Blog C2 - BBC Cymru

Penwytnos Boncyrs!
Roedd gwyl T In The Park yn un do'n i erioed wedi bod iiddi, a roedd popeth ro'n i wedi clywed amdani yn wir. Mae'r gynulleidfa Albanaidd yn gwybod sut i fwynhau eu hunain! Roedd y naws rywbeth tebyg i wyl Reading a Leeds a dipyn bach hefyd i'r Sioe Amaethyddol! Y math yne o vibe. Lot o fandie da yne, a llwyth o fandiau Albanaidd yn chware gigs i gynulleidfaoedd enfawr. Mae'n hawdd anghofio faint o artistiaid mawr sy'n dod o'r Alban; Franz Ferdinand, Snow Patrol, Calvin Harris, Edwyn Collins, Broken Records, Phantom Band, Young Fathers. Roedden nhw i gyd yne a roedd llawer ohonynt yn wych ar y penwthnos yn ystod yr wyl. Ar ol yfed te yn T, es i lawr i Wakestock yn Abersoch. Roedd y mwd yn eitha gawel ar y dydd Sul, ond dim glaw fel ar gychwyn yr wyl. Weles i set gwych gan Y Promatics o Ddyffryn Nantlle, bach o Cowbois Rhos Botwnnog oedd yn hwyl a Dizze Rascal! Dizze oedd yr uchafbwynt; roedd Bonkers yn.....Boncyrs.

Does na ddim byd ymlaen...
Fel arfer, tua'r adeg yma mis Gorffennaf, mi fydda ni fel criw yn gorffen y paratoadau at Sesiwn Fawr Dolgellau. Pethau fel ffonio bandiau i gael "set-lists", gwneud running orders melltigedig o gymleth, siarad hefo Ywain Myfyr a'r trefnwyr am unrhyw newidiadau, gwneud nodiadau i'r cyflwynwyr - ac wrth gwrs cadw golwg ar y rhagolygon tywydd. Rhaid i mi gyfadde mod i'n hynod drist nad oes na Sesiwn eleni. Hon ydy'r wyl dwi'n fwynhau fwya - ma pawb mor gyfeillgar, mor groesawgar, ac mae gan y trefnwyr wir gariad at y gerddoriaeth. Gobeithio daw hi yn ol yn 2010.

Yn y cyfamser, mae yna ddisgwyl i rai pobol fynd i Ddolgellau beth bynnag!! Ac os ewch chi, mi fydd 'na gig hefo Cowbois Rhos Botwnnog yn Ty Siamas rhwng 1pm a 5pm, ac wedyn Wyrligigs, Cowbois, Bob a'r Ods yn y Clwb Rygbi o 5pm ymlaen. Enw'r digwyddiad ydy... "Does na ddim byd ymlaen ond ma' pawb yn dwad"!!!! Mi ddylwn i nodi fod Cowbois Rhos Botwnnog wedi chwara am ddim llynedd i geisio helpu'r wyl.

Mi ddyla ni hefyd roi "mensh" sydyn i CD newydd Celt, "Cash Is King". CD byw ydy hwn o'i set nhw yn Sesiwn Fawr y llynedd, ac mi fydd yr holl elw yn mynd i helpu'r Sesiwn Fawr.

Welai chi yno yn 2010, gobeithio.

Dim byd 'ffishi' am fideo'r Threatmantics!
Helo unwaith eto!

Braf iawn oedd cael sgwrs efo Heddwyn o'r band 'The Threatmantics' ar C2 heno, a chael peth o'i atgofion o am ffilmio'r fideo gwych ar gyfer y gan 'Wedi Marw'.

Gwyliwch fideo y Threatmantics - Wedi Marw

Mi gafodd o'i ffilmio bron i dair mlynedd yn ôl i gyd-fynd a rhyddhau y sengl ddybl-A-ochrog (!) Sali Mali / Wedi Marw, ac werth ei wylio - i weld Heddwyn yn socian wedi i fwceidiau o ddwr gael ei luchio drosto, ac i weld aelodau'r band yn cael eu tarro yn eu wynebau gan bysgod go iawn (hynny yw, dim pysgod ffug)!

Newyddion gwych i holl ffans y Threatmantics allan yna, mae nhw am fod yn cychwyn gweithio ar ei hail-albym tua mis Medi, ac mae cryn dipyn o ganeuon Cymraeg am fod ar yr albym newydd yma.

Band Gwyliwch y Gofod yr wythnos yma yw Wyn Williams - ewch draw i wefan C2 i gael rhagor o fanylion ac i weld y linc i'w dudalen myspace.

Tan yr wythnos nesa,

Rob.

O'r Alban i Abersoch
Mae'r haf o wyliau cerddorol yn parhau i fi eleni gyda T in the Park yn yr Alban dros y penwythnos. Heb fod o'r blaen, a fi'n edrych mlaen i weld yr wyl mae pawb yn ei ganmol gymaint. Mae'r gynulleidfa Albanaidd yn enwog am fod ymysg y gorau yn y byd; mae bandiau a DJ's wrth eu boddau yn chware iddynt achos mae nhw'n gwybod sut i gael parti.

