Advertisement
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Canu gwae

Categorïau:

Glyn Evans | 13:19, Dydd Mercher, 19 Awst 2009

Faint o wynt sydd yna ar ôl yng Nghymanfa Ganu yr Eisteddfod Genedlaethol?

Yr argraff mae rhywun yn ei gael yw fod llai a llai yn ei mynychu o flwyddyn i flwyddyn.
Yn union fel y gwasanaeth bore Sul mewn gwirionedd.

Hyd yn oed yn Y Bala tenau oedd y gynulleidfa gan beri i rai holi, Os dyma'r Bala sut fydd hi yng Nglynebwy y flwyddyn nesaf?

Mae pwnc y Gymanfa yn cael ei godi gan olygydd Y Goleuad, John Gruffydd Jones, hefyd.

Ef wedi sylwi pa mor gaeth oedd nifer o'r cymanfawyr i'w taflen emynau gan na wyddent y geiriau. Flynyddoedd a fu ni fyddai angen taflen o gwbl yw'r ensyniad!

"Ydi ein hemynyddiaeth goeth wedi mynd yn rhan o'r gorffennol erbyn hyn?" yw ei gwestiwn gan ofni mai "caneuon bach arwynebol a mymryn o grefydd yma ac acw" fydd trefn y dyfodol.

A chymryd y bydd yna ganu o gwbl achos mae'n holi ymhellach: "A fydd y Gymanfa Ganu yn rhan o'r Eisteddfod Genedlaethol o gwbl, ac mae'r cyfan fydd gennym fydd darlith mewn pabell digon anghysbell ar gyrion y maes yn sôn am y traddodiad emynyddol yng Nghymru?"

O gyfri'r mynychwyr dyw hwnna ddim yn ddarlun mor afreal â hynny.

Anfon sylw

Mae’n rhaid i chi ddarpau enw a chyfeiriad (ni fydd y cyfeiriad yn cael ei gyhoeddi).

Bydd sylwadau ar y blog hwn yn cael eu cymedroli.

(Gofynnol)

(Ni fydd yn cael ei gyhoeddi)


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.