Advertisement
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Yng nghanol gwres a Chymreictod

Categorïau:

Blogiwr Gwadd | 06:35, Dydd Gwener, 3 Gorffennaf 2009

Margaret Roberts yn sgrifennu o Ŵyl y Smithsonian yn Washington

Fel maes Steddfod!

Fel un o blant y Chwedegau mae'n wefr bod yn Washington y flwyddyn yr urddwyd Obama yn Arlywydd Yr Unol Daleithiau a rhan o freuddwyd Martin Luther King yn dod yn wir.
Aethom i ddiwrnod cyntaf ail wythnos Gŵyl Werin y Smithsonian ar y Mall rhwng y Washington Memorial a Capitol Hill.

Yn rhyfedd iawn pan gerddon ni i fynny o'r Metro beth oedd yn ein hwynebu ond nifer o bebyll bychain yn union fel maes Eisteddfod.

Ac, yn wir, wrth siarad â rhai oedd yn cymryd rhan roeddent hefyd yn teimlo eu bod yn yr Eisteddfod gan alw'r lle oeddynt yn 'Faes'. Ond Eisteddfod heb yr elfen gystadleuol.
Roedd nifer o bebyll yn dangos gwahanol bethau ac yn rhoi cyfle i ymhelwyr roi cynnig ar wahanol sgiliau o wneud clocsiau a thelynau i goginio a hollti llechi!

Dywedodd Karl Chattington, gwneuthurwr cwryglau o Aberdâr iddo fwynhau'r profiad o ddod i'r ŵyl i arddangos ei grefft ir Americanwyr.

Karl Chattington a'i gwrwgl

Pan ddaeth a'i gwrwgl allan o'r storfa ar ei gefn un bore dechreuodd teulu o Americanwyr dynnu ei luniau yn egniol ac ar ôl sbelen dyma'r tad yn holi yn hollol ddifrifol; "Is this a form of your National headress?"
Allai Karl ddweud dim, meddai, a'r dagrau yn rhedeg i lawr ei wyneb!

Mewn pabell fwyd gwerthir pethau fel cawl a selsig Morgannwg gyda chwrw Tomos Watkins - er, rhaid dweud ei bod yn fwy o dywydd hufen iâ na chawl ond roedd yr Americanwyr yn ei fwynhau wrth y galwyni!

Mae dwy babell lle mae'r gwahanol gerddorion yn perfformio; Y Clwb Rygbi a Phabell y Ddraig Goch gyda chynulleidfa dda a gwerthfawrogol yn y ddwy.

Buom yn gwrando ar Yr Henesseys a criw Cut Lloi - a'r Americanwyr yn mynd i hwyl.
Ond yn y gwres llethol roedd hi'n anodd iawn i'r perfformwyr ar adegau.
Ond dywedodd criw Cut Lloi iddynt fwynhau'r profiad yn fawr - ond yn dechrau hiraethu am adref!

Derbyniad da

Cafodd perfformiad cyntaf Only Men Aloud dderbyniad arbennig o dda a phabell Y Ddraig Goch yn orlawn.

Diolchodd eu harweinydd, Tim Rhys Evans, i'r Smithsonian am gymeryd Cymru fel gwlad, o ddifrif.

Perfformiodd y côr amrywiaeth o ddarnau yn opera, emynau a darnau ysgafn, a'r gynulleidfa ar ei thraed ar y diwedd.

Y siarad yw i'r ŵyl fod yn llwyddiant gyda llawer o nwyddau a ddaeth o Gymru wedi eu gwerthu yn ystod yr wythnos gyntaf.

Anfon sylw

Mae’n rhaid i chi ddarpau enw a chyfeiriad (ni fydd y cyfeiriad yn cael ei gyhoeddi).

Bydd sylwadau ar y blog hwn yn cael eu cymedroli.

(Gofynnol)

(Ni fydd yn cael ei gyhoeddi)


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.