Advertisement
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Chwerthin? Roeddwn i'n meddwl na fyddwn i byth yn dechrau

Categorïau:

Glyn Evans | 20:45, Dydd Iau, 27 Awst 2009

Yn yr Alban ddechrau'r wythnos a gweld fod jôc gan ein Rhod Gilbert ni ymhlith deg o rai gorau yr Edinburgh Fringe.

Yn ffodus, mae hi'n cyfieithu'n weddol ddidrafferth i'r Gymraeg - rhywbeth nad yw'n digwydd yn aml iawn gyda jôcs.

Ta beth, dyma ddweodd Rhod: "Gwesty sba? Mae'n union fel pob gwesty arall ond bod yna lun carreg o wely afon yn y dderbynfa."

I arbed trafferth ichi, "pebble" ddywedodd o. Fel yr awgrymais i dim ond ffŵl fyddai'n ymgymryd â chyfieithu jôcs.

Cyn dewis y jôc yna gwrandawodd naw beirniad ar gyfanswm o 3,600 munud o gomedi yn yr ŵyl a hidlo 7,200 o jôcs ar gyfer rhestr fer o 27 y byddai pobl fel chi a fi yn pleidleisio iddyn nhw.

Jôc gan Dan Antopolski ddaeth i'r brig a chan nad ydi hi, yn fy marn i, yn arbennig o dda yn y Saesneg gwreiddiol wnâi ddim gwneud mwy o gam â hi trwy ei chyfieithu er mai ond wyth gair sydd iddi:

"Hedgehogs," meddai, "why can't they just share the hedge?"

Rwy'n siŵr y cytunwch, os mai dyna'r orau rhad ar yr un ddaeth yn 7, 200 ar y rhestr!

Yr un ddaeth yn ail oedd orau gen i o'r deg uchaf, gan Paddy Lennox:

"Yr oeddwn i'n gwylio marathon Llundain," meddai, "a gweld un rhedwr wedi ei wisgo fel iâr a rhedwr arall fel wy. Wel, meddyliais, mi all hyn fod yn ddiddorol."

Roeddwn i'n eithaf hoffi sylw Marcus Brigstocke hefyd:

"I'r rhai hynny ohonoch sy'n berchen iPhone - dim ond wedi'i brynu fo ydy chi nid ei ddyfeisio."

Yn rhyfedd iawn doedd y jôc a dybiwn i yr orau o'r rhai y darllenais ddim hyd yn oed ymhlith y deg uchaf

"Mae 'na lot o bobol yn fy nghyhuddo i o fod yn hunanol - ond dyna ddigon amdanyn nhw . . ."

Ta waeth, un peth ddaeth yn amlwg iawn i mi wrth ddarllen am y dethol a'e didol; dydi Caeredin ddim yn lle y byddech chi'n teithio o bell iddo i glywed jôcs.

Clywais well yn ein steddfod fach ni.
Chwithau hefyd, siŵr o fod - ac os ydych chi am rannu - wel anfonwch, nawr.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 23:47 ar 27 Awst 2009, owen wyn ysgrifennodd:

    Dilwyn Morgan wrth y criw oedd yn disgwyl i'r baryn godi i groesi'r ffordd i'r Eisteddfod yn Y Bala un bore:
    "Gwenwch! Ddim at y deintydd dach chi'n mynd ond i'r Steddfod."
    Sylw un wag:
    "Mae hi'r un mor ddrud!"

    Cwyno am y sylw hwn

Anfon sylw

Mae’n rhaid i chi ddarpau enw a chyfeiriad (ni fydd y cyfeiriad yn cael ei gyhoeddi).

Bydd sylwadau ar y blog hwn yn cael eu cymedroli.

(Gofynnol)

(Ni fydd yn cael ei gyhoeddi)


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.