Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Y Bore Wedyn

Vaughan Roderick | 11:15, Dydd Sul, 8 Gorffennaf 2007

Dydd Sul yn y bae. Y Sul olaf y bydd yn rhai i mi weithio tan yr Hydref -gobeithio!

Mae'n bryd hel meddyliau. Fe wnâi drafod y llywodraeth newydd yn y man ond mae 'na gwestiynau pwysig i'r ddwy wrthblaid hefyd. Am y tro cyntaf yn hanes y cynulliad mae'r gwrthbleidiau yn wynebu llywodraeth a mwyafrif sylweddol. Ar yr un pryd mae trefniadau newydd y cynulliad yn golygu bod y llywodraeth honno'n fwy grymus. Fe fydd hon yn llywodraeth a fyddai'n gallu anwybyddu ei gwrthwynebwyr a'u gwthio i'r ymylon pe bai'n dymuno gwneud hynny.

Dw i am adael y Democratiaid Rhyddfrydol i'r naill ochor. Mae trafferthion y blaid honno yn haeddu sylw, ond, am y tro, mae ei rôl yn y cynulliad yn ymylol a dweud y lleiaf. Yr wrthblaid ddiddorol yw'r Blaid Geidwadol sy'n wynebu dewisiadau pwysig dros yr Haf.

Y penderfyniad strategol pwysig yw sut i ddelio a Phlaid Cymru yn ystod y cyfnod sydd i ddod. Un posibilrwydd yw ceisio portreadu'r blaid fel gweision bach i'r blaid Lafur gan honni bod 'na ddim gwahaniaeth rhwng coch a gwyrdd ac mai'r Ceidwadwyr sy'n cynnig y "gwir ddewis". Trwy wneud hynny'r gobaith byddai darbwyllo nifer o gefnogwyr gwrth-Lafur Plaid Cymru i droi at y Ceidwadwyr.

Y dewis arall yw ceisio hollti'r glymblaid trwy chwilio am wahaniaethau rhwng y ddwy blaid sy'n ei ffurfio. Fe fyddai'r dacteg hon yn golygu canmol "gonestrwydd" Plaid Cymru ac awgrymu bod Llafur wedi eu twyllo. Mae'n ddigon hawdd rhagweld y rhethreg " mae Plaid Cymru yn gwneud ei gorau ond mae llaw farwaidd Llafur yn ei gwneud hi'n amhosib iddi gyflawni dim..." ayb ayb/

Y dacteg gyntaf fyddai'r hawsaf a'r un fyddai'n plesio Ceidwadwyr ar lawr gwlad ond mae'n bosib mai'r ail fyddai'r mwyaf proffidiol gan gadw'r drws yn agored i'r enfys ymhen pedair blynedd. Beth bynnag yw'r dewis, i'r naill dacteg neu'r llall weithio mae'n rhaid i'r blaid barhau i ddatblygu ei delwedd newydd fel plaid wirioneddol Gymreig sy'n ymroddedig i ddatganoli.

Un ffordd i wneud hynny fyddai gosod cynnig yn y cynulliad yn weddol o fuan yn galw am refferendwm cynnar ar bwerau llawn i'r cynulliad. Beth fyddai'r llywodraeth yn gwneud wedyn tybed?

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 12:36 ar 8 Gorffennaf 2007, ysgrifennodd Daran:

    "Un ffordd i wneud hynny fyddai gosod cynnig yn y cynulliad yn weddol o fuan yn galw am refferendwm cynnar ar bwerau llawn i'r cynulliad. Beth fyddai'r llywodraeth yn gwneud wedyn tybed?"

    Syniad diddorol iawn - refferendwm ar ddatganoli wedi ei alw gan y Ceidwadwyr? Bydd pob un o Aelodau Seneddol Llafur Cymru yn medru gwrthwynebu hynny!

    Gyda llaw, wyt ti'n gwybod os oes rhaid i'r broses galw unrhyw refferendwm dechrau yn y Cynulliad nid San Steffan? Os gellir dechrau'r broses yn Nhy'r Cyffedin, byddai hynny'n strategaeth hyd yn oed mwy rhyfedd i'r Ceidwadwyr cynsidro.

  • 2. Am 13:24 ar 8 Gorffennaf 2007, ysgrifennodd Guto:

    Gan ddarllen sylwada Bourne ar ol pleidlais Plaid Cymru ddoe, mae'n edrych felmae'r ail dacteg ydi ei ddewis o. Bron iawn air am air fel ddudis di!

    "I remain convinced that no matter how hard they try, Plaid Cymru will be dominated by Labour in this new arrangement"

  • 3. Am 14:06 ar 8 Gorffennaf 2007, ysgrifennodd Arfon Jones:

    Dwi'n meddwl mae'r cynnig cyntaf ddylsa fynd o flaen y Cynulliad fuasa'r hawl i gael dydd Gwyl Dewi fel diwrnod o wyliau yng Nghymru. Mae'n bwysig bod ni'n cael hyn rwan cyn i Gordon Brown 'hijacio' y ddadl gyfansoddiadol drwy greu diwrnod i ddathlu Prydeindod!! step yn ol fuasai hynny i ni yng Nghymru.
    Faint mor hawdd fuasai i'r cynulliad ddeddfu ynglyn a dydd Gwyl Dewi, oes ganddyn nhw y pwer ei hunain neu oes raid myn a cael Order in Council? Fe fuasai canlyniad hun yn ddiddorol a fuasai aelodau seneddol yn cefnogi y fath gyfraith neu fuasant yn defnuddio yr achlysur i 'dalu'r pwyth yn ol' ar ol ei crasfa ddiweddar?

