Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Closio at yr enfys?

Vaughan Roderick | 12:58, Dydd Mercher, 16 Mai 2007

Wel, fe wnes i lwyddo i gyrraedd amser cinio heb sgwennu am y trafodaethau!

Dw i newydd ddychwelyd o gynhadledd newyddion ddiweddara Ieuan Wyn Jones ac am y tro cyntaf ers i'r holl broses yma gychwyn dw i'n synhwyro bod y "glymblaid enfys" fondigrybwyll yr un mor debygol â rhyw fath o lywodraeth o dan arweinyddiaeth Llafur.

Aeth Ieuan Wyn Jones allan o'i ffordd i bwysleisio bod y trafodaethau ffurfiol sy'n cael eu cynnal rhwng Llafur a Phlaid Cymru ar y naill law a Phlaid Cymru, y Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol ar y llaw arall yn gydradd a'i gilydd ac na fyddai ei blaid yn dewis rhyngddynt tan ddiwedd y trafodaethau.

Y cwestiwn sy'n fy nharo i yw hyn. O gymryd bod y Torïaid a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn cydsynio beth ar y ddaear y gallai Rhodri ei gynnig i Ieuan na fyddai Ieuan ei hun, fel Prif Weinidog, yn gallu ei gyflawni?

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 13:29 ar 16 Mai 2007, ysgrifennodd Alun Thomas:

    Ie wir
    Dyna beth rwyf wedi bod yn meddwl ers amser. Mae gan Ieuan Wyn tair os na'r pedwar "Ace" yn ei law.

  • 2. Am 14:10 ar 16 Mai 2007, ysgrifennodd blamerbell:

    "Y cwestiwn sy'n fy nharo i yw hyn. O gymryd bod y Torïaid a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn cydsynio beth ar y ddaear y gallai Rhodri ei gynnig i Ieuan na fyddai Ieuan ei hun, fel Prif Weinidog, yn gallu cyflawni?"

    Refferndwm ar fwy o ddatganoli!

    Mae angen mwyafrif o 2/3ydd yn y Cynulliad cyn gofyn i San Steffan ysytried cynnal refferndwm.

    Plaid + Llafur = refferndwm

    (Plaid + Ceidwadwyr + DR) - Llafur = Dim refferendwm.

  • 3. Am 14:18 ar 16 Mai 2007, ysgrifennodd Helen Smith:

    Unwaith eto, hoffwn sôn am y peth hollbwysig yma, sef mandad - mandad gan yr etholwyr i ffurfio llywodraeth sy'n mynd i adlewyrchu dymuniadau'r bobl. Rywsut, dwy ddim yn credu y byddai cymysgedd rhyfedd o syniadau'r chwith (Plaid Cymru), y dde (y Torïaid) a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn y canol yn plesio neb. O ganlyniad, byddai'r llywodraeth yn un wan iawn ac yn annhebygol o bara'n hir, a chanlyniad hynny fyddai etholiad cyn pen 4 blynedd. Gwae ni os digwydd hynny, o gofio mai llai na 50% a bleidleisiodd ar 3 Mai.

  • 4. Am 14:31 ar 16 Mai 2007, ysgrifennodd Hogyn o Rachub:

    Yn anffodus byddai clymblaid enfys yn fêl ar fysedd y blaid Lafur a dw i ddim yn amau y byddai'n hunanladdiad gwleidyddol i Blaid Cymru yn yr ardaloedd traddodiadol Llafur, a dyma'r ardaloedd sydd yn rhaid i'r Blaid eu hennill os am ffurfio llywodraeth a chamu ymlaen at ei phrif nod.

  • 5. Am 14:44 ar 16 Mai 2007, ysgrifennodd aled j:

    Dwi'n anghytuno. Dwi'n credu mai eilbeth yw'r diffiniad chwith-canol-de am y tro, beth bynnag. Mae yna bolisiau penodol megis PR mewn llywodraeth leol, atal israddio ysbytai lleol, deddf iaith newydd, refferendwm am senedd lawn y gall PC, y DRH a'r Toriaid gytuno a hwy tro hwn. Mae'n gyfle hanesyddol i dorri crib y Blaid Lafur yng Nghymru a helpu achos democratiaeth i'r dyfodol yng Nghymru.Naw wfft hefyd i'r syniad, wel wnaiff y cymoedd byth faddau i PC am glosio at y Toris a wnanwn nhw fyth fotio iddyn nhw eto. Helo??? Mae PC wedi trio pob sut i "dorri trwodd " yn y cymoedd ac wedi methu-pob tro. Tydi'r "torri trwodd" mawr ddim am ddigwydd mewn system lle bo tair/pedair plaid yn gallu
    cystadlu a'i gilydd go iawn yng Nghymru.Cyd-weithio fydd natur y dyfodol, ac felly does dim byd i'w golli wrth fynd am lywodraeth enfys.

  • 6. Am 16:20 ar 16 Mai 2007, ysgrifennodd Rhodri Moseley:

    Mewn ateb i Helen Smith, dydy cryfder neu stabilrwydd ynrhyw lywodraeth clymbleidiol yn dibynnu dim erbyn hyn ar hapusrwydd etholwyr mewn sefyllfa o'r fath neu fandad ar sail eu pleidleisiau ddechrau'r mis. Dim ond gallu'r pleidiau ag aelodau unigol i gytuno a'u gilydd sydd yn dod mewn i ystyriaeth. Dyna natur ffurfio clyblaid neu ynrhywbeth tebyg: fel ddwedodd Vaughan yn syth ar ol yr etholiad, mae'r broses yn troi'n hollol an-nemocrataidd cyn gynted ag y mae'r bleidlais ola'n cael ei bwrw.

  • 7. Am 17:17 ar 16 Mai 2007, ysgrifennodd Rhys Llwyd:

    Rwyf wedi dechrau iDdeiseb amhleidiol (sy'n ddwy-ieithog) er budd pwyso am ffurfio llywodraeth er budd pobl Cymru. Dwi dal ddim yn siwr beth dwi fy hun yn ffafrio ond dyma ddeiseb yn galw am 'rywbeth' i ddigwydd!

    http://www.ipetitions.com/petition/cymru_well_better_wales

    A ystyri roi linc ar brif wefan dy flog? Nid yn ei hyrwyddo wrth reswm gan dy fod yn foi BBC ond rhoi sylw fod pobl eraill yn rhoi sylw iddo!

    Rhys, Aberystwyth

  • 8. Am 19:43 ar 16 Mai 2007, ysgrifennodd Cai Larsen:

    Gallai'r Blaid gael mwy gan Lafur na chan y Toriaid oherwydd bod Llafur mewn llywodraeth yn San Steffan.

    Er enghraifft - petai'r Blaid am ddiwigio'r ffordd mae Cymru'n cael ei hariannu, ni ellid ond gwneud hynny gyda chydsyniad y llywodraeth Lafur yn Llundain.

  • 9. Am 23:05 ar 16 Mai 2007, ysgrifennodd Seiriol:

    Dwi'n deall pam bod y gwleidyddion yn bod mor betrusgar am glymbleidio - dyw hynny jyst ddim yn rhan o'r traddodiad gwleidyddol Prydeinig. Yn bersonol, fasen i'n teimlo yn anhapus gyda'r glymblaid enfys a Llafur fel gwrthblaid. Os oes gan unrhywun fandad i lywodraethu yna'r Blaid Lafur sy'n berchen arno.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.