Advertisement
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Welwch chi

Categorïau:

Glyn Evans | 13:16, Dydd Sadwrn, 8 Awst 2009


Panic!

Pawb a'i lygaid yn agored ar y maes

Yn ystod yr wythnos mae Elfyn Llwyd wedi colli dwy sbectol!

Ac er iddo gael un dros dro o'r Cemist dywed Elfyn - Cadeirydd Pwyllgor Gwaith, Aelod Seneddol, Cyfreithiwr a magwr colomennod - nad yw'n gweld yn iawn efo hi.

Llun Elfyn Llwyd - ond efallai na fydd ef yn ei weld yn iawn

Ond a bod yn deg, dydy un o'r ddwy sbectol ddim beth fyddech chi'n ei alwn yn ar goll go iawn.

Gadawodd hi yn ei goban Gorsedd sydd bellach wedi gadael y Maes am yr olchfa!

Ond os gwelwch chi'r llall, dywedwch wrth Elfyn - achos fydd o ddim yn medru dod o hyd iddi ei hun

Mae o wedi colli'i sbectol.

ASiffeta fel y byddai Mr Picton yn dweud.

Anfon sylw

Mae’n rhaid i chi ddarpau enw a chyfeiriad (ni fydd y cyfeiriad yn cael ei gyhoeddi).

Bydd sylwadau ar y blog hwn yn cael eu cymedroli.

(Gofynnol)

(Ni fydd yn cael ei gyhoeddi)


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.