Dydd Sul mi fyddai'n DJ'io yng Ngwyl Wakestock yn Abersoch. Mae'n wyl sydd wedi tyfu dipyn ac yn parhau i ddathlu'r chwaraeon o donfyrddio a dod a bandiau enfawr i chwarae yno i gynulleidfa wych. Edrych mlaen i weld Y Promatics, Dizzee Rascal a'r Gallops yn fawr!

Fideo 'Madrach' - swreal a gwych!
Yr wythnos yma, Hywel Pitts oedd artist 'Gwyliwch y Gofod'  - sef cyn-brif leisydd y band ifanc, gwych 'Dirty Words'.

Yn ogystal a hynny, mae'r ail-bit newydd yn parhau - sef y slot ychwanegol lle dwi'n son rhywfaint am fideo gan fand Cymraeg sydd i'w wylio ar y wê.

Fideo swreal ond gwych i'r gân 'Madrach' gan Derwyddon Dr Gonzo gafodd sylw yr wythnos yma, ac mi ges i sgwrs efo Ifan Dafydd o'r band am ei atgofion o ddiwrnod ffilmio'r fideo ar gyfer 'Bandit' nol yn 2007. Dwi wedi chwerthin gymaint wrth wylio'r fideo, lle mae'r actor Huw Marshall yn actio rhan y prif gymeriad - dyn torri gwallt sydd ddim yn gwneud job rhy dda ohoni - a thrio dyfalu pa un o aelodau'r band yw pwy, o dan eu dillad rhyfedd a'u gwalltiau gwirion!

Ewch draw i gael golwg ar y fideo drostoch eich hunain - mae wir werth cymeryd golwg arno: Fideo Derwyddon Dr Gonzo - Madrach

Mi fydda'i nol ar C2 nos Fawrth nesaf, gyda band neu artist  'Gwyliwch y Gofod' arall, ac mi fydd fideo gwych arall yn cael sylw yn yr 'ail bit newydd'. Yn y cyfamser, mwynhewch y fideo i 'Madrach' - a chofiwch fod Derwyddon Dr Gonzo yn rhyddhau eu halbym gyntaf 'Stonk' ar Orffennaf 27ain, ac yn cloi pethau ym Maes B, Eisteddfod y Bala fis nesa.

Dwi methu disgwyl!

Rob.

Enwogion
Be chi fod i neud pan chi'n gweld rhywun enwog?  Fi'n gofyn achos fi newydd weld Brandon Flowers o'r band hynod o boblogaidd The Killers ar y ffordd i'r un tren a fi.  Ydech chi fod edrych i ffwrdd, a trio esgus bod chi ddim wir yn becso fod nhw'n enwog a bod chi'n gweld pobl gyda gwynebau cyfarwydd fel nhw bob dydd?

Neu ydech chi fod syllu am dipyn bach, ond ddim gormod nes bod nhw'n cael eu ffricio allan gan y sefyllfa? Ydi deud rwbeth tebyg i 'Wwww, helo, fi'n ffan o'ch cerddoriaeth/ffilm/rhaglen/be bynnag' yn syniad da, neu ydyn nhw'n clywed hynny drwy'r amser? Siwr mae deud rwbeth clyfar a doniol a doeth ydi'r ateb, rhywbeth fyddan nhw'n cofio am fisoedd i ddod, fydd yn neud nhw chwerthin a meddwl 'roedd y person yne nath sbotio fi wir yn berson da!'.

Fyddwch chi'n falch o wbod, yn yr eiliadau nes i glocio Mr Flowers, nes i ddim on edrych am eiliad neu ddwy a troi i syllu ar y llawr. O'n i ddim ishe ffricio fe allan.

Murray-Mania!
Mae rhaid i mi gyfaddef mae Murray-Mania wedi fy nharo. Rydw i wrth fy modd gyda tenis, yn ei wylio fel sach o datws o flaen y teledu am 24 awr.  Mae'n hen bryd i Brydeinwr guro Wimbledon, mae yna 73 o flynyddoedd wedi bod ers i Fred Perry  ennill, felly come on Andy!

Mae o'n chwarae'n dda, yn gyflym, yn bwerus a llawn sgiliau ar y cwrt.  Er mai ef yw'r ail ffefryn i guro'r bencampwriaeth, rwy'n siwr y byddai'n curo Federer yn y ffeinal gyda cefnogaeth y dorf.

Ond, dweud hynny, mae'n rhaid iddo guro Roddick neu Hewitt yn y rownd gyn-derfynol.  O safbwynt y merched, rwy'n siwr mai Venus Wiliams sydd am guro.   .  Gall Serena (ei chwaer)  fod yn or-hyderus weithiau,  rwyn gobeithio y byddai Venus yn ei rhoid yn ei lle!

