Tynged yr wythnos
Ar Saunders Lewis, pum darlithydd newydd a rhagor o Saunders Lewis a thynged iaith y bu pwyslais yr wythnos. Dyma rai dyfyniadau am hynny ac ambell i beth arall . . .
-
Tynged yr Iaith; bu’n gatalydd i achub math o Gymreictod. Ond fel ateb i dynged yr iaith, yr oedd y targed yn un anghywir. Ni all unrhyw iaith fyw ar sail un dosbarth yn gweithio mewn un sector gyflogaeth – Guto Bebb AS y cyntaf o bum darlithydd ar Radio Cymro ar achlysur hanner canmlwyddiant darlith radio Saunders Lewis. Dywedodd mai chwyldro ymhlith y dosbarth canol yn unig achoswyd gan y ddarlith.
- Efallai mai nad y cysyniad o le ydi’r peth pwysicaf . . . Onid yr hyn y mae pobl yn ei wneud â’u hiaith a’u Cymreictod sy’n cyfrif? Mae hynny’n wir ym mhob maes, boed yn y dre, yn y wlad neu’r ddinas. Neu, yn wir, ar y rhyngrwyd. Mae ffenomenon fel Twitter, sy’n gymuned ynddi hi’i hun, yn enghraifft wych o’r modd y mae’r Gymraeg wedi hawlio’i lle yng nghanol môr o drydar byd-eang - Rhys Iorwerth, yr ail ddarlithydd.
- Oherwydd diofalwch gwleidyddol (dwn i ddim pam) mae arweinwyr y sianel [S4C] wedi bod yn afrad gyda’r cyfalaf diwylliannol a roddwyd iddyn nhw fel braint, nid busnes - Gwyneth Lewis, y trydydd i ddarlithio. Gofidiai mai “methiant mwyaf” ei chenhedlaeth hi o siaradwyr Cymraeg yw yr hyn a alwodd “y gostyngiad trychinebus yn ansawdd rhaglenni a nifer gwylwyr S4C”.
- Y gwir am Tynged yr Iaith yw mai’r weithred o sefydlu Cymdeithas yr Iaith a rydd arwyddocâd hanesyddol iddi. Pe na sefydlwyd y Gymdeithas, fe fyddai Tynged yr Iaith yr un mor anghofiedig heddiw ag ysgrifau eraill Saunders Lewis ar y Gymraeg. Nid darlith am dynged yr iaith sydd yma, ond darlith am dynged y mudiad iaith, sef am y bobl sydd am adfywio’r Gymraeg, a’u tactegau – Simon Brooks y pedwerydd i ddarlithio.
- Fydd dim ofn arna’i bwyso ar sefydliadau i gydymffurfio. Fydd dim ofn arna’i herio neu wthio ffiniau. Fydd dim ofn arna’i ddefnyddio fy mhwerau gorfodi, ac – ie – cosbi hefyd lle bydd angen. Byddaf yn llais dros yr iaith Gymraeg, yn eiriol dros siaradwyr Cymraeg. Dyna fy addewid, a dyna fy mraint – Meri Huws y pumed darlithydd a fydd yn cychwyn yn ei swydd fel Comisiynydd Iaith Ebrill 2.
- Trwy ddulliau parchus yn unig mae llwyddo – bron nad ydi’r Sefydliad Cymraeg wedi aralleirio Saunders Lewis yngofio y Ddarlith Radio enwog roddodd fod i Gymdeithas yr Iaith – Angharad Tomos yn atodiad ‘Yr Herald Cymraeg’ yn y ‘Daily Post’.
- Y dosbarth canol uwch, a’r dosbarth canol proffesiynol cyfforddus oedd ei bobol o [Saunders Lewis]. Roedd gwehilion y dosbarth gweithiol yn dân ar ei groen o. Doedd ganddo ddim i’w ddweud wrth fudiadau fel Undebau llafur a Sosialaeth. Pobol islaw ei sylw oedd y rheiny. A phrin ei fod o’n pryderu dim am sefyllfa’r iaith yn eu plith – Gwilym Owen yn ‘Golwg’ yn gofidio i’r Gymraeg ers darlith 1962 lithro i ddwylo y dosbarth canol cyfforddus.
- Mae lle i’r brotest a’r placard ym mhob cymdeithas iach ond nid hynny yw angen y Gymraeg o hyn ymlaen ond cydymdrech barhaus ar sail profiad a ffeithiau a’r gallu i wynebu’r byd fel y mae – Dafydd Iwan yn ‘Y Cymro’.
- Y mae bod yn rhugl mewn Cymraeg a Saesneg yn agor dau ddrws; mynediad i’n treftadaeth naturiol a medr ym mhrif iaith fasnach y byd – Dafydd Wigley yn y ‘Daily Post’.
- Felly, dylid gwahardd gweddïau o gyfarfodydd cynghorau rhag tarfu ar anffyddwyr. Gweddi ydi ‘God Save the Queen’. A yw hi’n gyfreithiol ei chanu mewn cyfarfodydd cyhoeddus? Beth fyddem ni’n ei ddefnyddio yn ei lle? Mae’r Gymdeithas Seciwlar Genedlaethol wedi rhoi cychwyn i rywbeth yn wir – Ted Huws o Gemaes, Ynys Môn mewn llythyr yn y Daily Post ddydd Mercher.
- Dylid eu cymell i i dreulio amser yn y cysgod rhwng unarddeg y bore a thri y pnawn – Lesley Griffiths AC, y Gweinidog Iechyd yn y Cynulliad, sydd yn ystyried rhoi eli haul am ddim i blant.
- Nid yn aml y bydd erthygl yn Golwg yn gwneud i mi neidio oddi ar fy nghadair a thaflu fy nwrn i’r awyr, ond fe ddigwyddodd – Bethan Gwanas yn atodiad ‘Yr Herald Cymraeg’ yn y ‘Daily Post’ wrth ei bodd darllen yn Golwg fod JPR Williams yn dysgu Cymraeg.
- Daethoch yma gyntaf fel dyn dieithr ond rydych yn dod yn ôl fel ffrind – Y Parchedig Bryn Williams yn dyfynnu yn ‘Y Goleuad’ yr hyn a ddywedwyd wrtho gan un o flaenoriaid gofalaeth Pwllheli y mae’n dychwelyd iddi yn weinidog am yr eildro wedi dwy flynedd yn swydd weinyddol Ysgrifennydd Cyffredinol y Presbyteriaid.
- Gall sianel deledu fod yn fecanwaith dylanwadol a phwerus iawn felly mae hwn yn gyfle digynsail i sefydlu’r strwythurau i rywbeth gall fod yn ganolog i waith y Gymdeithas am flynyddoedd i ddod – Greg Bevan, cydlynydd Sianel 62 newydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.
- Efallai mai nad y cysyniad o le ydi’r peth pwysicaf . . . Onid yr hyn y mae pobl yn ei wneud â’u hiaith a’u Cymreictod sy’n cyfrif? Mae hynny’n wir ym mhob maes, boed yn y dre, yn y wlad neu’r ddinas. Neu, yn wir, ar y rhyngrwyd. Mae ffenomenon fel Twitter, sy’n gymuned ynddi hi’i hun, yn enghraifft wych o’r modd y mae’r Gymraeg wedi hawlio’i lle yng nghanol môr o drydar byd-eang - Rhys Iorwerth, yr ail ddarlithydd.
