Advertisement
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Nyj, nyj . . .

Categorïau:

Glyn Evans | 06:19, Dydd Llun, 9 Tachwedd 2009

Fel ffilm Mike Myers a Demi Moore yn 1999 mae teitl atgofion David R Edwards - Dave Datblygu - sydd newydd ei gyhoeddi yn un heriol a mentrus.

Tybed oedd y wasg yn disgwyl tipyn o sylw wrth i barchusion gwyno a gwrthwynebu fel ag y bu yn 1999 gyda'r ffilm, Austin Powers: The Spy Who Shagged Me.

Bu'n destun sawl strach ar y pryd gyda rhai yn gwrthod arddangos y posteri. Eraill yn defnyddio posteri gyda 'sêr bach' neu bosteri gyda'r geiriad wedi'i newid.

Gan sicrhau mwy o sylw na'i haeddiant i ffilm digon cyffredin.

Hyd yn hyn fu yna ddim helynt tebyg ynglŷn â llyfr Dave Datblygu. Fu yna ddim llythyrau yn Y Tyst a'r Goleuad a chlywais i ddim am unrhyw siop yn gwrthod arddangos y llyfr a hyd y gwn i mi fyddwch chi'n medru prynu un efo'ch peint a Jin an Tonic i'r Musus ar Faes Eisteddfod yr Urdd nesaf.

Y daily Post yn osgoi teitl heriol

Ond hyd yn oed y dyddiau mentrus ac eofn hyn doedd y Daily Post Cymraeg ddim am fentro printio'r teitl yn ei gyflawnder ond troi at y sêr bach a dibynnu ar grebwyll a dychymyg y darllenwyr.

Ond go brin y byddai, "Be mae'r sêr yna'n feddwl Nain?" yn gwestiwn y byddai'r hen wragedd sy'n anfon eu llythyrau am ddiod ddail ac eli penglin i'r papur yn teimlo'n gyfforddus mynd ati i'w ateb.

Byddai angen cryn joch o dincti riwbob neu wermod lwyd i sadio'r nerfau.

Fu'r Cyngor Llyfrau, fodd bynnag, ddim mor swil ac mae'r teitl yno mewn llythrennau duon breision ar ddalen y gyfrol ar Gwales.

Bydd yn ddifyr nawr gweld beth wnaiff y DP pe byddai'r Lolfa'n dewis hysbysebu'r llyfr yn y cyhoeddiad. Ei gwrthod. Mynnu cael sêr?

Ac a gaiff y llyfr ei hysbysebu wrth ei enw ar deledu cyn naw?

Yn achos y ffilm roeddwn i'n sôn amdano, Austin Powers etc, yr oedd dwy hysbyseb deledu ar ei chyfer, un - yn cyfeirio at y ffilm fel Austin Powers: The Spy Who . . . gan doddi i olygfeydd o'r ffilm - i'w dangos cyn naw o'r gloch y nos a'r llall efo'r enw llawn wedi naw.

Yr oedd yna hefyd, bosteri amgen gyda rhai yn cyfeirio at y ffilm fel Austin Powers 2.

Mewn gwledydd lle'r oedd angen cyfieithu'r teitl roedd hi'n llai o broblem gyda'r teitl yn y Ffindir wedi ei gyfieithu i beth bynnag yw'r Ffindeg am The Spy Who Bumped Me ac yn China The Spy Who Liked Me a Lot oedd hi ac yn Singapore The Spy Who Shioked Me gyda shioked yn golygu trin rhywun yn dda.

Does gen i ddim cof sut y bu i'r Daily Post ddygymod a hyn oll nôl yn 1999 ond erbyn heddiw mae teitl y ffilm yn cael ei gyhoeddi heb swildod na phetrusedd o gwbl mewn cylchgronau parchus fel y Radio Times hyd yn oed, fel y gwelwyd yr wythnos diwethaf pan y'i dangoswyd ar un o'r amryfal sianeli teledu.

Yn y cyfamser faint tybed fydd yn prynu llyfr Dave Datblygu yn anrheg Nadolig i'w nain neu fam yng nghyfraith?
Nyj, nyj, winc, winc!

SylwadauAnfon sylw

Anfon sylw

Mae’n rhaid i chi ddarpau enw a chyfeiriad (ni fydd y cyfeiriad yn cael ei gyhoeddi).

Bydd sylwadau ar y blog hwn yn cael eu cymedroli.

(Gofynnol)

(Ni fydd yn cael ei gyhoeddi)


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.