Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Dewis geiriau

Vaughan Roderick | 17:45, Dydd Mercher, 4 Chwefror 2009

Mae Ramesh Patel yn gynghorydd lleol i mi ac mae gen i barch mawr tuag ato. Mae gen i nai a nith yn Ysgol Treganna hefyd. Mae'n well i mi ddewis fy ngeiriau yn ofalus felly. Mae'n biti bod Ramesh heb wneud hynny.

Ramesh yw un o'r cynghorwyr mwyaf cydwybodol i mi gwrdd ag ef erioed. Mae ef a'i deulu wedi dioddef yn enbyd ar ôl cael eu targedi gan hwliganiaid lleol. Difrodwyd ei gar ar sawl achlysur ac ymosodwyd ar ei dŷ.

Heddiw mae Plaid Cymru wedi gwneud cwyn swyddogol amdano ar ôl iddo gyfeirio at "ethnic cleansing" mewn cyfarfod cyhoeddus wrth ymosod ar gynllun i droi un o'r ysgolion lleol yn Ysgol Gymraeg.

Ffrae fach leol yw hon mewn sawl ystyr ond mewn ardal amlhiliol fel Treganna mae 'na gyfrifoldeb ar bob gwleidydd o bob hil i ddewis eu geiriau'n ofalus- yn enwedig efallai gwleidydd sy'n gwiethio'n llawn amser i Rhodri Morgan.

Mae Ramesh bellach wedi ymddiheuro am ei sylwadau ond gan ychwanegu;

"I want the cosmopolitan community we have in Cardiff to be reflected in the schools in Canton and Riverside. The plan put forward by the Lid Dem/Plaid coalition would not achieve that, and would create an unnecessary segregation within the community I serve."

Yr hyn mae Ramesh yn dymuno gweld yw "ysgolion cynradd dwyieithog" yn hytrach na rhai Cymraeg a Saesneg. Does dim angen dweud bod yr holl dystiolaeth academaidd yn awgrymu bod ysgolion o'r fath yn gwbwl aneffeithiol o safbwynt meithrin ieithoedd lleiafrifol.

Ydy Rhodri'n cytuno a'i gynghorydd, tybed?

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 19:11 ar 4 Chwefror 2009, ysgrifennodd blogmenai:

    Hmm - dwi'n deall bod Ramesh yn boblogaidd iawn yn y Duke of Clarence.

  • 2. Am 19:59 ar 4 Chwefror 2009, ysgrifennodd twm:

    Mae rhaid i Rhodri rhoi'r sac i rhywun sy'n dweud y fath beth. Mae rhaid oedd Ramesh yn gwybod hanes yr gair "ethnic cleansing".

  • 3. Am 20:29 ar 4 Chwefror 2009, ysgrifennodd Un-o-Dreganna:

    A Mr Patel oedd y cynghorydd ddwedodd wrth riant oedd yn pryderu nad oed digon o lefydd yn ysgolion Cymraeg y cylch y dyle anfon ei blentyn i ysgol "normal". Ac mae'r ddwy ysgol Gymraeg yn Nhreganna yn "gosmopolitan" chwedl Mr Patel gyda disgyblion o bob hil ym Mhwll Coch a Threganna.

  • 4. Am 01:14 ar 6 Chwefror 2009, ysgrifennodd Simon Brooks:

    Mae cryn dipyn o amrywiaeth ethnig yn Ysgol Treganna. Er enghraifft, mae Cadeirydd y Llywodraethwyr o dras Ffineg, llywodraethwr arall o dras Fengaleg, arweinydd ymgyrch y rhieni dros safle fwy addas i'r ysgol o dras Seisnig ac arweinydd y PTA o dras Gwyddelig. Ond nid da lle gellir gwell, ac wrth reswm y dylid gwneud addysg Gymraeg mor agored i wahanol grwpiau ethnig ag sy'n bosib.

    Y cwestiwn yw, sut y cyflawnir hyn? Gyda'i disgyblion ar fin eu rhannu rhwng safle tair ysgol, adnoddau anaddas, ac anawsterau mawr cael mynediad, nid yw Ysgol Treganna yn y sefyllfa orau ar hyn o bryd i ddenu disgyblion o gefndiroedd cymharol newydd i addysg Gymraeg.

    O symud i safle Ysgol Lansdowne, fodd bynnag, byddai'r cyfuniad o adeilad addas, talgylch ehangach - a hynny yn agosach at strydoedd mwy amlethnig Treganna - yn gyfle gwych i addysg Gymraeg ymestyn allan at leiafrifoedd ethnig a grwpiau cymdeithasol difreintiedig.

    Mawr obeithiwn felly y bydd y glymblaid Plaid Cymru-Dem Rhydd yn manteisio ar y cyfle i wneud addysg Gymraeg mor gynhwysol ag sy'n bosib trwy symud Ysgol Treganna i safle Lansdowne, a hynny ar frys.

