Blog Cylchgrawn

Barn uwchlaw Sylw
Dwy flynedd o ras a chyfle i brofi eu hunain  i Barn a'r Cymro felly.

Dyna benderfyniad Cyngor Llyfrau Cymru: a gyhoeddodd y bore ma  fod dwy flynedd o grant cylchgrawn materion cyfoes wedi'i ddyfarnu i Barn er gwaethaf cystadleuaeth Sylw.

Cyfle i Vaughan Hughes a'i griw anadlu a chael mynd i'r afael o ddifrif i roi'r cylchgrawn ar ei draed.

Wnaeth rhifyn Steddfod Sylw, ddim digon felly i argyhoeddi y byddai'n well cylchgrawn na Barn a fu efo ni er 1962.

Fel rhan o'r broses i ddewis comisiynodd y Cyngor Llyfrau gwmni Wavehill o Aberaeron i gynnal ymchwil marchnad ymysg darllenwyr drwy holiadur, galwadau  ffôn a chynnal grwpiau ffocws.

"Cafwyd canmoliaeth i'r ddau gylchgrawn gan y rhai a holwyd," meddai'r Athro M Wynn Thomas, cadeirydd y Cyngor Llyfrau.

"Ac roedd pobl yn sylweddoli bod yma ddau gylchgrawn cryf yn delio â materion cyfoes mewn ffyrdd gwahanol.  Mae adroddiad ymchwil Wavehill yn dangos yn glir fod yna gryn ddiddordeb gan ddarllenwyr mewn cylchgrawn safonol sy'n dadansoddi a thrafod pynciau amrywiol y dydd drwy gyfrwng y Gymraeg.

"Roedd ymateb cadarnhaol y darllenwyr i'r ddau gylchgrawn hefyd yn arwydd o'r bywiogrwydd ym maes cylchgronau y dyddiau hyn."

Ond soniodd o ddim o gwbl am werthiant yn ei ddatganiad.

Mae'n ymddangos mai profiad golygyddol Barn  enillodd y dydd i'r cylchgrawn.

Ac fe soniodd cadeirydd Panel Grantiau'r Cyngor Llyfrau, Gareth Davies Jones, am gynnydd yng nghylchrediad Barn ond heb nodi niferoedd:

"Roedd aelodau'r Panel yn ymwybodol iawn o ymrwymiad a brwdfrydedd y ddau gwmni i gynhyrchu cylchgrawn oedd yn trafod materion cyfoes mewn ffordd fywiog ac apelgar.  Pan ddaethpwyd at y penderfyniad yr oedd profiad newyddiadurol tîm golygyddol Barn ynghyd â safon y cynnwys a'i natur ddadansoddol yn ffactorau hollbwysig.

"Croesawyd yn fawr hefyd y modd yr oedd y cwmni wedi ymdrechu i ehangu apêl y cylchgrawn yn ystod y flwyddyn ddiwethaf gan ddangos cynnydd o 20% yn y cylchrediad.

"Mae cyfle iddynt yn awr, fel deiliaid y drwydded am y ddwy flynedd nesaf, adeiladu ar eu cynulleidfa graidd ac edrych eto ar ddiwyg y cylchgrawn.'

Cadarnhaodd y Cyngor Llyfrau hefyd fod papur newydd Y Cymro a'r cylchgrawn Y Selar wedi sicrhau arian am ddwy flynedd arall.

Un nos ola leuad - hir iawn
Be sydd o'i le efo paent yn sychu?

A gwair yn tyfu, tasa hi'n mynd i hynny.

Pam maen nhw wedi cael enw mor ddrwg?

Fe fum i'n gweld New Moon y dydd o'r blaen - yr ail ffilm  mewn cyfres sy'n galw ei hun yn Twilight Saga.

Tweileit fyddai Ifas y Tryc yn ei ddweud am dŷ bach ers talwm. Mi allai ddeall pam.

Yno - yn y sinema nid y tweileit, ymhlith llancesi nwyfus yn eu harddegau a oedd yno i edmygu'n serchglwyfus actorion tyn, cnotiog a sgleiniog  eu cyhyrau - dyma ffilm sy'n rhoi enw drwg i baent yn sychu.

Ac yn ffilm lle mae'r coed mewn coedwig yn llai prennaidd na rhai o'r actorion.

Nid pawb, fyddai'n cytuno wrth gwrs - gan gynnwys  ein hadolygydd ni  - ac, yn wir i chi, mae hon yn ffilm mae'r ifanc yn rhuthro'n donnau nwydwyllt o berlewyg  i'w gwylio yma ac yn y Merica.

Ond ysu'r oedd eraill ohonom am sŵn tyrchu a chnoi  popcorn o'r seddau cyfagos. Inni gael rhywbeth i'n cadw'n effro a'n cyffroi am bris ein tocyn.

Un Nos Ola Leuad doedd hi ddim.

