Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Sgyms C2

Categorïau:

Criw C2 Criw C2 | 14:04, Dydd Gwener, 5 Hydref 2012

Hei - su' ma'n mynd?

Ma hi’n bnawn Gwener a ma criw C2 a Radio Cymru yn paratoi i fynd mas i ddweud ffarwel wrth ddau o’r tim sy’n hedfan y nyth - sef Gwennan Evans (JK Rowling Cymru - ie hi nath sgwennu’r nofel Bore Da) a Daniel Williams (a odd yn Y Promatics.... So ma fe fel uuhh.. Justin Bieber Dyffryn Nantlle... falle)

 

Gwennan Evans

Yr hyfryd Gwennan Evans

Felly fyddai mas heno - ond un o’r pethe cynta’ nai neud yn hwyr pnawn Sadwrn pan dwi’n deffro - yw gwrando nôl ar raglen Gwilym Rhys sy ar C2 am 6.30 heno. Ma eitem ‘da fe o’r enw Y Sgyms sef rhyw fath o holiadur i fyfyrwyr ynglŷn â’i bywyd cymdeithasol, carwriaethol a gyda phwyslais mawr ar lendid neu wendid glendid

Ahhh - dyddiau sgymi coleg... dyddiau da...

Sôn am ddyddie da - Taith Ysgolion yn dechre wythnos nesa. Ysgol Llanhari amdani fore Iau! O ran y Daith Ysgolion eleni, fe fydd pethe ychydig yn wahanol achos nid yn unig fydd kidz Cymru yn ymddangos ar raglenni C2, cael sylw ar ein safle gwe, ond hefyd mi fydda nhw yn torri ar draws rhaglen Daf a Caryl yn y bore, a Nia Roberts neu Tudur Owen yn y pnawn. Dwi’n ffyddiog eith popeth yn iawn ddydd iau - ond ma Tomos Morse, cynhyrchydd C2 a chyn ddisgybl Llanhari yn rhegi bob yn ail air, felly ma na phosibilrwydd neith cynulledfa Nia dagu ar eu paneidiau wrh wrando ar y rhaglen pnawn Iau.... pwy a wyr... sdim ond un ffordd o wbod....gwrando!

 

 

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.