« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Manylu: Strategaeth i helpu'r puteiniaid?

Categorïau:

Criw Manylu Criw Manylu | 14:51, Dydd Llun, 23 Ionawr 2012

Amcangyfrifir bod o leiaf 80,000 o bobl yn gweithio fel puteiniaid drwy Brydain  gyda rhyw 600 yng Nghaerdydd. Mae llawer yn gaeth i gyffuriau neu alcohol ac yn troi at ryw er mwyn helpu i ariannu hynny.

 

Heno mae Manylu yn clywed gan ddwy ferch ac un dyn am eu profiadau fel gweithwyr rhyw. Ond mae’r rhaglen yn clywed hefyd gan Dr Tracy Sagar o adran droseddeg Prifysgol Abertawe sydd wedi derbyn grant yn ddiweddar i ymchwilio i’r maes.  Mae hi’n galw ar lywodraeth Cymru i ddatblygu strategaeth genedlaethol i helpu puteiniaid i newid cyfeiriad eu bywydau.

 

Manylu,  nos Lun 23 Ionawr am 6.03pm.

 

 

 

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.