Archifau Mai 2012

Neges i'r byd o ben y Wyddfa

Categorïau:

Elin Meredith Elin Meredith | 15:15, Dydd Iau, 17 Mai 2012

Sylwadau (0)

Rhag ofn nad oes neb yn gwybod, mae'r Gemau Olympaidd yn digwydd yn Llundain eleni. Ac er mwyn inni i gyd deimlo'n rhan o'r digwyddiad mawr mae'r fflam - neu'r ffagl - Olympaidd yn gwneud taith o amgylch Prydain.

Bydd yn dod dros y ffin i Gymru ar Fai 25 ac, ar Fai 29, bydd yn cael trip i fyny mewn trên i gopa'r Wyddfa.

Ac oddi yno hefyd mae'r Urdd yn cyhoeddi ei Neges Ewyllys Da heddiw, ddydd Gwener, Mai 18.

Eryri o gopa'r Wyddfa

Daw'r neges eleni o ben mynydd uchaf Cymru fel rhan o ddigwyddiadau'r Olympiad Diwylliannol

Wedi ei 'sgubo gan y cerrynt Olympaidd mae neges heddwch y mudiad ar gyfer 2012 yn rhan o brosiect Grym y Fflam sy'n dathlu'r Olympiad Diwylliannol yng Nghymru. Delfrydau'r Gemau yw testun y neges eleni - neges sydd wedi bod yn rhan o weithgarwch dyngarol y mudiad ers 1922.

Gallwch glywed y neges, sydd wedi ei llunio gan Fforwm Ieuenctid Eryri, yn cael ei pherfformio yn ystod rhaglen Nia ar Radio Cymru fore Gwener.

Dyma ddetholiad ohoni:
"Er bod rhyfeloedd yn parhau i'n rhwygo, mae'r Olympiaid yn gyfle prin i sbarduno fflam undod rhyngwladol. Ystyriwch dri o ddaliadau'r Olympiaid erbyn heddiw; chwarae teg, gwaith caled a pheidio twyllo. Ychwanegwch y gymdeithas o gannoedd o ddiwylliannau amrywiol, ac wele'r Olympiaid yn rhoi cartref i heddwch. Mae pawb yn sefyll ar y llinell gychwyn gyda'i gilydd; i ddathlu dawn ac i anghofio'n gwahaniaethau.

"Citius. Altius. Fortius [Yn gyflymach. Yn uwch. Yn gryfach.]

"Bobl ifainc y byd; mae'n rhaid i ni ddefnyddio'r geiriau hyn yng nghyd destun heddwch. Down i benderfyniadau teg, cyflawnwn fwy nag erioed, byddwn yn uned gyda'n gilydd."

Beth bynnag eich diddordeb yn y Gemau neu'r fflam, fedrith neb ddadlau yn erbyn y teimlad o obaith sydd ynghlwm wrth y ddelfryd syml hon a'r bobl ifainc sy'n ei chyflwyno.

Ac mae na ryw gysur i'w gael o weld bod gweledigaeth Ifan ab Owen Edwards o gyhoeddi neges i "ddod â phlant y cenhedloedd ynghyd ... er mwyn dileu'r anwybodaeth a'r rhagfarnau oedd yn bodoli rhwng cenhedloedd y byd" yn dal yn ddilychwin ers ei sefydlu 89 mlynedd yn ôl - mewn canrif, ac oes, dra gwahanol.

I ddarllen y neges yn llawn, ewch i wefan yr Urdd fan hyn.

Diwrnod rhyngwladol 'lleidr pen ffordd'

Categorïau:

Elin Meredith Elin Meredith | 09:01, Dydd Iau, 17 Mai 2012

Sylwadau (0)

Mae'n rhaid fod 'na rywun â llygad go graff am syniadau hybu twristiaeth yn byw tua Thregaron yn y gorllewin gwyllt. Ers sawl blwyddyn, maen nhw wedi bod yn dathlu Mai 17 fel 'diwrnod rhyngwladol' un o'u harwyr lleol - Twm Siôn Cati.

I lawer, nofelau T Llew Jones sy'n gyfrifol am ein darlun rhamantus honno ohono fel y 'Robin Hood Cymreig ' yn dwyn oddi ar y cyfoethog ac yn rhoi i'r tlawd.

Ond mae'n debyg mai niwlog iawn yw'r gwir am fywyd Thomas Jones o Dregaron.

Datgelodd y gyfres Rebels Cymreig a ddarlledwyd ar Radio Cymru ryw flwyddyn neu ddwy yn ôl, fod y ddelwedd o Dwm Siôn Cati wedi datblygu dros y canrifoedd i siwtio awch y gynulleidfa am stori dda - o'i ymddangosiad cyntaf mewn llenyddiaeth fel herwr, anturiaethwr a phranciwr yn y 18fed Ganrif i fod yn 'Rob Roy of Wales' yn y 19eg ganrif oedd yn ffitio'r ddelwedd Seisnig o'r Cymry gwyllt anystywallt.

Gallwch glywed Rhys Mwyn, Nia Powell a Bob Morris yn trafod Twm Siôn Cati fan hyn.

Erbyn diwedd ei oes beth bynnag roedd y gŵr sydd â'r enw o fod yn rebel ac yn lleidr pen ffordd yn ynad parchus, yn fardd ac yn dipyn o arbenigwr ar hel achau, hanes lleol a herodraeth.

Ewyllys ar daith

Yn ôl Dafydd Wyn Morgan, un o sylfaenwyr brwdfrydig Cymdeithas Twm Sôn Cati, yr un peth sydd YN sicr am y dyn y tu ôl i'r chwedl ydy dyddiad ysgrifennu ei ewyllys, sef Mai 17 1609 - a dyna pam y dewiswyd y dyddiad hwn fel dyddiad dathlu Diwrnod Rhyngwladol Twm Siôn Cati (gan ddisgyblion Ysgol Gynradd Tregaron mae'n debyg).

Yn seiliedig ar y dyddiad hwn, fe fanteisiodd y Gymdeithas yn llawn ar bob cyfle i ddathlu 400 mlwyddiant ei farwolaeth yn 2009 gyda gweithgareddau lleol, teithiau cerdded a chofeb i'r dyn ei hun ynghanol tref Tregaron.

Ac yn ôl Dafydd (sydd o bryd i'w gilydd yn gwneud ymddangosiadau fel ei arwr mewn digwyddiadau cyhoeddus), bydd yr ewyllys hwn, sydd fel arfer yn cael ei gadw yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth, yn mynd ar daith o gwmpas yr ardal cyn bo hir "i bobl gael gweld cofnod hynod o'i fywyd, yn llawysgrifen Twm ei hunan".

Roedd Twm, medd Dafydd, yn gymeriad lliwgar a oedd yn gymwynaswr lleol ac yn rhywun a wnaeth hefyd gyfraniad helaeth i hanes ei ardal.

A dydi'r ddelwedd ohono fel rebel-â-chydwybod a thynnwr coes yn cuddio rhag yr awdurdodau ar rostiroedd Rhandirmwyn yn gwneud dim drwg i'r 'brand' sy'n anrheg perffaith i unrhyw un sydd am hyrwyddo hanes ei ardal.

I wybod mwy am ddathliadau lleol ewch i wefan Cymdeithas Twm Siôn Cati.

Ewch i'n gwefan Hanes i ddarllen mwy am y dyn ei hun.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.