Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Pethau neis a phethau sy ddim yn neis

Categorïau:

Magi Dodd Magi Dodd | 12:00, Dydd Sadwrn, 28 Ebrill 2007

Dyma sy'n neud fi'n hapus ar hyn o bryd;

  • Yr Haul
  • Cael tan euraid ar fy ngwyneb.. cuddio gymiant o bechodau
  • Yfed g'n'ts yn yr haul gyda fy ffrindiau
  • Mynd i Barc y Rhath gydag Alun ar b'nawn Sul braf i ddarllen y papurau trashi
  • Chwerthin tan bo fi'n crio
  • Paratoi i fynd i Gyprus gydag Alun ar gyfer priodas fy chwaer
  • Paratoi i fynd i Verona gydag Alun ar gyfer priodas Bryn
  • Dewisiadau cerddorol diweddar BB Aled ar raglen Daf Nos Wener
  • Beyonce a Shakira - Beautiful Lier Remix
  • Mynd i gigs
  • Primark
  • Esgidiau Peacoks
  • Gordon Ramsey
  • Albym 'Bore Da' gan Euros Childs
  • Hufen Ia Mars
  • Meddwl am Eisteddfod Gen
  • Neges y Lost Prophets i fi ar Uned 5
  • Anifeiliaid
  • Straeon Glyn Wise
  • Cael post yn y bore (sy ddim yn bils)
  • Tyra Banks
  • Grangetown
  • Nandos
  • Cylchgronau trashi llawn llunie o selebs size zero
  • Alun Jones

Dyma'r pethe sy'n neud fi'n anhapus ar hyn o bryd;

  • Cynhesu byd eang (ife dyna pam ma' hi mor braf?)
  • Canser y croen (dylech chi wastad wisgo SPF)
  • Gorfod gweithio pan mae'n braf tu fas
  • Hangovers
  • Morgrug
  • Pobol sy'n gallu bwyta unrhywbeth heb roi pwyse arno (Alun e.e)
  • Colli dillad
  • Hongian dillad yn y cwpwrdd
  • Prinder lle i f'esgidiau yn fy nhy
  • Pobol sy'n chwerthin chydig bach rhy uchel - a chi'n gwybod bod e'n ffals-laff
  • Sgraps yn Primark (wir, fi wedi cael mwy nag un)
  • Creulondeb i anifeiliad
  • America's Next Top Model yn dod i ben
  • Cael llythyrau cas off y banc
  • Bod yn sgint
  • myspace
  • Beyonce a Shakira - Beautiful Lier (y fersiwn wreiddiol)
  • Codi'n gynnar
  • Merched sy ond yn enwog am dynnu eu dillad.. Abi Tittmus unrhywun?

Dewch nol i'r dudalen hon yn ystod yr haf gyfeillion. Nai ychwanegu at y ddwy restr yn wythnosol. Hoffwn bwysleisio mai fy marn i yw'r uchod. Just be fi'n hoffi a ddim yn hoffi. Dyw e ddim yn farn y BBC na neb arall. Just fi. Good

Tata

Magi

x

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.