Chwilio am y cyffro nesaf . . .
A dyma hi'n ddiwedd y byd unwaith eto. Y dydd o'r blaen bum yn gweld y ffilm 2015. Ffilm sy'n fwrlwm o lawogydd, daeargrynfeydd, ffrwydradau, llifogydd - a dyrnaid o eirch Noah modern ar gael i achub detholion dynoliaeth.

Mae'r ffilm yn hynod am ddau beth:

Nid syrffed gorboethi bydeang trwy gamddefnydd dyn o'r blaned sy'n cael y bai ond diffyg naturiol ar yr haul.

Y daeargrynfeydd ysgytwol sy'n disodli a chwalu rhai o wrthrychau ac adeiladau mwyaf eiconig y byd. Maen nhw'n ysgubol.

Crist yr Andes uwchben Rio yn syrthio'n ddramatig i'r llawr; nenfwd enwog y Capel    Sistinaidd yn hollti'n ddau reit lle mae bysedd Duw a dyn ar fin cyffwrdd a dinas Los Angeles yn chwalu o'n blaenau a mynyddoedd yn rhwygo a chwympo.

Ond eto. Er mor drawiadol y golygfeydd hyn dydy nhw ddim yn cyffroi ac yn peri y rhyfeddod fyddech chi'n ei ddisgwyl. Nid fel roedden nhw a rhyw 'Dyna fo, da iawn,' fu ymateb cynulleidfaoedd.

Hynny, wrth gwrs, oherwydd inni weld rheseidiau o olygfeydd tebyg mewn degau o ffilmiau dros y blynyddoedd diwethaf diolch i feistrolaeth dechnegol ddihysbydd ac, yn anorfod, cynulleidfaoedd yn eu derbyn mewn edmygedd digon difater a heb gyffroi rhyw lawer bellach.

A hynny, yn ei dro, yn gwneud i rywun holi; Beth andros all gwneuthurwyr ffilm ei wneud  nesaf i  gyffroi pobl?

Ydyn nhw wedi cyrraedd pen draw eu gallu i gyffroi - ynteu ai'r cam nesaf fydd teimlo'r dyfroedd o amgylch ein traed yn y sinema a chwithau'n gorfod rhuthro adref er mwyn newid i ddillad sych?

A chuddio dan ein seddau dan gawodydd o fwledi!

Teitlau
Mae'r ddarpariaeth o gof a hunan gofiannau fymryn yn llai nag arfer y Nadolig hwn.

Er, mae gennym ni ddau bêl-droediwr, Mark Aizlewood a Malcolm Allen un yn chwarae i Wasg Gomer a'r llall i'r Lolfa.

A chan Y Lolfa hefyd mae hunangofiant Bryan 'Yogi' Davies, a'i deitl arwyddocaol Mewn Deg Eiliad.

A dyna chi, fwy na heb, ar wahân i hunangofiant y darlledwr Arfon Haines Davies. A hwnnw sy'n ennill fy ngwobr i.

Am y teitl mwyaf diddychymyg a lleiaf apelgar. Y teitl sydd lleiaf tebyg o berswadio rhywun i ddarllen.

Mab y Mans.

Ydw i'n iawn yn meddwl mai'r tro diwethaf inni gael hunangofiant â theitl mor ddifywyd oedd gan Cynog Dafis?

Cynog - Mab y Pregethwr oedd enw ei lyfr ef a gyhoeddwyd 2005.

Dydd o brysur bwyso
Bore Gwener, neu hyd yn oed nos Iau efallai, fe fyddwn ni'n gwybod hynt ariannol tri chyhoeddiad Cymraeg.

Yn dilyn cyfarfod ddydd Iau  nesaf bydd Cyngor Llyfrau Cymru yn cyhoeddi  pa un ai Barn ynteu Sylw fydd o'n ei gefnogi gyda grant o hyn allan.

Bydd yn dod i benderfyniad hefyd a fydd o'n parhau i gefnogi Y Cymro neu beidio.

Bu Barn a'r Cymro ar flwyddyn o rybudd fel petai ac fe fydd un o banelau'r Cyngor Llyfrau yn dechrau trafod yfory a ddylid parhau i gefnogi'r Cymro o gwbl  sy'n cael £18,000 ar hyn o bryd.

Ynglŷn â  Barn sy'n derbyn £80,000 mae hi'n gystadleuaeth  rhwng y cylchgrawn a sefydlwyd yn 1962 a chylchgrawn newydd, Sylw, y cyhoeddwyd yr unig rifyn ohono gan Y Lolfa ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Y Bala trwy gymorth  taliad o £5,000 gan y Cyngor Llyfrau.

Gobaith Sylw yw iddo ddangos digon o addewid i fedru hawlio'r £80,000 oddi ar ford Barn.

