Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Gafael mewn enfys

Vaughan Roderick | 11:12, Dydd Sadwrn, 16 Mehefin 2007

Mae'n bryd i fi rhoi fy mhen ar y bloc. Mae mawrion Plaid Cymru yn cwrdd yn Aberystwyth i gymryd penderfynniad fydd yn gosod patrwm gwleidyddiaeth Cymru am flynyddoedd os nad degawdau i ddod. Nid gormodiaeth yw dweud mai hwn yw'r cyfarfod pwysicaf yn hanes Plaid Cymru.

Pedair awr ar hugain yn ol roeddwn yn teimlo mai cytundeb rhwng Llafur a Phlaid oedd y penderfynniad mwyaf tebygol. Erbyn hyn dw i'n meddwl bod yr enfys yn dechrau disgleirio eto.

Mae na ddau reswm am hynny. Yn gyntaf mae'n gymharol eglur erbyn hyn y bydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn ceisio sicrhai cytundeb a Llafur os ydy Plaid Cymru'n gwrthod yr enfys. Mae hyd yn oed Peter Black y gwr wnaeth arwin y gwrthwynebiad i glymbleidio a Llafur bellach yn ail-feddwl. Mae'n dweud hyn "We have though now come too far for me to be able to revert to my original refusnik role." Does na ddim sicrwydd felly y byddai clymbalid coch/gwyrdd yn dod i fodolaeth.

Mae'r ail reswm am ffarfrio'r enfys yn deillio o'r Blaid Lafur. Dw i'n gwbwl sicr y byddai cynhadledd arbennig yn cefnogi clymblaid o fwyafrif sylweddol ond mae sicrhai y byddai'r peiriant Llafur yn gweithio am bleidlais "Ie" mewn refferendwm yn beth gwahanol. Heb addewid o'r fath beth yw pwynt bod yn ail mewn clymblaid yn lle bod yn brif blaid?

Mae'n ddigon posib fy mod yn gwbwl anghywir ond dw i'n disgwyl i Blaid Cymru estyn an yr enfys heddiw.

Diweddariad; Diwrnod cyfan o drafod a'r penderfynniad... i drafod ymhellach a Llafur ond gan gadw'r "enfys" wrth gefn. Beth fydd ymateb y Democratiaid Rhyddfrydol tybed?

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 13:45 ar 16 Mehefin 2007, ysgrifennodd Dewi:

    Anodd gweld sut mae cael cytundeb i gynnal refferendwm heb glymblaid Llafur/ Plaid. Heb refferendwwm sdim pwynt pryderi am y canlyniad.

    Un o beryglon yr Enfys yw ta beth mae eu harweinwyr yn dweud mae mwyafrif, rwy'n tybio, o gefnogwyr y Toriaid a'r Rhydd Dems yn erbyn mwy o bwerau - anodd dychmygu yr Enfys yn creu'r deinamig sydd angen.

    Cyfarfod diddorol prynhawn ma !!!

  • 2. Am 18:40 ar 16 Mehefin 2007, ysgrifennodd Daran:

    Gwers y mis diwetha falle yw cadwch mwy nag un opsiwn ar y bwrdd, os yw hynny'n rhywbeth medrwch gwneud. Dim rhyfedd felly i Blaid Cymru ceisio cadw troed yn y ddwy camp.

  • 3. Am 19:47 ar 16 Mehefin 2007, ysgrifennodd sanddef:

    Dw'i'n anghytuno gyda Dewi. Mae'r Toriaid a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn cefnogi refferendwm, ac fe fydd y datganolwyr brwd yn Llafur yn bleidleisio drosto hefyd. Mae'r holl ddadl am "rhaid cael Llafur i neud hyn a'r llall" yn hollol ddisail.

  • 4. Am 01:55 ar 17 Mehefin 2007, ysgrifennodd Helen:

    Hwrê! Mae'r Blaid wedi penderfynu parhau â'i thrafodaethau â Llafur - rwy'n cydweld yn llwyr â Dewi ynglyn â pheryglon unrhyw glymblaid â'r torïaid a'r Rh.D., a hynny am yr union resymau a nodais o'r blaen - sef mai plaid leiafrifol o fewn yr 'enfys' fyddai'r Blaid, a'r pleidiau eraill o'i mewn, yn enwedig y torïaid, yn sylfaenol wahanol iddi. Yn bendant, yng nghyfarfod nesaf fy nghangen leol, sydd i'w chynnal tua diwedd y mis, rwy'n gwybod yn iawn be ddywedaf wrth ein cynrychiolydd niynglyn â'r cyfarfod hollbwysig ddechrau Gorffennaf!

