Mae hi'n wythnos cyri yr wythnos nesa, oni bai eich bod chi'n rhywun fel fi sydd wrth ei fodd efo cyri, ac yn cael un yn wythnosol. Yna, mae hi'n wythnos cyri bob wythnos.
Felly i le 'da chi'n meddwl yr es i am gyri'r noson o'r blaen? Lle ydi canolfan cyri De Cymru?
Wrth gwrs - Cwm Twrch! I fod yn fanwl gywir i Gwm Twrch Uchaf yr es i i gyfarfod un o eiconau'r genedl, Maharaja'r Maes Rygbi - Clive Rowlands.
I gychwyn fe gawson ni popadam neu ddwy, puri corgimychiaid i ddilyn, ac yna dau brif gwrs wedi ei henwi ar ôl y dyn ei hun.
"These are Mr Clive Specials," meddai Abdul, wrth eu gosod yn ofalus ar y bwrdd o flaen y Maharaja.
Ac mi oedda nhw'n spesial hefyd, yn llawn darnau o gyw iâr o'r tandoori, yn gymysg
a nionod a pherlysiau, reis a bara naan. Noson i'w chofio a chwmni heb ei fath.

"Ry ni moyn hybu Cymreictod yn yr yr ysgol."

Llais Rhian Gardiner ar y ffôn o Ysgol Gymraeg Bryntawe.
Felly i fewn i'r fan a fi yn gynt na Bruce Wayne yn dringo i mewn i'w Batmobile, a gyrru draw i'r ysgol i roi hwb i'r syniad ar Radio Cymru.
Synnau cyfarwydd iawn oedd yn cyfarch hen rapiwr fel fi pan gyrhaeddais i. Swn
Ed Holden, gynt o grwp rapio'r Gennod Drwg, yn cynnal gweithdy efo'r plant.
Mae Menter Iaith y cylch hefyd yn cefnogi syniad 'Sgol Swn, a'r bwriad ydi cynnal mwy o weithgareddau tebyg yn y dyfodol.
Fe gewch chi glywed y stori a'r sŵn heno ar raglen yr hen rocar Geraint Lloyd ar Radio Cymru rhwng hanner awr wedi chwech ac wyth.

Rhwng trefi Caerfyrddin, Rhydaman a Llanelli y gorwedd Cwm Gwendraeth, yn ne ddwyrain Sir Gaerfyrddin. Ond mae'n bwysig cofio fod 'na ddau Gwm Gwendraeth - y Fach a'r Fawr.
Y naill yn cynnwys pentrefi bychain fel Porth y Rhyd, Llangyndeyrn, Llandyfaelog, Mynydd y Garreg a Chydweli, lle ganwyd fy nhad. A'r llall yn cynnwys pentrefi mwy fel Pontyberem, Pontiets, Ponthenri a Thrimsaran.
Ac fel wyr Dafydd Evans y crydd yn 10 Bridge St, Cydweli, mae 'na groeso i mi bob amser yn y Cwm - a hwnnw'n groeso cynnes, fel y croeso ges i yn ddiweddar yng Nghaffi Cynnes, Pontyberem.
Yno 'roeddwn i i gyfarfod Don Williams a Haydn Scaife ac i gael golwg yn eu cwmni nhw ar arddangosfa ddiddorol iawn yn llawn dogfennau a hen luniau sy'n adlewyrchu gorffennol cyffrous a disglair Cwm Gwendraeth.
Gyda'r nos fe es i draw i sinema Cross Hands i weld dangosiad hanesyddol o ffilm am fywyd Lloyd George ddaeth i'r fei ar ôl 76 o flynyddoedd o fod ar goll.
Ac os ewch chi ymhellach yn ôl na hynny, i'r 19 ganrif, fe gewch chi esboniad am darddiad yr enw Cross Hands.
Wel, mae 'na ddau a deud y gwir. Gewch chi ddewis.
Mae rhai yn dweud y byddai carcharorion yn cerdded o garchar Caerfyrddin i garchar Abertawe, a'u dwylo mewn cadwynau, ac yn mynd drwy'r pentref. Esboniad arall ydi fod ceffylau'r goets fawr yn cael eu newid yma - ac felly yn newid dwylo.