Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Derwyddon Cefn yn Ffeinal Cwpan Cymru

Glyn Griffiths | 13:12, Dydd Mawrth, 3 Ebrill 2012

Llongyfarchiadau I'r Derwyddon Cefn ar gyrraedd rownd derfynol Cwpan Cymru.
Mae enw'r Derwyddon wedi bod yn gysylltiedig â'r Gwpan ers y dechrau gan iddynt chwarae yn ffeinal gyntaf y Gwpan ar Barc Acton yn Wrecsam yn 1878 - a cholli yno o un gôl i ddim i dîm Wrecsam.

Yna cawsant llwyddiant dri thymor yn olynnol yn 1881-83 gan guro Rhuthun, y Drenewydd a Northwich Victoria, colli i Wrecsam a Chroesoswallt yn y ddwy flynedd ddilynol, cyn cipio'r Gwpan eto dwywaith yn 1885 ac yn 1886 gan guro Croesoswallt a'r Drenewydd.

Cafwyd llwyddiant eto yn 1898 a 1899 gan guro Wrecsam dwywaith, colli i Aberystwyth a Chroesoswallt yn 1900 a 1901, cyn dod yn fuddugol unwaith eto yn 1904 wrth guro Aberdâr.

Eithaf amlwg felly mai'r Derwyddon oedd un o arloeswyr peldroed Cymru ar y cychwyn, diddorol ydi nodi hefyd cymaint oedd cyfraniad Croesoswallt - a hynny mewn ffeinals yn erbyn y Derwyddon ar dri achlysur yn y cyfnod cynnar yma.

Bydd hanes yn ail adrodd ei hun eleni gan mai'r Seintiau Newydd, tîm presennol ardal Croesoswallt fydd gwrthwynebwyr y Derwyddon Cefn yn Stadiwm Nantporth, Bangor ar ddydd Sadwrn, Mai 5ed.

Bydd y Seintiau yn siŵr o ddechrau'r gêm fel y ffefrynnau, ond gan fod tîm Huw Griffiths wedi curo Aberystwyth, Prestatyn ac Airbus o Uwchgynghrair Cymru ar y daith i'r ffeinal, ni ellir eu diystyrru.

Siomedig oedd y torfeydd yn y ddwy gem gym-derfynol - 202 oedd ar Faes Belle Vue yn y Rhyl yn gweld y Derwyddon yn curo Airbus o bedair gôl i un; a 282 oedd ar Goedlan y Parc yn Aberystwyth yn gweld y Seintiau yn trechu'r Bala o bedair gôl i ddim.

Cafwyd awgrym yng ngholofn Marc Lloyd Williams ar wefan Chwaraeon y BBC y gallasai'r Gymdeithas Beldroed fod wedi cynnal y ddwy gêm gyn-derfynol, un yn dilyn y llall, ar yr un diwrnod ar y Cae Ras yn Wrecsam.

Tra mae nifer y torfeydd yn parhau yn isel, mae cael syniad newydd yn un gwerth ei ystyried a hwyrach fod y Gymdeithas wedi methu ar ddatblygiad arloesol a gwreiddiol iawn wrth fethu a meddwl am hyn.

Tybed a fydd yna ddigon o ddiddordeb yn cael ei ddangos yn ffeinal?

Mae'r gêm yn ddarbi lleol mwy neu lai a gyda hanes y tu cefn iddynt fe all y Derwyddon gyfrannu yn helaeth tuag at bennod arall yn eu traddodiad a hanes unigryw o fewn datblygiad a thwf peldroed yng Nghymru.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.