Gobaith Barn, sy'n awr a phanel o olygyddion newydd, yw y bydd wedi gwneud digon dros y misoedd diwethaf i argyhoeddi'r Cyngor Llyfrau  ei fod yn dal i haeddu'r arian.

Dyma'r tro cyntaf inni weld cystadleuaeth o'r fath yn hanes grantiau i gylchgronau.

O blith tri a fu'n dyfalu am y penderfyniad posibl ar Wythnos Gwilym Owen  BBC Radio Cymru ddoe dywedodd Eifion Lloyd Jones a Gwyn Griffiths mai i Barn y bydden nhw'n rhoi'r arian ond ochri gyda Sylw wnaeth Angharad Mair.

A hynny am y rheswm syml i'r cylchgrawn roi ei llun hi ar glawr ei rifyn enghreifftiol a chyhoeddi erthygl amdani.

Ond fel y dywedodd Gwyn Griffiths; doedd y llun yn ei farn ef ddim yn un a wnâi gyfiawnhad ag Angharad ac ar ben hynny doedd yr erthygl amdani ddim wedi ei sgrifennu'n dda iawn ychwaith gan awgrymu bod pob cyfiawnhad iddi o'r herwydd droi cefn ar y cyhoeddiad.

Tybed beth fydd barn aelodau'r Cyngor Llyfrau a sylwodd ar y llun?

Rhagor am y grantiau

Beiro'r bêl
Hyd yn oed ymhlith y rhai hynny nad oes ganddyn nhw ddiddordeb mawr mewn pêl-droed mae yna edrych ymlaen at hunangofiant un pêl-droediwr a fydd yn cael ei gyhoeddi ar gyfer y Dolig.

Mae Malcolm Allen yn un o gymeriadau'r gêm ac yn sylwebydd bachog a diflewyn ar dafod ar radio a theledu.

Ac er yr holl flynyddoedd oddi cartref heb erioed golli na iaith nac acen bro ei febyd ar lethrau Gwaun Gynfi.

Naturioldeb di-lol a digwafars ei Gymraeg sy'n plesio rhai ac fe ddywedwn i y bydd rhai o'r rheini yn cael eu synnu pa mor wahanol ydi Malcolm y siaradwr i Malcolm y sgwennwr.

Fel sgwennwr mae mor gyfarwydd â W J Gruffydd ac Ywen Llanddeiniolen ag yw â Gazza.

Yn wahanol i ambell i lenor, hyd yn oed,  gŵyr mai "nid nepell" sy'n gywir i gyfleu bod lleoedd yn agos at ei gilydd a dydi o ddim yn brin o daflu ambell i ymadrodd Lladin o lein ei atgofion  i ganol cae yr hunangofiant - er yn cyfaddef ei hun na wnaeth fawr o farc mewn unrhyw bwnc yn ei arholiadau TGAU yn yr ysgol.

"Roedd Malcolm Allen - centre forward - bellach ar y transfer list, a hynny ar ei gais ei hun," meddai yn un lle gan ychwanegu amdano'i hun;  "Quo vadis Malce? I ble yr ei di, fab y ffoedigaeth?"

"Et tu Malce," meddai yn ei Ladin gorau mewn lle arall a chyda'i Shakespeare yn fyw yn ei gof mae'n sôn am Idiau Mawrth Millwall.

Mae Malcolm y llyfr yn gyfarwydd hefyd â'n hen, hen, hanes achos pan ddaeth "yn gyhydnos . . . arnaf" yn Norwich mae'n sôn amdano'i hun yn troi "fy ngolygon am y gogledd, am diriogaeth Bryniach ar gyrion teyrnasoedd Rheged a Gododdin yr Hen Ogledd gynt ac am Newcastle United un o glybiau pêl-droed enwoca'r byd."

A thua diwedd y llyfr mae atgof hyfryd o'i fam:

"Trwy'r tawch yn y pellter gwelwn fy nghartref a Mam yn y drws yn pletio'i ffedog cyn ymhŵedd â'i llaw arnaf yn arwydd bod swper yn barod."

A gwêl hefyd, yn nrych ei feddwl,  ei hun yn fachgen "yng nghefn y Coparet . . . 'yn y gwyll yn ymgolli'" gyda'i bêl.

Fel pob hunangofiant da mae Hunangofiant Malcolm Allen yn rhoi golwg newydd ar ei wrthrych. Yn creu adnabyddiaeth newydd ohono ac fe allai ddychmygu sawl un o'i hen ffrindiau yn Llanbabo yn dweud mewn rhyfeddod, "Pwy fasa'n meddwl" y byddai o'n troi allan yn gystal sgwennwr!

Wel, o leiaf y rhai hynny nad ydynt wedi sylwi ar y geiriau "gyda Geraint Jones" ar ddalen deitl y llyfr sydd ar fin cael ei gyhoeddi.

Y fo yn siwr o fod yn adnabod y "dyn mawr o Drefor" a ddisgrifir ar dudalen 21 yn galw yn ysgol y Malcolm ifanc "i recriwtio dysgwyr ar yr offerynnau pres"?

