Advertisement
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Llwch yn y llygaid?

Categorïau:

Glyn Evans | 09:01, Dydd Gwener, 28 Awst 2009

ER i dim Criced Awstralia orfod dychwelyd adref heb eu lludw gwerthfawr yr oedd ganddyn nhw serch hynny lestr lludw i fynd ardref efo nhw.

Cyflwynwyd Llestr y Lludw sef gwaith celf a grëwyd gan artist o Sir Benfro, Laura Thomas, i Gyfarwyddwr 'Cricket Australia', Dr John Bannon, gan y Gweinidog Treftadaeth, Alun Ffred Jones i nodi'r ffaith mai yng Nghymru y chwaraewyd gêm gyntaf y gyfres.

Laura Thomas a'i gwaith celf


Mae'r llestr yn adlewyrchiad o droelliad pêl griced ac nid yn unig yn coffau'r prawf cyntaf i'w gynnal erioed yng Nghymru ond hefyd yn symbol o gyfeillgarwch Cymru ac Awstralia meddai Cyngor Celfyddydau Cymru yn ei gylchlythyr diweddaraf.

Talwyd am y llestr gan Lywodraeth y Cynulliad, Cyngor Celfyddydau Cymru a SAFLE-celf cyhoeddus Cymru.

Wnai ddim taflu llwch i lygaid neb trwy awgrymu y bydd yn gwneud iawn am golli'r prawf a go brin y caiff gymaint o groeso a'r llestr lludw go iawn - ond o leiaf wnaethon nhw ddim gadael yn waglaw!

Anfon sylw

Mae’n rhaid i chi ddarpau enw a chyfeiriad (ni fydd y cyfeiriad yn cael ei gyhoeddi).

Bydd sylwadau ar y blog hwn yn cael eu cymedroli.

(Gofynnol)

(Ni fydd yn cael ei gyhoeddi)


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.