Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

La di la di laaaaa…

Categorïau:

Magi Dodd Magi Dodd | 12:07, Dydd Mercher, 19 Rhagfyr 2007

Fi 'di bod yn brysur iawn dros yr wythnose dwetha yn meddwl am brynu anrhegion nadolig. Dwi ddim wedi DECHRE prynu nhw ond fi wedi bod yn meddwl am brynu nhw. Fi'n rili edmygu pobol fel Sian ac Emma C2 achos ma nhw'n dechre prynu anrhegion nhw ym mis Awst a ma nhw wedi gorffen erbyn mis Medi. Fi'n edmygu nhw - ac yn edrych arnyn nhw yn lapio eu anrhegion dolig ddiwedd Medi, drwy lygaid eiddigeddus. Ond ma rhywbeth yno fi - yn fy ngenynnau - sy'n atal fi rhag prynu anrhegion dolig tan yr eiliad ola'.

Falle achos ma Nadolig yn meddwl mwy i fi ’na phethau materol - ma bod gyda theulu a ffrindiau yn bwysicach nag anrhegion.

Neu falle mai'r rheswm yw fy mod i'n ddiog ac yn eitha stinji.

Ta waeth, os y'ch chi fel fi a heb brynu anrhegion dolig eto (ac yn eitha stinji a ddim ise gwario lot o arian) - dyma restr o anrhegion munud ola da iawn *

  • Selection bocs - achos ma pawb yn hoffi siocled
  • Smelis ee. talc neu sebon - achos ma pawb yn hoffi arogli'n neis. Peidiwch â neud y camsyniad o brynu sebon bob-dydd serch hynny. Prynwch sebon pinc neu felyn mewn bocs eitha posh. Ma hwnna yn gweithio bob tro
  • Talebau. Yr unig broblem gyda thalebau yw… ma pawb yn gwbod faint chi 'di gwario arnyn nhw, ac mae talebau yn anrhegion munud ola AMLWG iawn. Chewch chi ddim lot o ddiolch am dalebau (fi'n gwbod hyn o brofiad)
  • Sengl Nadolig - digon ohonyn nhw mas eleni gan gynnwys Bryn Fon, Alistair James, Frizbee ac aheemm, Gwibdaith Hen Fran a chriw C2
  • Hances - achos ma pawb angen sychu trwyn
  • Sanau - achos ma pawn angen cadw traed yn gynnes
  • Nics/Trons - achos ma pawb yn gwisgo nics/trons (ar wahan i Britney Spears a Paris Hilton)

Gobeithio fod y rhestr o help ichi!

A chofiwch - ma anifail anwes am byth - ddim am y Nadolig yn unig. Felly peidiwch â phrynu ci neu gath neu hyd yn oed bysgodyn fel anrheg oni bai eich bod chi yn HOLLOL sicr dy'n nhw ddim yn mynd i daflu fe i ffwrdd yn y flwyddyn newydd. Prynwch bâr o nics/trons iddyn nhw yn lle…

Dolig Llawen!
Xxx

* Ma nhw'n anrhegion da iawn yn fy marn i… peidiwch cael go arno fi os nag yw'ch teulu/ffrinidau/cariadon yn hoffi'r anrhegion.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.