Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Llywydd newydd Cymdeithas Beldroed Cymru

Categorïau:

Glyn Griffiths | 10:57, Dydd Llun, 10 Medi 2012

Llywydd newydd Cymdeithas Beldroed Cymru ydi Trefor Lloyd Hughes o Gaergybi.

Cydnabyddir Trefor Lloyd Hughes am ei waith o fewn y Gymdeithas sy'n ymestyn dros ddeugain mlynedd.

Dechreuodd fel chwaraewr i glwb Bodedern ar Ynys Môn, a bu am rai blynyddoedd yn brwydro dros ystyriaeth a chydnabyddiaeth i chwaraewyr lleol, a bu'n sylfaenol, ynghyd a'r diweddar Elfed Ellis, dros sefydlu cronfa ar gyfer sicrhau yswiriant i chwaraewyr a gaiff eu hanafu mewn gemau yng nghynghreiriau Gogledd Cymru.

Bu yn weinyddwr lleol ar nifer o gynghreiriau a chymdeithasau lleol, cyn cael ei ethol yn aelod llawn o Gymdeithas Beldroed Cymru gan sicrhau fod gwaith y Gymdeithas Beldroed yng Nghymru yn dod yn llawer mwy tryloyw.

Cafodd ei ethol i swydd Trysorydd y Gymdeithas cyn dod yn is-lywydd, ac yn sgil ei ymroddiad I'r byd peldroed yng Nghymru, mae hefyd wedi sicrhau y bydd gan unrhyw un yr hawl i drafod materion yn y Gymraeg o hyn ymlaen. Daeth hyn wedi iddo gefnogi ymdrechion Cynghrair Caernarfon a'r Cylch i fynnu hawl cyfartal i'r Iaith,

Mae hefyd yn aelod o'r pwyllgor rhyngwladol sydd yn penderfynu ar reolau'r gêm yn fyd-eang. Mae cyfansoddiad y pwyllgor rheolau yn golygu fod rhaid cael cynrychiolaeth o Gymru, Gogledd Iwerddon, Lloegr a'r Alban yn ogystal â chynrychiolydd o FIFA ar y grŵp. Mae hyn yn cydnabod mai ym Mhrydain y dechreuodd y gêm, ac mai gan gyfuniad o fyfyrwyr o brifysgolion Caergrawnt a Rhydychen y trefnwyd y rheolau cyntaf yn 1863.

Gyda llaw, roedd Cymro ymysg y myfyrwyr arloesol yma, sef Henry Lewis Williams, mab teulu John Williams, Highfield Hall yn Llaneurgain ( tua milltir o gartref presennol y blaenwr Michael Owen). Cyn disgybl yn Ysgol Fonedd Harrow, fe aeth I astudio yng Nghaergrawnt, lle y graddiodd i fod yn offeiriad yr Eglwys yn Lloegr, yn ardaloedd Bebington (ar Benrhyn Cilgwri), ac yna yn Swydd Efrog a Swydd Nottingham.

Ond yn ôl at y presenol, a dyma'r pwyllgor rheolau FIFA sydd wedi penderfynu yn ddiweddar y gellir defnyddio technoleg fodern i wneud penderfyniadau penodol o fewn y gêm yn y dyfodol.

Yn 2003, cafodd gwaith Trefor Lloyd Hughes yng nghyd-destun amddiffyn plant o fewn peldroed yng Ngogledd Cymru ei gydnabod fel un arloesol, pan dderbyniodd anrhydedd gan y Gymdeithas er Atal Creulondeb i Blant, yr NSPCC. Daeth y polisïau Amddiffyn Plant a gafodd eu cynllunio o dan ei gadeiryddiaeth ar ran Cymdeithas Beldroed Gogledd Cymru, eu mabwysiadau fel sail i sefydlu arferion da gan Gymdeithas Beldroed Lloegr, UEFA (Cymdeithas Beldroed Ewrop), a hefyd FIFA (Cymdeithas Beldroed Rhyngwladol y Byd).

Tra fod llawer yn cwyno nad yw Cymru yn llwyddo ar lwyfan gemau peldroed rhyngwladol, da ydi nodi dylanwad aruthrol Trefor Lloyd Hughes, sydd wedi rhoi sail i sicrhau amgylchedd mwy diogel i blant o fewn gemau peldroed ar draws y Byd.

Tipyn o fraint ac anrhydedd felly i'r gŵr o Ynys Môn, sydd erbyn heddiw yn eistedd ochr wrth ochr a mawrion FIFA gyda llais o fewn materion pwysicaf peldroed rhyngwladol.

Wrth siarad â Trefor yr wythnos diwethaf, mae ei werthfawrogiad am y gefnogaeth mae wedi ei gael gan bawb - yn gefnogwyr, chwaraewyr, hyfforddwyr a swyddogion - yn enfawr, ac mae balchder o'r cefndir Cymreig ar Ynys Môn llawn mor gryf ac a fu erioed.

Pob hwyl i'n Llywydd newydd.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.