Dathlu menywod Cymru

Dydd Gwener 8 Mawrth 2013, 14:57

Elin Meredith Elin Meredith

Yn yr wythnos y cafodd y ferch o Sgiwen, Bonnie Tyler, ei dewis i gynrychioli Prydain yng nghystadleuaeth Cân yr Eurovision a Caryl Lewis ei hethol yn Hoff Awdur Cymru, nodwn Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod ar Fawrth 8 a Sul y Mamau ar Fawrth 10 drwy ddathlu menywod Cymru.

 Cafwyd trafodaeth am y diwrnod rhyngwladol a sefyllfa merched heddiw ar raglen Dan yr Wyneb ar Radio Cymru yr wythnos hon.

Dyma gyfle inni atgoffa ein hunain o rai o’r menywod sy'n cynnig ysbrydoliaeth i ni’r Cymry. Dewis hollol fympwyol ydy hwn rhaid nodi - croeso ichi enwebu eich arwresau chi. 

Buddug
Cerflun o Buddug a'i merched yn Neuadd y Ddinas Caerdydd Cerflun o Buddug a'i merched yn Neuadd y Ddinas Caerdydd Dechreuwn gydag un o arwyr y Cymry cynharaf, y Brythoniaid, a arweiniodd wrthryfel yn erbyn y Rhufeiniaid adeg eu goresgyniad dros Ynys Prydain.

Yn enw ei llwyth, a’i dwy ferch, gwnaeth y fam a’r arweinydd bwerus hon safiad dewr yn erbyn grym yr imperialwyr. Erbyn hyn mae cerflun enfawr o Buddug yn gyrru cerbyd rhyfel â phicell yn ei llaw ar lan afon Tafwys yn Llundain.

Mae’r disgrifiad ohoni yn rhoi darlun o ddynes drawiadol, gref, sy'n chwa o awyr iach ar ôl rhai o'r delweddau traddodiadol mwy diweddar o'r ferch: “Roedd hi'n dal, â gwallt coch hir at ei chanol, ac roedd ganddi lais cras a llygaid llym. Byddai'n gwisgo torch aur fawr, tiwnig amryliw a chlogyn trwchus wedi'i gau â thlws.” Mwy...  

 Megan Lloyd George
Yn enwedig o ystyried ein traddodiad Brythonig o arweinwyr llwythol benywaidd - anhygoel credu mai nid tan 1928 y cafodd pob menyw yr hawl i bleidleisio ym Mhrydain.

Y flwyddyn ganlynol daeth Megan Lloyd George yr Aelod Seneddol Cymreig benywaidd cyntaf pan etholwyd hi fel yr Aelod Rhyddfrydol dros Ynys Môn.

Fel merch i Brif Weinidog oedd wedi ei thrwytho ym mwrlwm gwleidyddol Downing Street ers pan oedd yn ddim o beth, dim syndod iddi brofi ei hun a dod yr Aelod hiraf ei gwasanaeth ac yn Ddirprwy Arweinydd ei phlaid. Mwy ...

Catrin o Ferain
Er ei bod yn aml yn cael ei phortreadu fel y weddw ddu oedd yn cynllwynio i briodi ei gwr nesaf cyn bod yr un cyfredol yn ei fedd - neu'n ‘Lucrezia Borgia Cymru’ -
y gwir oedd fod Catrin o Ferain yn fenyw bwerus, ddeallus, oedd yn etifedd stâd a chyfoeth yn ei hawl ei hun.

Drwy ei phriodasau strategol, llwyddodd i gynyddu ei grym a'i statws, gan felly ddiogelu dyfodol ei phlant a'i theulu, mewn cyfnod pan nad oedd gan ferched cyffredin fawr ddim hawliau. Mwy ...

Ann Griffiths 
Dim ond 29 mlwydd oed oedd Ann Griffiths pan fu farw yn fuan wedi genedigaeth ei merch (bu farw'r plentyn hefyd bythefnos wedi ei geni) ond priodolir iddi gorff o emynau sydd ymysg rhai mwyaf pwerus yr iaith Gymraeg.  

Maen nhw’n nodedig am eu hangerdd ac am swyn eu geiriau.

Meddai E Wyn James am y ferch o fferm Dolwar fach yn Nhrefaldwyn: “Hi yw un o feirdd mwyaf Cymru, a’r ferch enwocaf i ysgrifennu barddoniaeth yn y Gymraeg. Tyfodd yn eicon cenedlaethol. Bu mwy o ganu ar ei hemyn ‘Wele’n sefyll rhwng y myrtwydd’ nag odid yr un emyn Cymraeg arall” Mwy ...