    O ran y Cyng. Patel, roedd ei sylwadau'n annerbyniol. Nid yw wedi eu tynnu yn ol; dim ond eu newid. Onid ffurf ar lanhau ethnig yw "segregation" wedi'r cwbl?

    Pam nad yw Llafur yng Nghaerdydd wedi tynnu'r chwip oddi arno? Pam ydy o'n parhau i weithio i'r Prif Weinidog? A ydy o'n briodol iddo barhau fel llywodraethwr yn Lansdowne?

    Cwestiynau dilys yw'r rhain y dylai newyddiadurwyr fynd ar eu holau.

  • 5. Am 10:58 ar 6 Chwefror 2009, ysgrifennodd Albert:

    Beth mae'r Prif Weinidog wedi'i ddeud am hyn i gyd? Mae hwn yn edrych fel ymgais bwriadol i greu tensiwn - felly dwi'n meddwl bod rhaid i Rhodri Morgan ddweud ydi o'n cefnogi ei weithiwr neu beidio. Dwi'n gobeithio na fydd y lefel yma o sylwadau'n dechrau dod i fewn i fatar yr iaith eto.

  • 6. Am 11:58 ar 6 Chwefror 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Dyw Rhodri ddim wedi ymateb dim ond dweud mai fel cynghorydd yr oedd Ramesh yn siarad

  • 7. Am 12:43 ar 6 Chwefror 2009, ysgrifennodd nia:

    Ffaith: nid oes digon o lefydd ysgol cyfrwng Cymraeg yn Nhreganna i ddiwallu'r galw cynyddol (ac mae'r adnoddau sydd yna yn gwbl annigonol, gyda brodyr a chwiorydd yn cael eu rhannu rhwng 2 safle filltiroedd i'w gilydd)Rhaid gwneud rhywbeth.

    Ffaith: mae gormod o lefydd gwag mewn ysgolion cyfrwng Saesneg yn Nhreganna sy'n wastraff arian i'r cyngor ac felly i'r trethdalwr. Ni all y sefyllfa gyllidebol hon barhau. Rhaid gwneud rhywbeth.

    Ysgol ddwyieithog yw'r unig ateb (gwlad gwcw) i'r cynghorydd hwn - sdim ots am (af)lwyddiant y model hwn beth sy'n bwysig iddo yw bod ysgol Saesneg ddim yn cau ac ysgol Gymraeg yn agor ar y safle.

    Pam nad yw'n credu y gall amlethnigrwydd ffynnu (fel ag y mae mewn gwirionedd ac wedi ers tro) yn ysgolion Cymraeg yr ardal hon? Oes ganddo farn am amlieithrwydd?

    Dylai gael ei geryddu am ei sylwadau hurt a llawn hysteria, a/neu gael ei orfodi i dreulio ychydig o amser yn darllen ei lyfrau hanes.


  • 8. Am 13:56 ar 7 Chwefror 2009, ysgrifennodd Eirian:

    Un o'r pethau mwyaf trawiadol am y stori hon yw'r ffaith nad yw tudalen Saesneg y BBC yn rhoi dim sylw iddi o gwbl (dim ar newyddion y de-ddwyrain, dim ar y tudalen 'Welsh Politics', hyd yn oed).

    Yn y gorffennol, mae ambell gynghorydd Plaid Cymru wedi gwneud sylw am iaith/amlethnigrwydd/mewnfudo etc. gan ddefnyddio termau eithafol, ac mae'r stori (yn haeddiannol felly) wedi cael cryn sylw (a dweud y lleiaf) gan y BBC yn Saesneg. Digon hawdd fyddai rhestru'r URLs.

    Y tro hwn, mae gwleidydd Llafur etholedig wedi gwneud tra sylw annerbyniol. Mae wedi ymddiheuro am y geiriau, ond nid am y syniadau y tu ol iddyn nhw. Yn fwy na hynny, mae hefyd yn swyddog a gyflogir yn uniongyrchol gan ein Prif Weinidog (sydd wedi osgoi trafod y mater mewn ffordd ystyrlon). Yn fwy na hynny eto, mae'r heddlu'n ymchwilio i'r mater. Mae'n amlwg fod hyn yn fater sy'n mynd y tu hwnt i wleidyddiaeth un ward yng Nghaerdydd. Er hynny, nid yw'r stori hyd yn oed yn cael ei chrybwyll gan wefan y BBC yn Saesneg.

    Dioch i Vaughan Roderick am drafod hyn, ond tybed a all daflu goleuni ar y rheswm pam nad yw'r stori hon yn berthnasol o gwbl i'r rhan fwyaf o bobl Cymru, yng ngolwg BBC ar-lein?

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.