  • 4. Am 17:10 ar 8 Gorffennaf 2007, ysgrifennodd Bwbach Dan Din:

    Pryd mae'r cenedlaetholwyr cibddall yma yn mynd i ddeall y byddai gwyl banc ar ddydd gwyl Dewi yn gwneud tomen o ddrwg i'r Gymraeg ac i'r ymdeimlad o Gymreictod.

    Beth ddigwyddai i'r gwisgo fyny i'r ysgol? Eisteddfod yr Ysgol ar ddydd Gwyl Dewi? Byddai dim ysgol!

    Beth am wisgo cenin a chenhinen pedr? Byddai pawb adref a neb yn bod yn Gymro.

    Ni ellir cymharu a gwledydd eraill. Mae Gwyl Dewi yn unigryw fel ag y mae.

    Hefyd, pam fyddai unrhyw un eisiau gwyl banc arall yn ystod y cyfnod hwn? Un arall at y pac o wyliau banc!

    Beth am sicrhau 16 Medi yn wyl banc? Gwyl Glyndwr yn sicrhau gwyl banc tua'r hydref. Gwych!

  • 5. Am 14:40 ar 9 Gorffennaf 2007, ysgrifennodd Arfon Jones:

    Mae'n amlwg nad oedd y bwbach yn un o'r 15,000 a arwyddodd y ddeiseb ar wefan 10 Stryd Downing yn gofyn am wyl y banc ar Ddydd Gwyl Dewi.
    Dwi'n meddwl fod na dipyn mwy yn adnabod 1af o Fawrth fel diwrnod cenedlaethol na y 16ed o Fedi er nad wyf yn anghytuno y buasai diwrnod yn y Hydref yn well na diwrnod yn y Gwanwyn. Gan ein bod yn gweithio neu yn yr ysgol ar ddydd Gwyl Dewi ydy'r union reswm pam fod yn cyn lleiad o ymwybyddiaeth or diwrnod yma. Os fuasa ni gyd hefo diwrnod ffwrdd mi fuasa ni'n gallu dathlu go iawn fel mae dathlu Gwyl San Padrig yn Efrog Newydd.

  • 6. Am 21:57 ar 9 Gorffennaf 2007, ysgrifennodd Eirian:

    Byddwn innau'n gwrthwynebu dewis Dydd Gwyl Dewi am rhesymau digon tebyg i'r Bwbach Dan Din. Gwelaf rhesymau dros hyrwyddo dathliadau yn y gweithle ar Ddydd Gwyl Dewi, ond byddai cynnig Gwyl Banc ond yn lleihau'r cyfraniad a wneir yn awr yn yr ysgolion ac ati.
    Fy newis i byddai'r trydydd dydd Gwener ym mis Medi gan mae yn oriau man y bore ar y diwrnod hwnnw ym 1997 y canfuwyd bod y Cymry wedi cymryd y cam pwysicaf oll i gydnabod bodolaeth y genedl hon - sef y cam cyntaf.
    Braf fyddai nodi i'r sawl a wrthwynebodd y genedl y diwrnod hwnnw yn gorfod cydnabod buddugoliaeth y Cymry y flwyddyn honno. Boed i ninnau gofio'r orfoledd hefyd.

  • 7. Am 14:04 ar 10 Gorffennaf 2007, ysgrifennodd Bwbach Dan Din:

    Byddai'n ddoeth edrych ar Dewi yn hanesyddol.

    Gydag amser aeth nifer o filwyr Cymru yng ngwrthryfel Glyndwr ymlaen i ymladd dros frenin Lloegr. Gwyddom i gyd am wyr y bwa saeth ac ati yn Azincourt (sic - Ffrengig).

    Fel maddeuant a diolch i'r Cymry a aeth i frwydro dros Loegr datganod y brenin y byddai'n caniatau dydd gwyl Dewi i'r Cymry i ddathlu.

    Fel Cymro 'rwy'n ei chael yn galed i gyfiawnhau dathlu'r fath beth. Wrth gwrs mae pethau wedi newid a'r rhesymeg dros ddathlu Mawrth 1af wedi newid, ond erys Eisteddfodau'r Ysgol a'r Gwisgo dillad Cymreig. Byddai'n drueni enfawr colli'r pethau hynny.

  • 8. Am 21:17 ar 10 Gorffennaf 2007, ysgrifennodd Gareth Thomas:

    Cytunaf gyda Bwbach ac eraill-tokenism llwyr buasa gwneud Gwyl banc o'r diwrnod.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.