« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Manylu: "Ffracio - Perygl yn y Fro?"

Categorïau:

Criw Manylu Criw Manylu | 16:17, Dydd Llun, 26 Medi 2011

Mae cyfres newydd o Manylu yn dechrau heno - efo rhaglen am ddull dadleuol o gloddio nwy o'r ddaear. Mae cais gan gwmni ynni i chwilio am nwy yn Llandw ym Mro Morgannwg wedi codi gwrychyn pobol leol - sy'n poeni y gallai eu dŵr gael ei wenwyno.

Er mai dim ond archwilio'r graig i geisio darganfod faint o nwy sydd yn yr ardal mae cwmni Coastal Oil and Gas am ei wneud ar hyn o bryd, mae pobol leol yn ofni y byddan nhw'n "ffracio" - ffrwydro'r graig dan ddaear er mwyn ei gael allan. Mae cymysgeddŵr, tywod a chemegau yn cael ei bwmpio i'r ddaear er mwyn hollti'r graig, a chreu llwybrau i'r nwy ddianc ohoni.

Ond yn ôl gwrthwynebwyr, mae'r cemegau wedi achosi i bobol fynd yn sal mewn rhannau o'r Unol Daleithiau, ble mae ffracio eisoes yn digwydd.

Dywed Coastal Oil and Gas bod 'na reolau dioglewch llym mewn grym yn y Deyrnas Unedig, ac na fydd 'na unrhyw beryg i'r cyhoedd.

Mae cwmni arall eisoes wedi bod yn ffracio am nwy ger Blackpool, yn Sir Gaerhirfryn, ond maen nhw wedi gorfod rhoi'r gorau iddi dros dro, wedi dau ddaeargryn bychan yn yr ardal yn gynharach eleni. Ychydig o ddifrod achoswyd fodd bynnag, ac maen nhw'n awyddus i ail ddechrau cynhyrchu, ar ôl i'w hymchwil awgrymu bod na ddau gan triliwn troedfedd ciwbig o nwy dan ddaear yno.

Yn ôl cwmniau ynni, fe allai cynhyrchu nwy greu miloedd o swyddi . Ac mae rhai yn dadlau ei bod yn well cynhyrchu nwy ym Mhrydain ym Mhrydain na'i fewnforio o wledydd ansefydlog. Ond, ym Mro Morgannwg mae gwleidyddion o wahanol bleidiau yn gytûn - nad ydyn nhw am weld ffracio yno. Yn ôl yr aelod seneddol Alun Cairns, fe fyddai'r broses yn cael effaith rhy andwyol ar y gymuned leol. Ac mae'r cynghorydd Steffan Wiliam yn credu y dylai'r pwyslais fod ar ddatblygu ynni adnewyddol, yn hytrach na chloddio am nwy.

Y broblem yw bod angen ymchwil pellach cyn y gallai ynni adnewyddol gyflawni anghenion y Deyrnas Unedig. Ac mi fyddai nwy yn un ffordd o lenwi'r bwlch, nes y bydd technolegau newydd wedi eu datblygu, i sicrhau nad ydym ni'n rhedeg allan o ynni ym Mhrydain.

Manylu, 1803 nos Lun 26 o Fedi.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.