 

Kate Roberts
Mewn cyfnod pan nad oedd llawer o ferched yn ysgrifennu, aeth Kate Roberts i'r afael â phroblemau cymdeithasol ei chyfnod ac ysgrifennu yn gyfoes ac yn gignoeth am fywyd, o bersbectif merched yn arbennig, gan ennill y teitl ‘Brenhines ein Llên’. 
 

Meddai’r golygydd Bethan Mair ar Radio Cymru yn ddiweddar: “Fe gyhoeddwyd Traed Mewn Cyffion, ei nofel hir gyntaf, nôl yn 1936 a byth oddi ar hynny mae hi wedi bod yn rhywun mae merched, yn enwedig efallai, yn gallu uniaethu â hi.

“Yr hyn mae Kate Roberts yn ei wneud mor dda ydy cymryd ymdrech bywyd, sydd weithiau yn gignoeth ac yn ofnadwy, a’i droi yn llenyddiaeth aruchel,” ychwanegodd. Mwy ...

 

Shirley Bassey
Anodd cael dwy mor wahanol â Kate Roberts a Shirley Bassey ond dyma rywun arall o gefndir caled a thlawd sydd wedi torri ei chwys ei hun a dod i'r brig yn ei maes.

 Mae’r Diva o Diger Bay, Caerdydd, yn dal i fod yn un o sêr mawr y byd adloniant a’i llais yn un o leisiau mwyaf adnabyddus y byd.
Mwy ...

Tanni Grey-Thompson
Cafodd Tanni Grey-Thompson, Carys ar ei thystysgrif geni, ei geni â Spina Bifida ond mae wedi llwyddo i oresgyn cyfyngiadau'r cyflwr a datblygu'n un o athletwyr mwyaf llwyddiannus a dylanwadol Cymru, a thu hwnt.

Mae wedi ennill naw medal Olympaidd ac ennill marathon Llundain chwech o weithiau – yn 2002 gwnaeth hynny brin ddeufis ar ôl genedigaeth ei merch Carys.

 

Gyda’r un penderfyniad yr aeth ati i ddysgu Cymraeg gan ennill y gyfres gyntaf o Cariad@iaith ar S4C wedi ei lleoli yng nghanolfan ddysgu Cymraeg Nant Gwrtheyrn.
Mwy ...

A sôn am chwaraeon, mewn sgwrs ar raglen Beti a’i Phobol yr wythnos hon, dywedodd yr anturiaethwr ysbrydolgar o’r Parc ger y Bala, Elin Haf Davies, fod Gemau Olympaidd 2012 wedi sefyll allan fel blwyddyn bwysig iawn i ferched yn y byd chwaraeon. Dyma’r Gemau cyntaf erioed meddai lle roedd merched o bob gwlad yn cael eu cynrychioli ac yn cystadlu ym mhob un maes.

Ac roedd gan Elin eiriau o ddoethineb i’w chyd Gymry hefyd. Awgrymodd ei bod yn bryd inni roi'r gorau i'n 'victim mentality' a'n cwyno ein bod ni'n 'cael cam' ac edrych o'n cwmpas i ddysgu gan lwyddiannau pobl eraill.

“Mae’r meicrosgop fel offer yn un pwysig iawn wrth gwrs ond mae’r telesgop yn aml yn gallu dysgu mwy inni hefyd ...

Mewn gwledydd eraill, meddai, dydi hi ddim yn clywed yr un negyddiaeth ag y mae’n ei glywed yng Nghymru ond “mwy o ‘Wel, os diwsho fo, mi â’i allan amdano fo ac mi wnâ i greu fy llwyddiant fy hun’ ... yn hytrach na theimlo bod y byd i gyd yn ein herbyn ni a’n bod ni byth yn cael cyfleoedd.”

Ac fel ysbrydoliaeth i unrhyw fenyw, neu ddyn, Amen ddywedaf i.

Sylwadau

Neidiwch i dudaleniad y sylwadau
 
 
 

Mae'r cofnod hwn wedi ei gau ar gyfer sylwadau pellach

Mwy o gofnodion

Blaenorol
Y Gwyddonydd: 50 mlynedd yn ddiweddarach

Dydd Gwener 1 Mawrth 2013, 12:00

Nesaf
Podlediadau: Straeon newydd i blant

Dydd Llun 18 Mawrth 2013, 09:41

Ynglŷn â’r blog

Barn, sylwadau a gwybodaeth am yr hyn sy’n digwydd yng Nghymru ym maes y celfyddydau, hanes, crefydd, gwyddoniaeth a mwy.

Diweddariadau Blog

Darllenwch y diweddaraf gyda chofnodion cyfredol o'r blog hwn.

Tanysgrifiwch trwy ddefnyddio:

Beth yw'r porthwyr?

Mwy gan BBC Cymru

BBC Darganfod