« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Manylu: Brwydr i feichiogi

Categorïau:

Criw Manylu Criw Manylu | 11:49, Dydd Llun, 30 Ionawr 2012

Heno bydd Manylu yn clywed pryderon am newidiadau i ddarpariaeth IVF yn Ne Cymru.

Bydd cyn-gleifion, a chleifion presennol yn rhannu eu gofidion y gallai'r cynlluniau newydd arwain at gynnydd mewn amseroedd aros, a chwymp yn safon y driniaeth. Bydd y rhaglen hefyd yn clywed profiadau dirdynnol cyplau sy'n dioddef o broblemau ffrwythlondeb.

O dan gynlluniau newydd, fydd yn cael ei gweithredu o fis Ebrill ymlaen, bydd un gwasanaeth IVF yn cael ei greu ar gyfer De Cymru. Bydd dau glinig yn cyd-weithio, clinig IVF Cymru yn Ysbyty Athrofaol Caerdydd, a chlinig newydd yn Ysbyty Castell Nedd a Phort Talbot.

Mewn newid pellach, bydd y gwasanaeth unigol newydd yn cael ei reoli gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg. Y bwrdd felly fydd yn gyfrifol am IVF Cymru yng Nghaerdydd, nid Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro fel y mae nawr.

Mae'r cytundeb gyda'r clinig sydd ar hyn o bryd yn darparu'r gwasanaeth i gleifion o Dde Orllewin Cymru yn dod i ben Fis Ebrill. Cwmni preifat sydd berchen y London Women's Clinic, sydd wedi ei leoli yn ysbyty Singleton, Abertawe. Ond mae Llywodraeth Cymru eisiau lleihau defnydd y sector breifat oddi fewn y gwasanaeth iechyd.

Mae beirniaid o'r cynllun wedi dweud wrth Manylu bod dod a'r cytundeb presennol i ben, a gwario yn agos i filiwn o bunnau ar uned newydd, yn wastraff o arian cyhoeddus prin.

Dywed Paul Davies, Aelod Cynulliad Ceidwadol dros Breseli Penfro wrth y rhaglen:

"Mae byrddau iechyd lleol, a'r gwasanaeth iechyd yn wynebu heriau ariannol enfawr ar hyn o bryd a byddwn ni yn gweld toriadau i gyllideb y gwasanaeth iechyd dros y blynyddoedd nesaf. Dwi ddim yn credu y gall y gwasanaeth iechyd fforddio'r cynllun yma. Y pwynt yw os ydi cwmni preifat yn galle cynnig gwasanaeth o safon dda a gwerth arian i'r trethdalwyr felly dwi ddim yn gweld beth yw'r broblem..Dwi yn poeni yn fawr iawn bod y llywodraeth yn edrych i wneud y newidiadau yma oherwydd dogma ac ideoleg."

Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru sy'n gyfrifol am gynllunio darpariaeth IVF yng Nghymru, ac mae nhw'n mynnu na fydd yna unrhyw effaith negyddol ar driniaeth cleifion. Yn ôl Llywodraeth Cymru bydd y newidiadau yn creu gwasanaeth IVF cryf i gleifion y gwasanaeth iechyd yn Ne a Gorllewin Cymru.

Bydd y rhaglen hefyd yn clywed profiad Donna ac Andrew Thomas, aeth drwy driniaeth IVF yn y London Women's Clinic dwy flynedd yn ôl. Roedd y triniaeth yn llwyddiannus, a'i mab bychan Cian Wyn bellach yn flwydd oed.

MANYLU a'r frwydr i feichiogi Nos Lun 18.03 ar 30.01.12

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.