Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Ddim yn gem mor brydferth wedi'r cwbl !

Glyn Griffiths | 09:00, Dydd Iau, 25 Hydref 2012

Mae’r penwythnos diwethaf wedi dangos efallai mai’r ffordd orau o wneud protest, ydi peidio â gwneud un!

Gosodiad dryslyd?

Mae’n eithaf tebyg. Ond drwy wrthod a gwisgo crysau T mudiad 'Kick It Out', mae rhai o beldroedwyr mwyaf amlwg Uwchgynghrair Lloegr wedi tynnu sylw pawb, eu bod o'r farn nad ydi'r mudiad gwrth hiliaeth yma , yn eu tyb hwy, wedi gwneud digon i ddileu hiliaeth yn y byd peldroed. Roedd cred gyffredinol bod angen mwy na dim ond ymgyrch i dynnu sylw drwy wisgo crys T yn unig, gyda llawer yn galw am rhywbeth amgenach i atal sylwadau ac ymddygiad hiliol gan chwaraewyr.


Tybed faint o effaith gafodd gwahardd John Terry rhag chwarae pedrair gem yn dilyn y ffrwgwd gydag Anton Ferdinand ? Efallai ichi gofio fod Luis Suarez o Lerpwl wedi cael ei wahardd am wyth gem y llynedd am ddigwyddiad eithaf tebyg.


Y sgil yr adwaith ymddengys fod yna symudiad ar droed i sefydlu Cymdeithas Beldroed i Chwaraewyr Croenddu .


Boed o’n adwaith, yn ffordd o symud ymlaen, yntau ydi hyn yn gallu achosi rhwyg a all amharu ar undod a chryfder Cymdeithas Beldroed Chwaraewyr Proffesiynol sydd wedi bodoli ers dyddiau Billy Meredith?
Ers y penwythnos diwethaf, mae Cymdeithas Beldroed Chwaraewyr Proffesiynol wedi gosod canllawiau pendant iawn yn erbyn unrhyw chwaraewr sy’n ymddwyn yn amhriodol o ran hiliaeth.


Un o’r canllawiau pendant yw y gall chwaraewr sydd wedi ymddwyn yn hiliol wynebu newid pendant yn eu cytundeb gyda’r clwb, ac mewn rhai achosion gael eu diswyddo’n gyfangwbl.


Gweler mwy am y canllawiau wrth ddilyn y ddolen yma http://www.bbc.co.uk/sport/0/football/20054166

Ond nid hiliaeth ydi' r unig beth gododd i ben mewn gemau peldroed yn ddiweddar.


Pwy all amddiffyn y digwyddiad yn Hillsborough pan redodd gwr o ganol cefnogwyr Leeds ar y cae, a tharo golwr Sheffield Wednesday i'r llawr?


Y diwrnod wedyn roedd yna gyhoeddiad ar y radio fod yr heddlu yn ceisio adnabod y gŵr yma - ond ar y teledu fe redodd y gŵr heibio stiwardiaid, a oedd o fewn dwy lathen iddo, gan wneud dim ! Roedd y cefnogwyr yma, fel nifer o rai eraill, yn cael yr hawl i ganu a sarhau unigolion o fewn y gêm - gan weld dim yn cael ei wneud ynglŷn â'u hymddygiad cyhoeddus.


Siom hefyd oedd gweld mai sefyll oedd cefnogwyr Leeds, a hyn mewn rhan o stadiwm a welodd un o’r trychinebau mwyaf yn y byd peldroed, ac a arweiniodd at sicrhau ( yn dilyn Adroddiad Taylor yn 1989) fod meysydd peldroed yn dod yn rhai sydd â seddau ar gyfer pawb.


Dywedodd Leroy Rosenior ar raglen 'The Football League Show' nos Sadwrn diwethaf - petae'r stiwardiaid yn sicrhau fod pawb yn eistedd yn eu seddau yn ôl y rhif ar y ticed, yna byddai’n hawdd adnabod unrhyw unigolyn.


Yn sicr mae digwyddiadau diweddar yn y byd peldroed yn brawf pendant nad ydi hi’n gem brydferth wedi’r cwbl.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.