rhif 3, Parc, Pwllbach... mae'n rhaid i Lafur ofalu nad yw enw'r blaid ei hun yn cael ei ychwanegu at y rhestr.

Rwy'n ddiolchgar i Hedd am ddanfon tabl i mi yn dangos canlyniadau etholiadau Ewrop o 1995 ymlaen. Ein tuedd ni fel newyddiadurwyr yw cymharu'r canlyniadau ers 1999 pan ddaeth y drefn gyfrannol i rym. Mae ychwanegu ffigyrau 1995 yn ddadlennol o safbwynt mesur maint trychineb y Blaid Lafur. Yn y flwyddyn honno enillodd Llafur 530,749 pleidlais (56% o'r cyfanswm). Eleni'r ffigwr oedd 138,852 (20.3%).

Abergorki, Crumlin, Pentreclwydau, Ynyscedwyn...


SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 17:41 ar 9 Mehefin 2009, ysgrifennodd Idris:

    Yn Pwll mawr Blaenafaon ar y ffordd alaln o'r amgueddfa mae'r holl byllau glo a fodolai yng Nghymru wedi eu rhestru ar y wal. Mae'n rhyfeddol o beth - fel rhyw gofeb rhyfel fawr yn gwneud i rywyn sylwi maint y gwymp.

  • 2. Am 22:10 ar 9 Mehefin 2009, ysgrifennodd Enw:

    Wyt ti'n twittro Vaughan?

  • 3. Am 22:29 ar 9 Mehefin 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Nac ydwyf. Dwi o hyd yn ceisio gweithio mas Myface a Spacebook neu rywbeth felly! Beth uffern yw pocio a wal? Dydw i ddim yn sicr fy mod hyd yn oed yn deall y busnes blogio ma! Dim ond heddiw fe wnes i ddysgu bod modd i mi gymedroli sylwadau blog ar ffon symudol. Pam na ddywedwyd hynny ddyflwydd yn ôl? Fe fyddai wedi osgoi llawer o rwystredigaeth i fi ac i chi!

  • 4. Am 15:26 ar 10 Mehefin 2009, ysgrifennodd dewi:

    Ty Trist yn Nhredegar

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.