Friday 1 March 2013, 10:52
I nodi Dydd Gwyl Dewi ar Mawrth 1af beth am ddathlu peth o’r gwaith anhygoel sydd yn mynd ymlaen diolch i’r 140 o brosiectau yng Nghymru sydd yn derbyn arian diolch i’ch rhoddion?
Mae BBC Plant mewn Angen wedi dosbarthu grantiau werth mwy na £7 miliwn i elusennau drwy’r wlad, o Sir Benfro i Blas Madoc, sydd yn delio gyda materion sy’n cynnwys profedigaeth, delio ac anabledd, amhariad, anghenion addysg, anhawster ymddygiad, effeithiau cam-drin domestig, bod yn ddigartref, a bwlio.
Yn Ysbyty Cyffredinol Maelor yn Wrecsam mae’r Doctoriaid Sy’n Canu (sef Cressida a David) yn ymweld yn wythnosol â phlant sydd wedi eu dewis yn arbennig. Mae’r ymweliadau yn rhoi cyfle i dynnu sylw’r cleifion a’r rhieni o feddwl am y dulliau meddygol a’r poen neu’r anghysur maen nhw’n teimlo.
In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash Installed. Visit BBC Webwise for full instructions. If you're reading via RSS, you'll need to visit the blog to access this content
Mae BBC Plant mewn Angen hefyd yn ariannu “Y Tir” – prosiect yn Wrecsam sydd yn helpu pobl ifanc i ddylunio a chreu canolfan chwarae o stwff i’w ailgylchu a sbwriel. Mae’r pobl ifanc yn dysgu sgiliau bywyd hynod werthfawr am rheoli risg, defnyddio’r dychymyg, datrys problemau a rhannu (gan hefyd greu lleoliad diogel a hwyl i chwarae ynddo).
Rydym ond yn gallu cefnogi’r prosiectau yma (a dwsinau tebyg) yng Nghymru drwy haelioni ein codwyr arian a’n cefnogwyr. Diolch yn fawr iawn i chi gyd. A Dydd Gwyl Dewi hapus i chi gyd o bawb yma ym Mhencadlys Pudsey!
Thursday 28 February 2013, 18:09
Tuesday 5 March 2013, 16:21
Comments