Advertisement
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Cyfarchiad Dic yr Hendre

Categorïau:

Glyn Evans | 06:48, Dydd Sadwrn, 8 Awst 2009

Yr oedd dau fwlch ar lwyfan Y Bala yn ystod seremoni'r Cadeirio ddoe.

Y bwlch yn y gadair - a'r bwlch a achoswyd gan absenoldeb yr Archdderwydd, Dic Jones, sydd yn rhy wael i fynychu ei ail Eisteddfod yn Archdderwydd.

John Gwilym Jones

Mi soniais i ychydig yn ôl gymaint mae'r Bala yn ei olygu i Dic ac er gwaethaf ei waeledd cyfansoddodd gywydd yn mynegi'r teimladau hynny ac fe'i darllenwyd dan deimlad gan Gofiadur yr Orsedd, y Prifardd John Gwilym Jones.

Hiraeth am y Bala
Y mae unlle ym Mhenllyn
lle'r wyf fi'n myfi fy hun,
yn gweithio cragen pennill
mewn chwys maith bob yn saith sill
wrth ryw gymell a chellwair
â hen gnawes gormes gair.

Ac yn ardal y Bala
ers yn hir mae 'na dir da
i'r brid a fu'n hir barhau
i garu plethu geiriau,
a'r cymeriad brafado
yn cyfri'n frenin y fro.

A dyma fro f'atgofion
o'm cynhaeaf brafiaf, bron -
fy urddo'n fardd yn fy oed
yn angerdd balchder iengoed.

Ond mae cael gormod clodydd
yn gynnar, yn difa'r dydd,
a rhyw wàg o eiriogwr
yw eilun serch Bala'n si^wr.

Ac yn naear yr Aran
lle mae llawer ceinder cân,
lle mae'r ffair yn llamu'r ffyrdd
mae'r Pethe'n bethe bythwyrdd.

Pe cawn, fe awn i heno
i erwau ffraeth yr hoff fro
a'm nef fyddai camu'n ôl
yn enwog - anhaeddiannol.
Dic yr Hendre

Bydd y rhai hynny oedd yno yn cofio mai cywydd gan Dic yr Hendre a ddarllenwyd hefyd oddi ar lwyfan Prifwyl yr Urdd yng Nghaerdydd pan nad oedd cadeirio yno ychwaith rai wythnosau yn ôl.

Ac er na allai dim wneud iawn am y siom o gadair wag ddoe yr oedd gwerthfawrogiad cynulleidfa'r Bala yn gwbl amlwg.

Anfon sylw

Mae’n rhaid i chi ddarpau enw a chyfeiriad (ni fydd y cyfeiriad yn cael ei gyhoeddi).

Bydd sylwadau ar y blog hwn yn cael eu cymedroli.

(Gofynnol)

(Ni fydd yn cael ei gyhoeddi)


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.