Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Mawredd mawr, eisteddwch i lawr...

Glyn Griffiths | 13:37, Dydd Mercher, 2 Ionawr 2013

Pa mor rhwystredig ydych chi mewn gemau peldroed?

Na, nid am fod eich hoff dîm yn colli neu yn colli eu ffordd, ond am eich bod chi eich hunan yn gweld y nesaf peth i ddim?

Mae wedi dod yn arferiad y dyddiau yma i gefnogwyr, yn enwedig y rhai sydd yn cefnogi'r ymwelwyr, i sefyll mewn mannau sydd wedi eu penodi yn benodol ar gyfer eistedd.

Mae Sunderland eisoes wedi derbyn cwynion yn honni nad oes unrhyw ystyriaeth yn cael ei roi i'r rhai sydd ag anabledd, nac i'r henoed, nac i blant bychan sydd yn gweld dim wrth i bobol hunanol o'u blaenau fyny sefyll.

Ceir hefyd rybudd ar wefan y clwb yn amlinellu beth a ellir digwydd i'r rhai sydd yn torri'r gyfraith drwy sefyll, ac yn mynnu fod gan y clwb yr hawl i sicrhau gofal priodol dros eu cefnogwyr.

Mae'r datganiad hefyd yn dweud fod y rhai sy'n mynnu sefyll hefyd yn diystyru cais y stiwardiaid iddynt eistedd.

Ymddengys mai cymysg ydi'r ymateb gan gefnogwyr y clwb, gyda charfan yn honni y byddai gwahardd sefyll yn amharu ar awyrgylch y gêm.

Lol botas!

Mae sicrhau diogelwch yn llawer pwysicach, gyda phob unigolyn - gan gynnwys y rhai ag anabledd, yr henoed, a'r plant - a'r un hawl i weld y gêm a phawb arall.

Hyd nes y gwneir rhywbeth pendant i ddileu'r arferiad anghymdeithasol o sefyll mewn gemau, allai ddim credu fod hawliau a chyfleodd cyfartal yn cael eu gweithredu na'u hystyried mewn gemau peldroed.

Boed i fwy o glybiau ac awdurdodau weithredu fel y mae Sunderland wedi ei wneud, a bod yn barod i sefyll i fyny dros yr hawl i fyny fod pawb yn eistedd i lawr pan mae seddau ar eu cyfer!

Gyda llaw - fe wnaethpwyd cyhoeddiad i gefnogwyr Chelsea i eistedd i lawr tra'n gwylio eu gem ar Barc Goodison yn erbyn Everton dros y Nadolig. Er gwaethaf y cyhoeddiad, welais i fawr o ymateb.

Mawredd mawr, eisteddwch i lawr - da chi!

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.