Advertisement
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Dydd yn dynesu

Categorïau:

Glyn Evans | 14:32, Dydd Gwener, 11 Medi 2009

Daeth gair i law i'n hatgoffa mai dim ond ychydig ddyddiau sydd ar ôl i anfon ymgais i mewn i gystadleuaeth monolog y cylchgrawn Taliesin.

Testun y gystadleuaeth sydd wedi synnu ambell un ohonom - 'Ar ddiwedd y dydd'.

Idiom Seisnig ydi hon a ddaeth yn dipyn o fwrn yn y Gymraeg dros y blynyddoedd diwethaf. Mae rhywbeth yn dweud wrthaf i bod â wnelo Harold Wilson a phoblogeiddio'i defnydd yn y Saesneg - at the end of the day.

Yn sicr, o rhyw stabl wleidyddol y daeth ei harfer ac fel sy'n digwydd mor aml rhuthrodd Cymry diog i'w chyfieithu'n llythrennol er bod gennym ninniau idiom yn barod yn y pen draw.

Beth bynnag am hynny mae Taliesin yn cynnig gwobr sy'n cael ei disgrifio fel "anrhydeddus" am lunio monolog ar y testun - er dydw i ddim yn siŵr faint fyddai'n ystyried y swm o £200 o wobr yn anrhydeddus y dyddiau hyn!

Ond ar ddiwedd y dydd mae'n well na chic gan ful.

"Mae Christine James a Manon Rhys, golygyddion Taliesin, yn hynod frwd dros gynnal y gystadleuaeth hon ac yn gobeithio y bydd yn denu awduron profiadol a rhai newydd i'r mael (beth bynnag ydi hwnnw) fel ei gilydd i greu monologau o safon," meddai datganiad gan y cylchgrawn.

Cefin Roberts, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru, ydi'r beirniad ac mae o'n gobeithio am doreth o "fonologau cryf, addas i'w perfformio ar lwyfan neu ar y cyfryngau, gan ei fod o'r farn fod yna brinder darnau o'r fath yn y Gymraeg yn enwedig ar gyfer pobl ifainc, sy'n tueddu i droi at gyfieithiadau anaddas iddynt o ran testun ac arddull."

Cyhoeddir y monolog buddugol ynghyd â sylwadau Cefin yn rhifyn y gaeaf o Taliesin.

Diwedd dydd y cystadlu, fel petai, ydi di dydd Mercher Medi 16 a gellir cael ffurflen gais o wefan yr Academi neu 029 2047 2266.

Hei lwc.

Anfon sylw

Mae’n rhaid i chi ddarpau enw a chyfeiriad (ni fydd y cyfeiriad yn cael ei gyhoeddi).

Bydd sylwadau ar y blog hwn yn cael eu cymedroli.

(Gofynnol)

(Ni fydd yn cael ei gyhoeddi)


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.