Efallai i'r athro cerdd teithiol fethu yn hynny o beth ond diawch mi gafodd o ddylanwad ar Gymraeg ysgrifenedig yr hogyn!

Y Lolfa  sy'n cyhoeddi'r llyfr, gyda llaw, ac mae o werth pob ceiniog o faint bynnag maen nhw'n i ofyn amdano fo.

Cup class.

Gwae bob dydd
Mae o'n gwestiwn mae golygyddion a newyddiadurwyr wedi bod yn ei ofyn ers i Adda dderbyn ei rifyn cyntaf o Pethe Eden - Be sy'n gwneud newyddion?

Ond un papur nad oes ansicrwydd o gwbl yn ei feddwl beth ddylai'r darllenwyr ei gael gyda'u brecwast ydi'r Daily Post neu'r Trallod Dyddiol fel mae weithiau'n cael ei alw.

Stori am alar, gwae, trychineb neu rhyw adfyd neu drallod personol yw'r arlwy beunyddiol yn ddifeth ar y ddalen flaen.

Yn ddieithriad straeon am ladd a marw yw'r brif stori ddydd ar ôl dydd.

A fu'r wythnos hon ddim gwahanol i unrhyw wythnos arall hyd yn hyn.

Man dies at accident blackspot meddai hanner dalen o brint bras, du, ddydd Llun gyda stori lai yn datgan;  Weather causes chaos across N Wales.

Dydd Mawrth, Man killed in House blaze oedd bloedd y pennawd.

A bore Mercher, Man, 81, found dead at foot of cliff  meddai dwy ran o dair o'r ddalen flaen.

O ddarllen yr holl benawdau enbydus hyn  go brin i'r un o ddarllenwyr y papur synnu darllen hefyd ar ddalen flaen bore Mercher:

Dismay as cemetery runs out of burial plots.

Amen.

Fo a fe
Er nad yw hi yn teimlo felly efallai  i'r rhai hynny sy'n byw allan yn fanna ym mherfeddion difaterwch mawr  ein gwlad mae rhai am ein argyhoeddi bod  heddiw yn ddiwrnod hanesyddol.

Diwrnod cyhoeddi adroddiad Confensiwn Cymru Gyfan dan gadeiryddiaeth Syr Emyr Jones Parry.

Ond wrth iddo drio cnocio'n democratiaeth i siap tybed a fydd Syr Emyr yn teimlo pang o greisus adnabyddiaeth personol wrth i'r Western Mail  gyfeirio ato mewn print du ar un ddalen fel Sir Emyr Parry Jones.

A hynny wrth erthygl a sgrifennwyd gan Syr Emyr ei hun!

Democratiaeth dderwyddol
Mae hi'n dal yn ddryswch pam na chafodd aelodau Gorsedd y Beirdd ddewis eu harchdderwydd newydd trwy bleidlais.

Y cyfan mae rhywun yn ei wybod, yn dilyn ymddangosiad Cofiadur yr Orsedd, John Gwilym Jones, ar Wythnos Gwilym Owen ddydd Llun, yw sut yr amddifadwyd aelodau'r Orsedd o'u hawl i ddewis.

Rhaid i chi osod Adobe Flash i weld y cynnwys hwn

Ond ni allodd egluro pam y penderfynodd Bwrdd yr Orsedd ymyrryd â'r broses ddemocrataidd trwy gysylltu â'r ddau a enwebwyd yn hytrach na bwrw mlaen yn ddiffwdan i anfon papurau pleidleisio allan fel y gallai gweddill yr Orsedd ddewis rhwng y ddau a enwebwyd gan saith o bobl.

Rhaid derbyn na fu "trafodaeth" â'r ddau enwebwyd ond yr oedd cysylltu â hwy o gwbl yn anorfod yn mynd i roi un neu'r llall dan bwysau diangen i ystyried ei sefyllfa.

"Penderfyniad y Bwrdd [yr Orsedd] oedd, o ran cwrteisi, eu bod yn rhoi gwybod i'r rhai oedd wedi eu henwebu ac wedyn yn gadael iddyn nhw benderfynu yng ngoleuni'r enwau eraill oedd wedi dod i mewn a fydden nhw yn dymuno mynd ymlaen â'r bleidlais," meddai John Gwilym Jones a gyfaddefodd ei hun wrth Gwilym Owen "os y mynnwch chi, fe allen ni ddileu y rhan yna o'r broses ond dyna oedd y Bwrdd wedi'i osod i lawr a dyna fel y gweithredwyd."

Yn arwyddocaol awgrymodd hefyd pe byddai mwy na dau ymgeisydd y byddai'r bleidlais wedi mynd rhagddi.

Dau, tri, pedwar, pump - beth yw'r gwahaniaeth mewn egwyddor?

