« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Cywilydd Gerallt

Categorïau:

Glyn Evans | 01:00, Dydd Sadwrn, 6 Mehefin 2009

Yr adeg hon yr wythnos diwethaf yr oeddem yn brasgamu tuag at ddiwedd Eisteddfod yr Urdd 2009 a phawb mewn hwyliau da yn y Bae.

Ddeugain mlynedd yn ôl yn Aberystwyth wnaeth wythnos Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ddim dirwyn i ben mewn cystal tymer.

Eisteddfod gecrus a diflas fu hon gydag ymweliad y Tywysog Charles a oedd yn ymbaratoi ar gyfer cael ei arwisgo yn Dywysog Cymru yng Nghaernarfon y mis nesaf.

Ac yntau newydd dreulio cyfnod yng Ngholeg Prifysgol Cymru yn Aberystwyth yn dysgu am Gymru a meistroli rhywfaint o Gymraeg fe'i gwahoddwyd i lwyfan yr Urdd er mawr ddiflastod i nifer o Gymry ifanc.

A phan ymddangosodd ar y llwyfan i ddarllen yr araith a sgrifennwyd yn ffonetig ar ei gyver cerddodd nifer o bobl ifainc allan mewn protest.

Ac os rhywbeth, ychwanegwyd at y drwgdeimlad pan gyhoeddodd arweinydd yr Eisteddfod, i gymeradwyaeth, ei fod yn sylwi i'r rhan fwyaf o'r gynulleidfa aros yn y babell a chroesawu'r llanc ifanc o Dywysog - a hynny'n ennyn llid Y Cymro.

Doedd o ddim yn gyfnod dedwydd, hwn.

Llanc ifanc arall a wnaeth argraff fwy gwerthfawr yn yr Eisteddfod honno oedd enillydd y Gadair, ddiwrnod cyn y brotest.
Dyma eisteddfod Cerddi'r Cywilydd, Gerallt Lloyd Owen awdur llinellau gyda mwyaf cofiadwy llenyddiaeth Gymraeg a gyfansoddodd yn ystod cyfnod yr arwsigiad:

Wylit, wylit, Lywelyn
Wylit waed pe gwelit hyn.

A da gweld Barn mis Mehefin yn dwyn i gof yr orchest honno a wobrwywyd gan T Llew Jones, yn beirniadu, trwy holi Gerallt Lloyd Owen - a oedd ymhlith y protestwyr hynny a gerddodd allan y diwrnod wedyn.

Hon oedd ei drydedd cadair yn dilyn rhai 1962 a 1965 ac yr oedd yn eironig cymharu y bonllefau a gymeradwyaeth iddo un diwrnod a'r islais o ddirmyg y diwrnod wedyn wrth iddo weithredu synnwyr ei gerddi.

Ac mae'n datgelu i Barn na siaradodd pennaeth yr Urdd ar y pryd, R E Griffith, byth ag ef wedyn!

Cymru Heddiw oedd y testun yn 1969 meddai wrth Barn.

"Oedd o'n ddewis annoeth o safbwynt yr Urdd! Ond mi oedd o'n destun da. Roedd yr union destun i mi, a dweud y gwir, gan fy mod i wedi bod yn corddi cymaint am yr Arwisgiad ac yn meddwl a phendroni am gyflwr Cymru," meddai Gerallt.

Cyhoeddwyd Cymru Heddiw maes o law dan y teitl mwy bachog, Cerddi'r Cywilydd. Cyfrol ddinod a llipa ei gwedd wedi ei styffylu wrth ei gilydd yn hytrach na'i rhywmo.
Ond os yr oedd yn llipa ei chlawr roedd hi'n ffrwydrol ei chynnwys.

A dywed Gerallt wrth Barn ei fod yn tybio mai Wylit, wylit . . . oedd y gerdd gyntaf iddo ei chyfansoddi - honno neu Y Gwr Sydd ar y Gorwel.

Yn yr un cyfweliad mae'n mynegi ei siom am gyflwr y Gymraeg heddiw ac am ei ofn ynglyn â mentro i gyhoeddi rhagor.

Cyfweliad amserol a diddorol.

  • Eisteddfod yr Urdd 2009
  • Llywio drwy’r BBC

    BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

    Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.