Y Gwyddonydd: 50 mlynedd yn ddiweddarach

Dydd Gwener 1 Mawrth 2013, 12:00

Deri Tomos Deri Tomos

Yr Athro Deri Tomos sy'n adlewyrchu ar Y Gwyddonydd ac yn olrhain ei ddylanwad ar wyddoniaeth yng Nghymru, hanner can mlynedd wedi lansiad y cylchgrawn ar Fawrth y 1af 1963.

 

Nifwl troellog y Trobwll yng nghytser Canes Venatica sydd ar glawr rhifyn cyntaf Y Gwyddonydd a ymddangosodd fis Mawrth 1963. Canes Venatici yw un o gytserau ”modern” y ffurfafen a enwyd i ddiwallu dyheadau trigolion Goleuedigaeth yr ail ganrif ar bymtheg.

Datgelu am y tro cyntaf ffurf sbiral galaethau megis ein galaeth ni - Y Llwybr Llaethog - oedd cyfraniad mawr y Trobwll. Delwedd ryfeddol o addas, felly, i un o feini chwyldro ieithyddol y 60au gyda’i ddyheadau a’i ymwybyddiaeth Genedlaethol newydd.

Nifwl Nifwl

Microsgop, rhywbeth yn edrych i mewn ar bethau bach, oedd eicon gwyddonol Gwyddor Gwlad, rhagflaenydd ardderchog Y Gwyddonydd. Y Bydysawd, a’i holl gynnwys, dim byd llai na hynny, oedd nod Glyn O.Phillips a’i dîm yn y fenter newydd. A wireddwyd y nod hwnnw?

Yn ystod haf 1993 daeth Y Gwyddonydd i ben. Ond nid wrth y tranc hwnnw mae mesur ei lwyddiant neu ei fethiant. Am ddegawdau wedi hynny - yn wir weithiau heddiw, 20 mlynedd ers y rhifyn olaf - clywir “mae gennym ein cylchgrawn gwyddonol, hyd yn oed” wrth i Gymro neu Gymraes ymffrostio yn iechyd ein hiaith wrth estroniaid.

Yr eironi, i mi, oedd mai o enau rhai na ddarllenodd y cylchgrawn erioed y clywyd hyn mor aml a pheidio. 

Fe ddaeth Y Gwyddonydd yn eicon ei hun i’r genhedlaeth a ddaeth â gobaith yn ôl am Dynged yr Iaith. Fe wireddwyd un nod yn bendant. Fe ddaethpwyd â’r Gymraeg at wyddoniaeth. Ond a wireddwyd nod arall a oedd yn flaenllaw yng ngobeithion y criw ifanc - sef dod â gwyddoniaeth i’r Gymraeg?

I ateb hyn mae’n rhaid dilyn cyd-berthynas gwyddoniaeth a chymdeithas y gorllewin yn gyffredinol dros yr hanner can mlynedd diwethaf. Amhosibl yw deall datblygiad, neu ddiffyg datblygiad, gwyddoniaeth Cymraeg heb wneud hyn. 

Sonnir am y New Scientist yn y golofn olygyddol gyntaf. Eicon gwyddonol yn yr iaith Saesneg a oedd dim ond yn wyth mlwydd oed ei hun yn 1963. Wrth bori trwy rifynnau cynnar y ddau gylchgrawn gwelir yn glir yr optimistiaeth mewn atebion gwyddonol a thechnolegol. Dyma oedd diwedd yr ugain mlynedd o ddarganfyddiadau gwyddonol rhyfeddol a ddaeth yn sgîl holl ddatblygiadau technegol yr ail ryfel byd.

Wrth gwrs byddai modd ateb mwy a mwy o anghenion pobloedd y byd yn eu sgîl. Yng Nghymru roedd gweithwyr y diwydiannau trymion - glo, dur a haearn, olew, dŵr, trydan a niwclear (yn ei dro) yn gweld y cysylltiadau yn eu gwaith pob dydd.

Hefyd roedd cenhedlaeth o amaethwyr wedi gweld ymdrechion y “War Rag” i osod sylfeini gwyddonol i ffarmio yn ystod yr ail ryfel byd. Roedd modd gweld “gwres gwyn technoleg” Harold Wilson yn Gymraeg ar dudalennau’r Gwyddonydd

Yn fy hoff rifyn o’r cylchgrawn; cyfrol arbennig yn 1978 ar “Y Creu” (a olygwyd gan Gareth Wyn Jones a John Llew Williams), gwelir penllanw’r optimistiaeth yma wrth geisio cynnwys ynghyd grynodiad o’n holl ddealltwriaeth am y ddaear a’i bywyd - yn Gymraeg. Ond ‘roedd pethau eraill yn digwydd yn y 60au.

Chwe mis cyn ymddangosiad cyntaf Y Gwyddonydd, ymddangosodd Silent Spring, Rachel Carson, yn yr Unol Daleithiau. Ym mis Hydref 1966 llithrodd tomen Rhif 7 i gyfeiriad Ysgol Gynradd Pantglas, Aberfan. Roedd gwedd gymdeithasol Technoleg, a Gwyddoniaeth yn ei sgîl, yn newid.

Medrwn ymfalchïo fod y Gymraeg wedi dod yn gyfrwng naturiol yn y bydoedd newydd yma - ystyriaethau gwleidyddol yr amgylchedd, er enghraifft. Wrth gwrs, mae nifer o’r rhain yn ymwneud â gwyddoniaeth, ond nid dyna eu hanfod - ac yn aml, bellach, technoleg yw’r bwgan a gwyddoniaeth yn anghyfleus.

Mae darllenwyr New Scientist yr unfed ganrif ar hugain wedi llwyddo i bontio’r gagendor.

Yn y Gymraeg mae gennym gylchgronau a darllediadau ardderchog yn ymwneud â Natur - sydd weithiau yn cynnwys gwyddoniaeth. Ond prin iawn yw’r achlysuron lle gwelir gwyddoniaeth yng nghanol yr hanes. Anaml iawn y gwelaf ddisgyblion ysgol wedi’u cyflyru’n wyddonol trwy gyfrwng y Gymraeg.

Bu cynnydd aruthrol yn nifer gwyddonwyr proffesiynol Cymru ers y 60au, ond ofnaf mai gostwng wnaeth nifer y rhai sydd â’r moddion a’r arferion ieithyddol i lywio cylchgrawn fel Y Gwyddonydd.

Enwyd Canes Venatici gan Johannes Hevelius yn sgîl yr Oleuedigaeth wyddonol Ewropeaidd. Roedd Y Gwyddonydd yn ymgais i ddod â’r oleuedigaeth honno i’r Gymraeg. Efallai na lwyddwyd i wneud hynny ac y bu i’r Gymraeg neidio yn syth i’r oes Ol-fodern.

Trobwll yn wir.

Sylwadau

Rhowch y sylw cyntaf

Mwy o gofnodion

Blaenorol
Croeso!

Dydd Gwener 1 Mawrth 2013, 11:17

Nesaf
Dathlu menywod Cymru

Dydd Gwener 8 Mawrth 2013, 14:57

Ynglŷn â’r blog

Barn, sylwadau a gwybodaeth am yr hyn sy’n digwydd yng Nghymru ym maes y celfyddydau, hanes, crefydd, gwyddoniaeth a mwy.

Diweddariadau Blog

Darllenwch y diweddaraf gyda chofnodion cyfredol o'r blog hwn.

Tanysgrifiwch trwy ddefnyddio:

Beth yw'r porthwyr?

Mwy gan BBC Cymru

BBC Darganfod