Advertisement
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Dal braidd yn symol

Categorïau:

Glyn Evans | 15:23, Dydd Sadwrn, 8 Awst 2009

Mwy fyth o ffigurau a syms ffeithiol o ffwrnais y maes

24,166 - nifer yr ymwelwyr ddydd Gwener o gymharu â 27,873, Caerdydd; 23,941, Yr Wyddgrug.

500 - y nifer o ymholiadau a wnaed am le i garafan yng Nglynebwy y flwyddyn nesaf.

0 - o Restr Testunau Glynebwy sydd ar ôl ar y maes yn ôl Richard Davies, cadeirydd y pwyllgor gwaith, a fu'n chwilio am rai.

3 - y nifer o gystadlaethau yng nghyfrol y Cyfansoddiadau na fu cystadlu arnyn nhw.

2 - y nifer osbectols a gollwyd gan Elfyn Llwyd yn ystod yr wythnos (gweler 'Welwch Chi'). Y cyfrif diwethaf, fore Sadwrn.

7 - y niifer o feirdd sy'n swyddogol anobeithiol am sgrifennu awdl.

1938 - blwyddyn gyntaf cyhoeddi cyfrol y Cyfansoddiadau ar ei ffurf bresennol.

Rhagor o negeseuon o'r Eisteddfod

Gwefan Eisteddfod 2009

Anfon sylw

Mae’n rhaid i chi ddarpau enw a chyfeiriad (ni fydd y cyfeiriad yn cael ei gyhoeddi).

Bydd sylwadau ar y blog hwn yn cael eu cymedroli.

(Gofynnol)

(Ni fydd yn cael ei gyhoeddi)


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.