Advertisement
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Lluniau Steddfod Bala

Categorïau:

Glyn Evans | 15:45, Dydd Sul, 9 Awst 2009

Mae rhywun yn dychwelyd o'r Steddfod gyda swp o luniau.

Mae ambell un gwerth ei rannu - y rhan fwyaf ddim.
Y lleill yn edrych fel cawl wedi syrthio i lond powlen o fwd.

Hyd yn oed gan wybod nad oes yna ddim byd mwy bôring na lluniau pobl eraill rydw i am rannu rhai efo chi. Fel hwn:

Mae'r Steddfod yn ofnadwy o fawr - i blentyn bach

A'r llall yma, yr ydw i'n gwybod fel rydw i'n sgrifennu hwn y bydd rhywun bownd o sgwennu mewn i ddweud bod yna ugeiniau ar ugeiniau o gwn sy'n figaniaid. Ond mae'n rhaid i mi ddweud mai teimlo fel gweiddi "Asgwrn" arnyn nhw oeddwn i wrth basio.

Ond mod i ofn iddyn nhw gythru am y nghoes i.
Achos er bod eu perchnogion yn deall eu bod nhw'n figaniaid does yna ddim sicrwydd bod y cwn.

Cwn pabell Cymdeithas y Figaniaid

Beth bynnag, os yda chi'n dal eisiau gweld rhagor o luniau, cliciwch
Yma

Ac wedyn symud ymlaen Yma os dymunwch.

Rhagor o negeseuon o'r Eisteddfod

Gwefan Eisteddfod 2009

Anfon sylw

Mae’n rhaid i chi ddarpau enw a chyfeiriad (ni fydd y cyfeiriad yn cael ei gyhoeddi).

Bydd sylwadau ar y blog hwn yn cael eu cymedroli.

(Gofynnol)

(Ni fydd yn cael ei gyhoeddi)


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.