  • 5. Am 09:23 ar 17 Mehefin 2007, ysgrifennodd Eirian:

    Pwyllwch. Er bod y Rhydd-Dem yn ei Chynhadledd diweddar wedi rhoi blaenoriaeth i'r pedwar arweinydd Cyngor sydd am osod safbwynt gwrth-llafur ar gyfer etholiadau'r Cyngor blwyddyn nesaf nid oes rhaid iddi lynnu at hynny tu hwnt i'r etholiad honno. Wedi'r etholiadau Sirol bydd anghenion y pedwar AS a'r chwech AC yn bwysicach am y cyfnod sydd yn dilyn. Mae'r Blaid honno yn wynebu y dair arall wrth amddiffyn ei seddi yn San Steffan. Gall y bydd eisiau wrthwynebu'r tair neu fod yn wrth-Geidwadol neu wrth Llafur.
    Gall y dewis hwnnw chwalu unrhyw glymblaid rhwng Plaid Cymru a Llafur neu rhwng y dair arall fel ei gilydd.
    Mae yna dair cyfnod rhwng heddiw ac etholiadau 2011, sef cyn etholiadau'r Cyngor, wedyn cyn etholiadau San Steffan ac yn olaf y paratoi at etholiadau Cynulliad nesaf.

  • 6. Am 13:07 ar 17 Mehefin 2007, ysgrifennodd Helen:

    Cyn gwneud dim mwy, mi af ar ychydig o danjent (nid am y tro cyntaf), gan restru diwygiadau cymdeithasol a phwy fu’n gyfrifol amdanynt, mewn ymgais i ddarbwyllo pobl am y rheswm dros glymblaid a fyddai’n eithrio’r torïaid.

    Pensiynau Henoed 1908 Melyn
    Pleidlais i Fenywod 1921 Melyn

    Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1948 Coch

    Cysylltiadau Hiliol 1965 Coch
    1968 Coch
    1976 Coch
    2000 Coch

    Iechyd a Diogelwch (Gwreiddiol) 1974 Coch

    Gwahaniaethau ar sail Rhyw 1975 Coch
    Cyflogau Cyfartal 1970 Coch (cyn yr etholiad a ddaeth â Heath i rym)

    Yr Iaith Gymraeg 1967 Coch

    Diddymu’r Gosb Eithaf (Llofruddiaeth) 1965 Coch
    (Cadarnhad) 1969 Coch
    (Teyrnfradwriaeth) 1998 Coch

    Deddf Llywodraeth Cymru 1998 Coch
    Deddf Llywodraeth Cymru 2006 Coch

    Ac ar ben hynny, gan y llywodraeth Lafur bresennol …

    Tâl Tanwydd Blynyddol i Bensiynwyr
    Trwydded Deledu am Ddim i bobl 75+ oed
    Iawnderau Dynol
    Partneriaethau Sifil
    Hawliau Tadolaeth ac Absenoldeb o’r Gwaith
    Gwahaniaethu ar sail Oedran
    Gwahardd Ysmygu mewn mannau cyhoeddus caeëdig

    Wrth reswm, nid yw’r rhestr hon yn hollgynhwysol, ond mae’n nodi rhai diwygiadau o bwys, a phe bai unrhyw lywodraeth dorïaidd wedi ceisio diddymu deddfwriaeth o bwys ar ddiwygiadau cymdeithasol, buasai’n rhyfel!!!

    Dwy ddim yn ceisio dweud bod unrhyw lywodraeth Lafur yn berffaith – Attlee oedd wrth y llyw pan gafodd gwledydd Prydain arfau niwcliar annibynnol ac, yn fwy diweddar, y Dyn Blêr fu’n gyfrifol am anfon milwyr i Irác ac am ymrwymo i adnewyddu Trident, ond fyddai llywodraethau torïaidd ddim wedi gwneud dim byd yn wahanol. Ar ben hynny, mae nifer o wasanaethau wedi’u tynnu oddi wrth y Swyddfeydd Post, a rhai swyddfeydd dan fygythiad gwirioneddol, y llywodraeth Lafur Brydeinig bresennol fu’n gyfrifol am i ddyledion myfyrwyr gyrraedd yr entrychion …. Oes, yn wir, mae llawer o’i le ar y llywodraeth Lafur Brydeinig sy ohoni, a dyna pam y mae arnom angen llywodraeth Gymreig, sy’n llawer yn nes at y bobl, ac yn fwy atebol i’w hetholwyr. Dyma ddemocratiaeth.

    Fodd bynnag, a dyma sy’n bwysig yn y cyswllt hwn …. math o lywodraeth â gogwydd (honedig???) ar y chwith y mae pleidleiswyr o Gymru, dro ar ôl tro, wedi’i chymeradwyo trwy ddulliau democrataidd, a dyma’r math o lywodraeth sydd wedi cael mandad gan bobl Cymru.

