Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Awn ar y trên bach...

Vaughan Roderick | 12:13, Dydd Mawrth, 11 Rhagfyr 2007

Ddydd Gwener fe fydd y lein rheilffordd i Lyn Ebwy yn ail-agor gydag aelodau cynulliad o bob plaid a chynghorwyr yn cystadlu i gymryd y clod. Fe wnâi ddim sbwylio'r parti ond mae'n werth nodi nad yw'r lein mewn gwirionedd yn cyrraedd yr holl fordd i'r dre. Am y tro fe fydd y gwasanaethau'n rhedeg o orsaf ar gyrion Glyn Ebwy wrth i'r gwaith o adfer hen safle'r gwaith dur fynd yn ei flaen.

Ta beth, mae'r polisi o ail-agor rheilffyrdd yn un o'r meysydd lle mae 'na wahaniaeth sylweddol rhwng y llywodraethau datganoledig ar y naill law a llywodraeth y Deyrnas Unedig ar y llaw arall. Mae gan yr adran drafnidiaeth bolisi cadarn yn erbyn ail-gychwyn gwasanaethau ac mae hynny'n destun rhwystredigaeth yn Lloegr lle mae sawl cyngor ac aelod seneddol yn ymgyrchu dros ail-agor gwasanaethau.

Pwy sy'n iawn felly? Ydy ail-agor rheilffordd yn fuddsoddiad gwerthfawr neu'n wastraff rhamantus?
Ers i fwyell Beeching ddisgyn yn ôl yn y chwedegau mae tair lein reilffordd wedi eu hail-agor yng Nghymru. Ail-gychwynnwyd gwasanaethau i Aberdâr a Maesteg gyda chymorth Cyngor Morgannwg Ganol. Yn achos Cwm Cynon does dim dwywaith bod yr arbrawf wedi llwyddo. Yn wir problemau llwyddiant sy'n wynebu'r lein gyda'u gorsafoedd yn cael eu hymestyn ar hyn o bryd er mwyn cwrdd â'r galw. Mae lein Cwm Llynfi wedi bod yn llai llwyddiannus ond gan fod y trenau sy'n rhedeg arni hefyd yn darparu gwasanaethau lleol ar brif lein De Cymru mae'n debyg ei bod wedi profi ei gwerth.

Ail-agorwyd y lein rhwng Y Barri a Phen-y-bont yn 2005. Hyd yn hyn mae hi wedi mwy na chyrraedd ei thargedi. Yn fwy pwysig efallai roedd y lein yn rhan bwysig o'r ymdrech i ddenu canolfan hyfforddi’r lluoedd arfog i Sain Tathan.

Beth yw'r arolygon ar gyfer gwasanaethau Blaenau Gwent ac Islwyn felly? Yn y tymor byr gallai'r methiant i gyrraedd canol Glyn Ebwy ac i ddarparu gwasanaethau i Gasnewydd yn ogystal â Chaerdydd fod yn rhwystrau. Yn sicr dyw'r lein ynddi ei hun ddim yn mynd i drawsnewid un o'r ardaloedd tlotaf yng Nghymru. Serch hynny dros amser a chyda gwireddu cynlluniau eraill fe ddylai'r gwasanaeth fod yr un mor bwysig i'r economi leol a'r gwasanaethau mewn cymoedd tebyg- gwasanaethau lle mae'r nifer o deithwyr yn dyblu bob saith mlynedd.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 17:10 ar 11 Rhagfyr 2007, ysgrifennodd Arfon Jones:

    Fel un sydd yn defnyddio y tram yn Manceinion dwi yn fwy na bodlon ar wario arian i ehangu sustem reilffyrdd sydd yn boblogaidd. Mae Manceinion yn y broses o ehangu i wahanol ardaloeddd.

  • 2. Am 17:21 ar 11 Rhagfyr 2007, ysgrifennodd Dewi:

    Mae'n gychwyn ac yn siwr o fod yn boblogaidd. Beth sy angen yw uchelgais. Rheilfford newydd sbon a lá TGV syth trwy Ganol Cymru o Gaerdydd i Fangor. Dim ond angen delio ag un corff cynllunio am ran helaeth o'r pellter.
    Ac wrth gwrs cynnwys y gost fel gwariant "Prydeinig" ar gyfer Barnett...O ddifrif buasai astudiaeth manwl yn ddiddorol tu hwnt. Mae Euskadi wrthi'n barod.

  • 3. Am 17:28 ar 11 Rhagfyr 2007, ysgrifennodd Rhys Llwyd:

    Mae diffyg buddsoddiant difrifol yn y maes yma yng Nghymru ac yn fwy pwysig mae'r unig wariant sydd wedi digwydd fel wyt ti'n nodi uchod wedi ei gyfyngu i'r de-ddwyrain sef yr ardal sydd mwyaf 'connected' eisoes! Mae Network Rail wedi gosod y cynllun o £15 miliwn gerbron Llywodraeth y Cynulliad er mwyn gweithredu'r gwelliannau ar linellau cambrian (Amwythig-Aberystwyth-Pwllheli ac Amwythig - Llanymddyfri - Abertawe) er rhai blynyddoedd yn awr a lle mae'r buddsoddiant yn mynd, i'r de ddwyrain yn lle. Pe bae y Llywodraeth i ariannu'r prosiect is-adeiledd bwysig yma yn y canolbarth a;r gogledd yna byddai WSMR yn rhoi cynnig, wedi i'r gwaith adeiladu gael ei gwblhau, i redeg trenau cyflymach a mwy aml ar linellau cambrian ac o bosib byddai Arriva o ganlyniad i'r is-adeiledd gwell yn medru gwella eu gwasanaeth nhw ar hyd y llinellau hefyd.

    Gresyn na fyddai Llywodraeth Llafur wedi buddsoddi arian Amcan 1 o'r cychwyn cyntaf ar brosiectau is-adeiledd sylweddol fel hon yn hytrach na'i wario ar ddwsinau o brosiectau llai. O fuddsoddi'r arian ar Is-Adeiledd mi buasai prosiectau a chwmnïau yn elwa ac byddai economi y Gorllewin yn elwa i greu Cymru gryfach.

    Dydy hi ddim yn gwneud sens fod siwrne dren o Fangor i Gaerdydd yn cymryd 4.5 mawr a Bangor i Lundain ond yn 3.5 awr!

  • 4. Am 19:53 ar 12 Rhagfyr 2007, ysgrifennodd dewi:

    Hmmm

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.