Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Hawl i Holi

Vaughan Roderick | 14:23, Dydd Iau, 22 Mai 2008

Mae Dafydd yn gofyn cwestiwn diddorol yn y sylwadau;

"Byddai'n ddiddorol clywed beth sydd gan wleidyddion y Bae i'w ddweud yn barod am y posibilrwydd o lywodraeth Dorïaidd yn San Steffan ac effaith hynny ar wleidyddiaeth Cymru. Vaughan ...??"

Wel gan dy fod wedi gofyn, Dafydd fe wnâi fy ngorau i ateb. Y ddau bwnc allweddol yn fan hyn yw amseriad refferendwm ar bwerau llawn i'r cynulliad ac effaith llywodraeth Geidwadol ar lefelau gwariant y cynulliad.

O safbwynt amseriad refferendwm y gred gyffredinol yw y byddai ethol David Cameron yn arwain yn anorfod at gynnal pleidlais yn gymharol fuan. Gallai hynny ddigwydd am un o ddau reswm. Yn gyntaf gallai pleidiau'r chwith yn y Bae orfodi cynnal refferendwm er mwyn "amddiffyn Cymru rhag y Ceidwadwyr". Mae'r arweinyddiaeth Llafur yn hyderus y byddai'n bosib ennill pleidlais yn y fath amgylchiadau. Mae'r ail senario posib yn fwy diddorol. Ar ôl i Wyn Roberts gwblhau ei adolygiad o'i pholisi datganoli mae'n ddigon posib y bydd y Blaid Geidwadol ei hun yn addo cynnal pleidlais yn ystod tymor cyntaf Cameron yn Downing Street. Mae 'na ddau reswm am hynny. Y cyntaf yw 'r gred ddidwyll ymhlith nifer helaeth o Dorïaid nad yw'r gyfundrefn bresennol yn effeithlon nac yn gynaliadwy. Ffactor bwysicach efallai yw bwriad y Ceidwadwyr i ddatrys y cwestiwn Seisnig. Fe fyddai unrhyw ymdrech i wneud hynny trwy, dyweder, gyfyngu ar hawl Aelodau Seneddol y gwledydd Celtaidd i bleidleisio yn dibynnu ar sicrhâi mwy o gysondeb a chydraddoldeb ym mhwerau'r cynulliadau datganoledig.

Fe fyddai ethol llywodraeth Geidwadol hefyd yn sicr o effeithio ar incwm y cynulliad. Er nad yw'r Torïaid wedi cyhoeddi eu polisïau manwl hyd yma mae'n deg i ddisgwyl y byddai cyfyngu ar dwf gwariant cyhoeddus yn un o'u blaenoriaethau. O dan y fath amgylchiadau fe fyddai Llywodraeth Cymru yn wynebu dewisiadau anodd. Yn y tymor hir, yn enwedig wrth i lywodraeth yr Alban frwydro am fwy o ryddid ariannol, mae'n debyg y byddai dyddiau fformiwla Barnett yn tynnu at derfyn. Mae 'na wahaniaethau barn ynglŷn â p'un ai ydy Cymru ar ei cholled neu ei hennill oherwydd y fformiwla honno. Dyna'r rheswm dros addewid Cytundeb Cymru'n Un i sefydlu comisiwn i ymchwilio i'r pwnc. Ar hyn o bryd mae'r ymchwiliad hwnnw braidd yn academaidd. Fe allai fod yn destun trafod o bwys pe bai na newid yn Downing Street.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 15:51 ar 22 Mai 2008, ysgrifennodd Helen:

    Da gweld y cyswllt cyflym yn ôl!

    Mae'r 'cwestiwn Seisnig', chwedl tithau, yn un reit ddiddorol, oherwydd y gallai Lloegr droi'n wlad dragwyddol las heb wledydd Celtaidd yr ymylon. Rwy'n credu fy mod eisoes wedi sôn am fy namcaniaeth pe bai'r Alban a Chymru'n torri'n rhydd oddi wrth y Deyrnas Unedig - Lloegr las! Os felly, ac os dyna benderfyniad democrataidd y Saeson, yna, lwc dda iddyn nhw! Yna, byddai gwahanol ranbarthau Lloegr yn gofyn am ddatganoli, er gwaetha'r bleidlais yn erbyn yng Ngogledd-ddwyrain Lloegr rai blynyddoedd yn ôl ..........

    Fy ofn i yw y gallai'r Torïaid geisio blingo Cymru a'r Alban, ac y byddai Cymru'n dioddef yn llawer gwaeth oni bai bod gennym Senedd o'r un statws â'r Alban - rhywbeth â grym. Fel y dywedodd Helen Mary yng Nghynhadledd Plaid Cymru yng Nghasnewydd, mae llywodraeth dorïaidd dros y Deyrnas Unedig yn anorfod, os nad y tro nesaf, yna'r tro ar ôl hynny, felly rhaid inni fod yn barod. Gallai cael llywodraeth elyniaethus dros y ffin sbarduno rhan helaeth o Gymru i fynnu mwy o rym - sbarduno deffroad newydd? Pwy wyr? Yn greiddiol i unrhyw gwestiwn ynglyn â democratiaeth, ceir y syniad o fandad - yn fras, a yw'r llywodraeth dan sylw wedi'i hethol gan bobl sydd, at ei gilydd, yn rhannu hunaniaeth, anianawd, cyfeiriad .....

    O leiaf, dwy ddim yn rhagweld y gallai Cymru ddioddef canlyniadau mor erchyll ag y gwnaeth dan Maggie Thatcher yn yr 80au a'r tu hwnt, o leiaf, mae gennym ryw fath o darian rhag y meddylfryd estron hwnnw!

  • 2. Am 07:53 ar 26 Mai 2008, ysgrifennodd Dewi:

    "Mae Dafydd yn gofyn cwestiwn diddorol yn y sylwadau"

    Gwyrth ei fod wedi llwyddo i wneud. Mae'r problemau technegol yn annerbyniol.

  • 3. Am 10:44 ar 27 Mai 2008, ysgrifennodd Dafydd Pritchard:


    A ydi'r Toriaid hefyd yn ystyried cynyddu nifer aelodau'r Cynulliad, ond am weld lleihau nifer aelodau seneddol o Gymru yr un pryd? Byddai hyn, wrth reswm, yn fuddiol iddyn nhw yn San Steffan. Fe allan nhw wneud rhywbeth tebyg yn yr Alban hefyd wrth gwrs.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.