"Ond fe gafwyd dau a chafodd pobl ddim cyfle i bleidleisio rhyngddyn nhw," sylwodd Gwilym Owen sydd yn aelod o'r Orsedd ei hun a phleidlais ganddo.

Fel y cofnodais i mewn  cofnod blaenorol :

"Yda chi'n hapus efo'ch Archdderwydd newydd?" meddwn i wrth aelod o'r Orsedd bore ddoe.

"Chawsom ni ddim dewis, naddo," meddai'n sych.

A beth am y saith a gefnogodd yr ymgeisydd a dynnodd yn ôl? A ofynnodd Bwrdd yr Orsedd iddyn nhw oedden nhw'n fodlon i'w hymgeisydd wneud hynny? Oedden nhw hyd yn oed yn gwybod y byddai'r Bwrdd yn cysylltu gyda'r sawl enwebwyd o gwbwl?

Wedi'r cyfan  cydnabu John Gwilym Jones nad oedd y dull o weithredu yn wybodaeth gyffredinol o fewn yr Orsedd "oherwydd penderfyniad y Bwrdd oedd e."

Tybed sawl derwydd gaiff ei demtio i dynnu ei gleddyf o'r wain?

Campau Orig
Yr oedd bore Gwener yn fore y byddwn yn edrych ymlaen ato yn ystod fy nhymor yn olygydd Y Cymro.

Dyma'r bore y byddai Orig Williams yn ffacsio ei golofn wythnosol a byddai cryn edrych ymlaen i weld "pwy neu be sydd dani gan Orig heddiw tybed."

Yn ddieithriad byddai, a defnyddio un o'i hoff eiriau ei hun, yn rhychu gwirioneddau mawr. Yn ei dweud hi fel y mae heb flewyn ar ei dafod. Yn llawn arabedd a hwyliogrwydd heb ofni neb.

Er gwaetha'r enw oedd ganddo am fod yn greadur gwyllt, afreolus ac anystywallt yr oedd yn gyfrannwr cydwybodol - mor brydlon a'r cloc gyda'i 'gopi' ac yn ddiffael  yn un â'i air.

Yr oedd yn sgwennwr deheuig a diddan a'i rinwedd mawr i mi oedd eich bod yn clywed llais Orig yn ei sgrifen. Dyna pa  mor naturiol ei arddull - ac ar ei phen ei hun.

Yr oedd mor fyw ar bapur go brin y byddai angen enw wrth ei gyfraniad i adnabod 'Colofn Orig'.

Yr oedd yn brothio o hiwmor a ffraethineb ac o ddywediadau a throadau ymadrodd naturiol y Gymraeg yn ei godidowgrwydd. Cwn rhech a dynion gwellt oedd y myrdd diasgwrn cefn na fyddent yn sefyll yn gadarn dros egwyddorion.

Wedi noson alaethus i Gymru ar faes pêl-droed neu rygbi byddai'r "bleinds i lawr unwaith eto".

"Calon dryw bach," fyddai gan y cachgwn.

Yr oedd ei iaith mor gyhyrog a'i gorff ac yntau'n falch o'i defnyddio yn ei holl odidiowgrwydd.

"Mi fydda i wastad yn diolch 'mod i'n medru siarad Cymraeg ac yn medru dallt a mwynhau ei barddoniaeth hi. Mae'n saff gen i nad oes 'na iaith arall yn y byd gyda chymaint o deimlad y tu ôl i'w geiriau hi," meddai  yn ei hunangofiant, Cario'r Ddraig a gyhoeddwyd gan Wasg Carreg Gwalch.

A dyna'r ddeuoliaeth hyfryd - adyn gwyllt y sgwar reslo a chanddo bob amser ddegau o ddyfyniadau barddoniaeth gain Gymraeg ac emynau at ei alw i grynhoi neu atgyfnerthu ei deimladau gyda Chynan ymhlith y mwyaf dyfynadwy o feirdd yn ei olwg ef.

Dau a'r un  rhwyddineb iaith yn rhan o'u cyfansoddiad.

Yr oedd ganddo glust a llygad i'r trawiadol a chyda'r amlaf dan ei lach yng ngholofnau'r Cymro fyddai Cymdeithas Bêl-droed Cymru - y Welsh FA - ac yntau o'r farn bendant mai cynrychioli yr oedd y llythrennau FA yn yr enw union swm gwybodaeth y gymdeithas am y gêm!

Er mai fel reslar yr oedd o fwyaf adnabyddus  bu'n bêl-droediwr grymus a hefyd yn baffiwr a fu'n ymarfer ei gamp, heb ei lorio unwaith medda fo, mewn bythau ffair.

Ond trodd ei gefn ar y gamp honno gan ddweud y gallai unrhyw un fod yn focsar ond bod angen dyn i fod yn reslar.

