« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Rhamant ymhlith yr Amish

Categorïau:

Glyn Evans | 09:32, Dydd Mawrth, 22 Medi 2009

Tafell o rywbeth llipa nid yn annhebyg i bitsa, powliad iawn o bopcorn hynod o hallt a choffi cryf i'w golchi i lawr.

Dyna oedd swper mewn cartref Amish y cefais wahoddiad iddo yn Nhalaith Efrog Newydd ddiwedd y Nawdegau.

Tŷ pren, moel, yn ymylu ar fod yn dlodaidd ydoedd. Llawr pren, cadeiriau pren a stôf llosgi coed yn cynhesu'r lle a lamp oel i oleuo yn unol â chred yr Amish mewn symylrwydd diaddurn heb foethusrwydd fel trydan a pheiriannau.

Amaethu gyda cheffylau ar fferm Amish yn nhalaith Efrog Newydd

I un yn edrych o'r tu allan perthynai rhyw wefr i'r lle ac i'r profiad o gael fy nghroesawu yno.

Ac yn ôl adroddiadau yn y wasg yn ddiweddar mae'n ymddangos bod bywyd yr Amish yn cipio dychymyg darllenwyr nofelau rhamant yn yr Unol Daleithiau y dyddiau hyn gyda chynnydd rhyfeddol yng ngwerthiant nofelau 'poblogaidd' o'r fath amdanyn nhw.

Cyfeiriwyd fod un awdur, Beverly Lewis, wedi gwerthu 13.5 miliwn o gopïau o nofelau yn ymwneud â'r gymuned Amish ym Mhensylvania ac y mae term wedi ei fathu i ddisgrifio'r math yma o nofelau sef Bonnet rippers - mewn gwrthgyferbyniad â bodice rippers nofelau rhamant mwy arferol.

Ond mae'r ddwy garfan o nofelau yn go bell oddi wrth ei gilydd gydag un yn dibynnu ar ryw, trais, mynwesau trymion a dynion llamserchus am eu poblogrwydd ond y llall yn amddifad o ryw a thrais a'r straeon yn troi o amgylch y bywyd syml o ddawnsfeydd eglwys a llanciau a llancesi yn cicio yn erbyn y tresi a herio'r drefn.

Mae hyd yn oed cusanau yn bethau prin.

Y cyfan yn adlewyrchiad o fywyd go iawn yr Amish gan ei bod yn gymuned sy'n mynnu glynu wrth hen arferion a hen gredoau Piwritanaidd grefyddol mewn byd sy'n gynyddol benrhydd.

Fel y dwedwyd wrthyf yn y Nawdegau yr oedd yn her arbennig 'cadw'r' ifanc yn ffyddlon a chymaint o wagedd oddi allan i'w cymuned i'w temtio.

Wedi 'dianc' - fel sawl un arall - oedd y teulu arbennig a gyfarfyddais i o Bennsylvania ar ôl cael llond bol ar ymwelwyr yn rhythu arnynt a thynnu eu lluniau oherwydd hynodrwydd eu gwisg a'u ffordd o fyw.

Yn yr ardal arbennig hon yr oedden nhw lai yn llygaid ymwelwyr ac fel y byddai fferm yn dod yn wag fe fydden nhw'n ei phrynu'n gartref i deulu arall ymfudo yno atynt.

Amaethu yn yr hen ffordd draddodiadol, gyda cheffylau gwedd, oedd eu ffordd o fyw a gwneud dodrefn o goed hicori i'w gwerthu mewn marchnadoedd lleol.

Yr oedd yn hawdd adnabod eu cartrefi - nhw oedd yr unig rai gyda thŷ bach yng ngwaelod yr ardd a chyda dillad yn sychu ar lein oherwydd eu bod yn ymwrthod â thrydan a pheiriannau golchi a sychu.

Gwisgai'r dynion siwtiau duon a hetiau gwellt - heb supiau dim ond botymau! - a'r merched sgertiau brethyn hirion, clocsiau ac am eu pennau fonetau. Edrychai'r plant fel doliau bychain wedi eu dilladu yr un mor hen ffasiwn.

Teithient o le i le ar droed neu mewn car a cheffyl a doedden nhw ddim yn hoffi cael tynnu eu lluniau.

Er mai crefydd oedd sail eu ar wahanrwydd nid oedd ganddynt gapeli ond yn addoli ar y Sul yng nghartrefi ei gilydd ac fe'u gwelid yn teithio yno yn eu 'bygis' ddydd Sul.

Y farn amdanyn nhw ymhlith yr Americanwyr lleol oedd eu bod "yn gymdogion da, yn cadw eu hunain iddyn nhw eu hunain. Byth yn achosi helynt ac yn gymwynasgar."

Ond yn ddifeth byddid yn ychwanegu; "Ond maen nhw'n hangen ni fwy nag ydym ni eu hangen nhw" achos er ei bod yn groes i'w harferion i gael ffôn yn y tŷ nid oedd hynny'n eu rhwystro rhag cnocio ar ddrws cymydog i ddefnyddio'r ffôn - ac er nad oedd ganddynt geir anaml y byddid yn gwrthod lifft!

"Fe allwch chi fod yn rhedeg lot iddyn nhw os nad ydych chi'n ofalus," meddai un cymydog.

Y gwewyr mawr, fodd bynnag, oedd cadw purdeb eu ffordd o fyw mewn byd gyda'i holl atyniadau modern a honno'n her arbennig gyda'r ifanc a oedd yn cael eu temtio gan bleserau o'r tu allan. Yr oedd pwysau mawr ar briodi o fewn y gymuned ac osgoi 'priodasau cymysg' chwedl hwythau.

Ymarferol oedd eu haddysg ac yr oedd yn destun rhyfeddod i Americanwyr eraill na wyddai'r plant ddim am sêr ffilm a theledu a chyflwr y byd ond y gallent edrych ar dwll yn y ddaear a dweud yn union sawl mesur ciwbig o goncrid fyddai ei angen i'w lenwi.

Ymhlith yr arwyddion cyfaddawdu cyndyn yr oedd tractor yn lle ceffylau gwedd ar ambell i fferm - ond hen dractorau ag olwynion metel yn hytrach na rhai a theiars wrth i'w perchnogion geisio byw yn y ddeunawfed ganrif ta'n ildio i'r ugeinfed, ac yn awr yr unfed ganrif ar hugain.

Y math o dyndra ac 'argyfwng bod' sy'n sail nofelau rhamantaidd erbyn heddiw.
Ond faint o ddarllen sydd arnyn nhw ymhlith y rhai y sgrifennir amdanyn nhw sy'n gwestiwn arall.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.