    Ychydig iawn y mae llywodraethau ar y dde erioed wedi’i wneud i Gymru – dan brotest fawr y cawsom S4C gan y torïaid ddechrau’r 80au – pe bai’r llywodraeth honno wedi cefnu ar ei haddewid …. buasai’n rhyfel!

  • 7. Am 13:55 ar 17 Mehefin 2007, ysgrifennodd Llyr:

    Werth cofio pedwerydd cyfnod hefyd Eirian - gornest arweinyddiaeth Plaid Lafur Cymru pan fydd Rhodri yn ymddeol mewn chydig dros ddwy flynedd. Gallai hyn beri problemau mawr i glymblaid gochwyrdd (neu glymbalid frown chwedl Betsan). A beth am bumed cyfnod - gornest arweinyddiaeth o fewn y Democratiaid Rhyddfrydol tybed?

  • 8. Am 18:36 ar 17 Mehefin 2007, ysgrifennodd sanddef:

    Ie, Helen, efallai dylet ti ymuno a Llafur 'te, gan dy fod yn hoffi nhw cymaint. Dim son am Irac, dw'i'n gweld, na dinistrio economi Prydain chwaith. Mae dy ddadleuon efallai yn addas ar gyfer pobl yn eu harddegau, ond oedolion ydyn ni fan hyn.

  • 9. Am 20:47 ar 17 Mehefin 2007, ysgrifennodd Eirian:

    Diolch, Llyr. Mae'n dibynnu i raddau pwy sydd yn meddu ar y sofraniaeth y tu mewn i'r pleidiau yng Nghymru. Digwydd trafod arweinyddiaeth yr Rh-D yn ystod yr hydref hwn sef y cyfnod cyn etholiadau'r siroedd. Os mae'r Gynhadledd bia'r awdurdod ymhlith y Rh-D ni ddylai hyd yn oed newid ei harweinydd yn y Cynulliad newid yr angen i rhoi tegwch i'w arweinwyr Cyngor dros y misoedd nesaf. Rwyf yn croesawi penderfyniad Llafur i ymgynghori a'i haelodaeth drwy gynnal Cynhadledd, a byddaf yn hapusach o lawer gyda chymbleidio a hi cyhyd a bod ei changhennau a'i hetholaethau yn gefnogol i hynny. Ryn ni'n ffyddiog eisioes bod yr Undebau o blaid. Os mae'r gwraidd bia'r Blaid Lafur yna ni ddylai'r frwydr am yr arweinyddiaeth ladd unrhyw glymblaid heb cynnig amgen gan y Rh-D ac ail gynhadledd. Nid yw'r Ceidwadwyr yn disgwyl i'w Pwyllgor Gwaith alw Cynhadledd i drafod clymbleidio, ac y maent yn tueddu i dderbyn y sefyllfa honno.
    Ble mae'r awdurdod neu'r sofraniaeth y tu mewn i'r Blaid? Yn ol ein datganiadau mae sofraniaeth yn codi oddi wrth y boblogaeth (sef yr aelodaeth) ac yn cael ei gorseddi yn y Gynhadledd a rhwng cynadleddoedd yn y Cyngor Cenedlaethol. Mae'r awdurdod yn ol y Cyfansoddiad yn cael ei ddirprwyo mewn achosion o glymbleidio i'r Pwyllgor Gwaith ac mae hynny wedi'i weithredu droeon ar gyfer yr awdurdodau lleol. Yn achos clymblaid y Cynulliad fodd bynnag dewisodd y Pwyllgor Gwaith alw Cyngor Cenedlaethol buan wedi derbyn dogfen y dair plaid. Syrthiodd y cytundeb hwnnw dros dro. Oddiar hynny mae'r Pwyllgor Gwaith wedi trafod cytundeb arall gyda Llafur ac wedi caniatau mynd i fanylion. A derbyn bod dau cytundeb onid teg yn awr disgwyl i'r ddwy ddogfen fynd gerbron y Cyngor Cenedlaethol cyn gwneud dewis terfynol?
    Felly, Llyr, gall fod yn dair cyfnod neu bump neu hyd yn oed mwy os na cheiff y Cyngor Cenedlaethol y cyfle i drafod y ddwy ddogfen! Rhagdybiaf y bydd cefnogwyr pa bynnag clymblaid na cheiff ei gynnig i'r Cyngor Cenedlaethol yn gweld eu hunain yn rhydd i barhau'r frwydr. Dim ond trwy i'r naill ochr a'r llall gael y cyfle i rhoi ei achos gerbron y Cyngor Cenedlaethol y mae terfynu'r mater trwy bleidlais agored.

  • 10. Am 20:07 ar 18 Mehefin 2007, ysgrifennodd D thoams:

    Rwy'n dechrau meddwl taw trol yw'w un sy'n ymateb 'dan yr enw 'Helen'

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.