Talp o wladgarwr oedd Orig a'r gwladgarwch hwnnw yn deillio o'i frogarwch angerddol. Yr oedd 'Sbyty' - Ysbyty Ifan - yn bopeth iddo a Llansannan wedyn - ei "ddewis fro" chwedl yntau.

Llansannan yw fy newis fro

A melys i mi yw byw,

Crwydrais am oes lle mynnais fy hun,

Caf farw lle mynno Duw meddai yn ei hunangofiant a gyhoeddwyd gymaint yn ôl a 1985. A dyna fu, yn llawer rhy gynnar, yr wythnos hon.

Er iddo deithio i bellafoedd byd a sefyll mewn sgwariau reslo yn wynebu'n eofn sawl gwrthwynebydd o sawl hil doedd o ddim yn un i wneud môr a mynydd ffuantus o adael Cymru a chyfrif bendithion sentimental troi'n alltud i eangu gorwelion.

Yn Cario'r Ddraig dywed yn onest:

"Gwir neges y llyfr 'ma - os oes 'na neges hefyd - ydi nad ydw i ddim callach wedi bod yn yr holl lefydd, ac wedi gweld yr holl drugareddau, na phe taswn i wedi treulio fy oes gyfan yn fy ardal enedigol, heb symud cam ohoni."

Efallai na wnaeth y lleoedd pell yr un argraff fawr arno fo ag a wnaethant ar eraill ond un peth sy'n sicr fe wnaeth  o ei hun argraff ar bawb â'i cyfarfu.

Bydd yr hanes am Orig Williams, El Bandito, yn parhau tra bydd straeon yn cael eu hadrodd - y rhychwr gwydn a hoffai flas barddoniaeth yr adyn  anwleidyddol gywir a wareiddiwyd gan ei wraig, Wendy, meddai,  y cawr cydnerth  a feddyliai'r byd o'i deulu a'i fro a'i wlad.

Anfonwch eich atgofion chi . . .

Hefyd: Adroddiad newyddion

Hanes Orig Williams

Orig yn y gegin!

Colli etholiad
Hira'n byd mae rhywun yn meddwl am y peth mwya'n byd mae rhywun yn cael ei argyhoeddi y byddai'n teimlo'n anhapus iawn yn mynd i'w wely nos Wener diwethaf pe byddai'n aelod o Orsedd y Beirdd a Llys yr Eisteddfod Genedlaethol.

Ar amrantiad cafodd yr aelodau hyn eu hamddifadu o etholiad i ddewis yr Archdderwydd nesaf.

Hynny, mae'n ymddangos,  oherwydd i rywrai - sy'n amlwg yn teimlo eu bod yn  gwybod yn well na'u cyd aelodau - ymyrryd i drefnu trafodaethau gyda'r ddau oedd wedi eu henwebu'n ddemocrataidd ar gyfer y swydd gan beri i Mererid Hopwood dynnu ei henw yn ôl.

Tybed beth ddywedwyd wrthi? Beth bynnag, fel y dywedodd Gwilym Owen ar ei raglen radio, Wythnos Gwilym Owen, ddoe, wrth gyfeirio at ei hymgiliad o'r râs  gyda T James Jones:

"Trwy ddirgel ffyrdd a heb esboniad diflannodd y prifardd gringoch dros  y grib - digwyddodd, darfu, megis seren wib."

Tony Benn ddywedodd rywdro mai etholiad  ydi'r peth gorau a'r peth pwysicaf allwch chi ei gael mewn democratiaeth.

Yn amlwg, nid dyna farn Gorsedd y Beirdd a ruthrodd gyda chyflymdra annheilwng a bron yn anweddus i ddileu'r angen i ethol yr Archdderwydd nesaf  trwy gynnal "trafodaethau" gyda T James Jones a Mererid Hopwood a chael un i dynnu'n ôl.

Hyd y gwn, ni chafodd aelodau'r Orsedd â hawl i bleidleisio wybodaeth am union natur y trafodaethau hynny na beth ddywedwyd wrth a chan yr enwebedig ac nid ymgynghorwyd â hwy.

"Yda chi'n hapus efo'ch Archdderwydd newydd?" meddwn i wrth aelod o'r Orsedd bore ddoe.

"Chawsom ni ddim dewis, naddo," meddai'n sych.

Ar amrantiad trowyd yn llwch a lludw ddydd Gwener diwethaf yr egwyddor bwysig o bleidlais-i-bawb y  brwydrodd  y prif Lenor Robyn Llŷn  mor ddygn i'w sefydlu bron i ddeng mlynedd yn ôl bellach.

Nid yn haul llygad goleuni y digwydd pob gweithgaredd.

Nyj, nyj . . .
Fel ffilm Mike Myers a Demi Moore yn 1999 mae teitl  atgofion David R Edwards   - Dave Datblygu - sydd newydd ei gyhoeddi yn un heriol a mentrus.

