Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Hen bethau anghofiedig...

Vaughan Roderick | 14:10, Dydd Mawrth, 3 Mawrth 2009

I ddyfynnu Meic Stevens "Nid myfi yw'r un i ofyn pam..." ond mae problemau technegol wedi llesteirio system flogio'r BBC dros y dyddiau diwethaf gan ei gwneud hi'n amhosib i chi, neu fi, bostio. Ymddiheuriadau dwys.

Mae'n chwarter canrif ers sefydlu asiantaeth "Cadw" ac mae llyfryn i nodi'r achlysur newydd ei gyhoeddi. Dyw e ddim yn syndod efallai bod y ddau lun cyntaf yn y cyhoeddiad yn digwydd bod o lefydd yn etholaeth y Gweinidog Treftadaeth! Dim syndod chwaeth mai llun o Gastell Caernarfon yw'r cyntaf ond gallai'r ffaith mai Castell Dolbadarn yw'r ail fod yn arwyddocaol.

Dros y blynyddoedd diwethaf, ac yn enwedig ers ffurfio'r glymblaid bresennol, cafwyd chwyldro tawel yn y ffordd y mae Cadw ac asiantaethau erauill yn cyflwyno ein hanes. Y gwyn yn erbyn Cadw ers talwm oedd bod yr asiantaeth yn dyrchafu henebion Rhufeinig, Normanaidd a Seisnig ac yn anwybyddu safleoedd Cymreig pwysig. Dyrchafu'r concwerwr ar draul y rhai cafodd eu gorchfygu oedd hynny yn ôl rhai. I eraill roedd synnwyr cyffredin yn awgrymu bod clamp o gastell yn haeddu mwy o sylw na thomen mewn cae.

Does dim dwywaith mai arddel y safbwynt cyntaf y mae Alun Ffred Jones. Yn ddiweddar cyhoeddodd gynllun gwerth dwy filiwn o bunnau i wneud safleoedd 'Cymreig' megis Sycharth a Chastell Deganwy yn fwy dealladwy. Heddiw fe aeth un cam ymhellach trwy fynnu bod angen i'r arddangosfeydd yn y safleoedd Normanaidd esbonio'u cyd-destun. Nid cyd-ddigwyddiad oedd y ffaith bod Caernarfon cyferbyn â Rhosyr, Biwmares yn wynebu Abergwyngregyn a Chonwy ar draws y dŵr i Ddeganwy meddai ac fe ddylai Cadw sicrhâi bod ymwelwyr a'r Cestyll yn deall hynny.

Yn yr un modd, meddai, dylai ymwelwyr â Blaenafon ddeall nad "bywyd llawen gyda chôr meibion yn canu yn y cefndir" oedd bywyd y gweithiwr haearn a'r glöwr. I ddefnyddio gair y gweinidog eu hun roedd hi'n bwysig i bobol wybod pa mor "uffernol" oedd bywyd pob dydd yn ystod y chwyldro diwydiannol.

Mae gen i lawer o gydymdeimlad a'r hyn mae'r gweinidog yn ceisio ei gyflawni. Sicrhau dysgl wastad hanesyddol yw'r bwriad, dwi'n meddwl, yn hytrach na defnyddio hanes Cymru fel propaganda gwleidyddol. Serch hynny mae angen cadw llygaid barcud ar wleidyddion wrth iddyn nhw ymyrryd yn y maes yma.

Un o fy hoff lyfrau yw nofel o 1937 o'r enw "Swastika Night" gan Katharine Burderkin. Thema'r nofel yw'r ffordd y mae'n bosib rheoli cymdeithas trwy reoli ei dealltwriaeth o'i hanes. Dwi'n rhyfeddu na wnaeth yr awdur ddwyn achos yn erbyn George Orwell am ddwyn y syniadau a'r stori ar gyfer 1984!

Dydw i ddim yn meddwl am eiliad bod Alun Ffred yn ceisio ymddwyn fel "Brawd Mawr" Orwell neu'n bwriadu sefydlu cwlt yr "Awyren Sanctaidd" fel Natsïaid Birderkin ond mae'n bwysig nad yw gwleidyddion yn defnyddio adnoddau cyhoeddus i ledaenu fersiwn bleidiol o'n hanes. Mae hynny'n wir am y "Museum of Britishness" y mae Gordon Brown yn ei chwennych ac fe fyddai'n wir hefyd pe bai arddangosfeydd cyhoeddus yn awgrymu mai "Aros Mae" yw'r gair olaf ar hanes Cymru!

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 18:08 ar 3 Mawrth 2009, ysgrifennodd Dan Din:

    Cytuno i raddau Vaughan, ond bu ymdriniaeth ryfeddol o hanes Cymru ar hyd y degawdau a fu. Pwy sy'n cofio blwyddyn y cestyll yn 1982. Cefais sioc pan yn ymweld a'r Gogledd rhyw dro a sylweddoli fod cestyll Seisnig yn cael eu trin fel eglwysi bron tra fod cestyll y Cymry yn cael eu gadael i ddirywio ar y cyfan. Cestyll Harlech, Conwy a Chaernarfon yn wych, ond gyda arwyddion Saesneg, hanes Seisnig, siopau Seisnig a Saesneg, staff Saesneg (yn Harlech).

    Roedd Castell y Bere ar y llaw arall yn ddi-siop, yn ddi-staff, yn ddi-hanes a'i gyflwr yn peri gofid. Roedd castell Dolbadarn mewn cyflwr truenus, y waliau'n erydu a graffiti yn boendod.`

  • 2. Am 23:01 ar 3 Mawrth 2009, ysgrifennodd Dafydd Tomos:

    Mae'r corff annibynnol HERIAN wedi bod yn gweithio ers llawer blwyddyn i hyrwyddo twristiaeth treftadaeth yn enwedig yng nghyd-destun diwydiannol. Fel y Bwrdd Croeso cynt, mi fyddan nhw hefyd yn rhan o'r Cynulliad erbyn diwedd y mis.

    Roeddwn i mewn canolfan dwristiaeth yn Ne Cymru heddiw lle roedd y rheolwr yn feirniadol iawn o beth oedd am ddigwydd. Alla'i ddim anghytuno a'i farn fod llyncu cyrff fel hyn fewn i'r WAG fel arfer yn golygu fwy o wariant (ar swyddi ym Mharc Cathays, nid ar brosiectau) a a biwrocratiaeth, llai o arbenigedd a phrofiad a fwy o ymyrraeth gwleidyddol gan weinidogion a'i "pet projects".

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.