Tybed oedd y wasg yn disgwyl tipyn o sylw wrth i barchusion gwyno a gwrthwynebu fel ag y bu yn 1999 gyda'r ffilm, Austin Powers: The Spy Who Shagged Me.

Bu'n destun sawl strach ar y pryd gyda rhai yn gwrthod arddangos y posteri. Eraill yn defnyddio posteri gyda 'sêr bach' neu bosteri gyda'r  geiriad wedi'i newid.

Gan sicrhau mwy o sylw na'i haeddiant i ffilm digon cyffredin.

Hyd yn hyn fu yna ddim helynt tebyg ynglŷn â llyfr Dave Datblygu. Fu yna ddim llythyrau yn Y Tyst a'r Goleuad a chlywais i ddim am unrhyw siop yn gwrthod arddangos y llyfr a hyd y gwn i mi fyddwch chi'n medru prynu un efo'ch peint a Jin an Tonic i'r Musus ar Faes Eisteddfod yr Urdd nesaf.

Ond hyd yn oed y dyddiau mentrus ac eofn hyn doedd y Daily Post Cymraeg ddim am fentro printio'r teitl yn ei gyflawnder ond troi at y sêr bach a dibynnu ar grebwyll a dychymyg y darllenwyr.

Ond go brin y byddai, "Be mae'r sêr yna'n feddwl Nain?" yn gwestiwn y byddai'r hen wragedd sy'n anfon eu llythyrau am ddiod ddail ac eli penglin i'r papur yn teimlo'n gyfforddus  mynd ati i'w ateb.

Byddai angen cryn joch o dincti riwbob neu wermod lwyd i sadio'r nerfau.

Fu'r Cyngor Llyfrau, fodd bynnag, ddim mor swil ac mae'r teitl yno mewn llythrennau duon breision ar ddalen y gyfrol ar Gwales.

Bydd yn ddifyr nawr gweld beth wnaiff y DP pe byddai'r Lolfa'n dewis hysbysebu'r llyfr yn y cyhoeddiad. Ei gwrthod. Mynnu cael sêr?

Ac a gaiff y llyfr ei hysbysebu wrth ei enw ar deledu cyn naw?

Yn achos y ffilm roeddwn i'n sôn amdano, Austin Powers etc, yr oedd dwy hysbyseb deledu ar ei chyfer, un - yn cyfeirio at y ffilm fel Austin Powers: The Spy Who . . .  gan doddi i olygfeydd o'r ffilm - i'w dangos cyn naw o'r gloch y nos a'r llall efo'r enw llawn wedi naw.

Yr oedd yna hefyd, bosteri amgen gyda rhai yn cyfeirio at y ffilm fel Austin Powers 2.

Mewn gwledydd lle'r oedd angen cyfieithu'r teitl roedd hi'n llai o broblem gyda'r teitl yn y Ffindir wedi ei gyfieithu i beth bynnag yw'r Ffindeg am The Spy Who Bumped Me ac yn China The Spy Who Liked Me a Lot  oedd hi ac yn Singapore The Spy Who Shioked Me gyda shioked  yn golygu trin rhywun yn dda.

Does gen i ddim cof  sut y bu i'r Daily Post ddygymod a hyn oll nôl yn 1999 ond erbyn heddiw mae teitl y ffilm yn cael ei gyhoeddi  heb swildod na phetrusedd o gwbl mewn cylchgronau parchus fel y Radio Times hyd yn oed, fel y gwelwyd yr wythnos diwethaf pan y'i dangoswyd ar un o'r amryfal sianeli teledu.

Yn y cyfamser faint tybed fydd yn prynu llyfr Dave Datblygu yn anrheg Nadolig i'w nain neu fam yng nghyfraith?

Nyj, nyj, winc, winc!

Y Gegin Fach
Fel pob lobsgóws da rhaid i wleddoedd  rhaglenni coginio teledu wrth eu hamrywiaeth o "gynhwysion"  hefyd - fel mae Dudley'n eu galw.

Gymaint gwell, wrth gwrs, os ydi'r cynhwysion hynny'n gweddu i'w gilydd ac o'r un  cynefin.

Gwelwyd hynny ar ei orau yn rhifyn cyntaf y gyfres newydd Tigh Dudley ar S4C nos Fercher lle'r oedd dau o'r cystadleuwyr - David ac Elin o Fangor - yn byw y drws nesaf i'w gilydd yn y byd go iawn a thrydydd cystadleuydd, Miriam o Lundain, yn chwaer i bartner David.

Byd bach ydi byd y gegin Gymreig.

"Ffansi'ch gweld chi'n fama," fel y dwedodd y tomato wrth y ciwcymbr pan gyfarfu'r ddau  mewn salad.

Cofio J Mervyn Williams
Ychydig yn ôl bu farw'r gŵr a roddodd gychwyn i ddigwyddiad a dyfodd yn  un o gystadlaethau cerddorol mawr y byd canu clasurol -  Canwr y Byd Caerdydd.

Dywedodd J Mervyn Williams a oedd yn bennaeth cerdd y BBC yng Nghymru ddechrau'r Wythdegau i'r syniad ddod iddo yn y bath.

Y syniad p ddenu cantorion mwyaf addawol y byd i gymryd rhan mewn cystadleuaeth yng Ngwlad y Gân.

Y gobaith oedd y byddai cantorion ar gychwyn eu gyrfa yn cael sylw rhyngwladol wrth iddynt gael eu gweld yn cystadlu ar deledu eu gwahanol wledydd.

Yr oedd Mervyn y dyn iawn ar yr adeg iawn gan fod Neuadd Dewi Sant yn cael ei chodi yng Nghaerdydd ar y pryd  a phennaeth rhaglenni BBC Cymru, Geraint Stanley Jones, yn awyddus i fanteisio ar gael cystal neuadd ar garreg ei ddrws.

"Fe'm gwahoddwyd i gyflwyno fy syniadau i benaethiaid cerdd dros ugain o gwmnïau darlledu yn y Prix Italia yn Fenis yn 1982 yn y gobaith y bydden nhw yn anfon cantorion i Gaerdydd. Dim ond y Ffindir a Gwlad Belg gynigiodd eu cefnogaeth ac fe drodd BBC 2 y syniad i lawr," meddai Mervyn wrth gofio'i  siom rai blynyddoedd wedyn.

Ac yntau'n benisel oherwydd y gefnogaeth glaear honno codwyd ei galon pan ddaeth  Humphrey Burton  a fu'n Bennaeth Cerdd a Chelfyddyd  y BBC ato  gan ddweud  ei fod yn syniad da.

"Dal ati,  ac fe edrychai be allai'i wneud," meddai Burton wrtho.

Ac yn wir, gyda cefnogaeth Gareth Price, y pennaeth rhaglenni cynorthwyol yng Nghymru a  John Watkin, y pennaeth cyflwyno, cafwyd y maen i'r wal diolch i Burton a lwyddodd i ddwyn perswâd ar BBC 2.

"Y wlad gyntaf i anfon enw cystadleuydd oedd Gwlad yr Iâ a daeth 17 o gantorion eraill o leoedd mor amrywiol â  Hong Kong, Seland Newydd  a Chanada," meddai Mervyn.

Dewiswyd panel o feirniaid rhyngwladol yn ogystal â cherddorfeydd, arweinyddion a chyfeilyddion a threfnwyd gwestai i'r cystadleuwyr.

Ac wrth dynnu allan y rhaglen cadwyd llygad barcud hefyd ar amserau trenau yn cyrraedd a gadael Caerdydd!

Wrth gofio'r ymdrech flaengar honno talodd Mervyn Williams glod i'w gynorthwyydd Anna Williams.

"Sicrhaodd hi a'i thîm fod croeso cynnes i'r cantorion a'u bod yn ymgyfeillachu a'i gilydd. Gydol y blynyddoedd mae'r ysbryd yna wedi parhau," meddai Mervyn a ddaeth yn ffefryn  ei hun oherwydd ei natur groesawgar a'i ddywediad bachog, "Do not compete - make music."

Ac yn haf crasboeth 1983 canwyd y nodau cyntaf BBC Canwr y Byd Caerdydd. A'r enillydd?

"Yr oedd yn addas iawn mai o'r wlad gyntaf i gefnogi'r syniad y daeth yr enillydd - y Ffindir," meddai Mervyn gyda balchder o gofio am gamp cantores o'r enw Karita Mattila.

Ers hynny tyfodd y gystadleuaeth y tu draw i bob disgwyl a thra phery nis anghofir enw

J Mervyn Williams a fu farw Hydref 29, 2009.

Yn dod o Lanfairfechan yn wreiddiol bu Mervyn cyn ei gyfbod yn Bennaeth Cerdd a'r Celfyddydau yn gynhyrchydd teledu yn Adran Addysg y BBC.

Wedi ei gyfnod gyda'r Gorfforaeth sefydlodd gwmni teledu annibynnol Opus a chwmni adnoddau Derwen a unwyd yn nes ymlaen gyda Barcud i greu Barcud Derwen.

Syrthio cyn codi
Un roced a syrthiodd i'r ddaear cyn codi yn y frwydr am yr archdderwyddiaeth yw un Iwan Llwyd   y soniais amdano ddoe  .

Er iddyn nhw danio'r ffiwsan las ddoe methodd y criw a'i cefnogai ag anfon roced eu henwebaid at  Gofiadur yr Orsedd mewn pryd.

Hyd y gwyddys, felly, dwy sbarcler fydd yna ar y  papur pleidleisio fydd John Gwilym Jones yn ei anfon allan rŵan hyn at aelodau'r Orsedd.

A chymryd na fydd yna sgwib damp arall - a dim pleidlais o gwbl!

Pfffwwwwt