Ers bod adref, mi agorais y parc ym  Mlaenau Ffestiniog.  Cefais dlws o gadair wedi ei wneud o lechen am hybu fy mhentref.  Tra oeddwn yno dechreuais y rasus 100m i blant a roeddwn yn beirniadu gystadleuaeth gwisg ffansi.  Mae'n waith anodd iawn pan fo mamau y plant i gyd tu ôl i mi.  Cefais amser gwych a mae'r parc werth ei weld.

Yfory, fyddai'n mynd i Lundain i chwarae bingo gyda'r Daily Mirror - Peidiwch gofyn! Yna, fyddai ar BBLB gyda George Lamb. Edrych ymlaen yn fawr ac yna mi fyddai'n hedfan i Hng Kong ar fy ngwyliau. Tydi bywyd yn gret!

Michael Jackson
Doeddwn i ddim yn ffan enfawr o Michael Jackson (er mai Bad oedd yr albym gynta i mi ei brynu erioed), ond byddai'n anodd iawn gwadu ei gyfraniad, felly nos Wener dwytha nes i benderfynnu peidio darlledu'r rhaglen Lisa roedde ni wedi ei recordio yn barod, ac yn hytrach gwneud rhaglen fyw i ddathlu cerddoriaeth Michael Jackson, yn nghwmni 3 cerddor Cymraeg sy'n ffans enfawr - Eilir Pierce, Dewi Foulkes a Dyl Mei.

Fe allwch wrando eto yn fama!

Mae'r stori am fam Eilir yn rhwygo ei bosteri Michael Jackson yn arbennig o ddoniol, ynglyn a honiadau Dyl Mei fod Jackson wedi "prynu" y moonwalk gan hogyn bach yn Brazil

Glasonbury, SFA, a Llwybr Llaethog
Helo bawb

Am resymau hir-wyntog a chymleth, mae na newid i amserlen C2 yn yr wythnos nesa. Felly, os da chi am glywed hynt a helynt Huw Stephens yn Glastonbury, caneuon newydd Llwybr Llaethog, neu gyfweliad hefo'r SFA, gwnewch nodyn yn eich dyddiadur!

Nos Iau Gorffennaf 2 - Huw Stephens yn Glastonbury

Nos Wener Gorffennaf 3 - Huw Stephens yn Glastonbury

Nos Lun Gorffennaf 6 - Lisa Gwilym yn cyflwyno tracia newydd gan Llwybr Llaethog

Nos Fawrth Gorffennaf 7 - Lisa Gwilym yn holi Daf Ieuan o'r SFA am eu cynlluniau dros yr haf.

Ac yn ol i'r drefn arferol ar ol hynny!

Diolch

Gar

Yr ail-bit newydd!
Helo bawb!

Newydd adael stiwdio chwyslyd C2 am wythnos arall, ac yr wythnos yma - yn ogystal a'ch cyflwyno i fand 'Gwyliwch y Gofod'  newydd sbon - mi oedd yna ail-bit newydd ar y rhaglen.

Beth yw'r ail-bit newydd yma? Wel bob wythnos ar raglen Magi ar C2, mi fydda'i yn son rhywfaint am fideo gan fand Cymraeg sydd i'w wylio ar y wê - fideo gwahanol bob wythnos. Fel mae'r llygoden-beth bach yn yn ei ddweud yn yr hysbyseb yna ar y teledu... "Simples!"

Y fideo gafodd y fraint o fod y cyntaf un yn y slot newydd yma, oedd  Genod Droog - Dal Ni Lawr. Rhaid i fi gyfaddef mai hwn yw un o'n hoff fideos i gan fand Cymraeg ERIOED! Mae o dal yn neud i fi chwerthin yn uchel wrth ei wylio fo, ac mae'n dangos ffraethineb a hiwmor y band i'r dim - band oedd mor hynod o cŵl, ond eto ddim yn cymryd eu hunain rhy o ddifri.

Ges i sgwrs efo Ed Holden o'r band ar y rhaglen, a mi soniodd o ychydig am gefndir y fideo - gath o ei ffilmio ar gyfer cyfres 'Bandit ar S4C' nol yn 2007 - un o fideos cyntaf y band, os na Y fideo cyntaf, ac fe gafodd ei gyfarwyddo gan Daf Palfrey (o Hanner Pei).

Cafodd ei ffilmio mewn canolfan hamdden yn Sblot, Caerdydd, ac yn dangos stori y band mewn twrnament badminton o'r 80au - tydw'i wir ddim yn llwyddo i gyfleu pa mor wych yw'r fideo yma drwy sgwennu amdano, felly pam na ewch chii draw i'w wylio drostoch eich hunain:

Fideo Genod Droog - Dal Ni Lawr RHYBUDD IAITH!!

Nos Fawrth nesaf, bydd gen i fand  'Gwyliwch y Gofod' newydd sbon, a mi fydda'i yn rhoi sylw i fideo arall sydd i'w weld a'r y wê. O, a gyda llaw - dwi'n rhoi rhybudd iaith ar y fideo yma, gan fod yr iaith ychydig yn gref mewn mannau.

Tan y tro nesa,

Rob.

Glastonbury!
Wel nawr, roedd Glastonbury yn lot o hwyl a sbri. Ro'n i'n gweithio ar lwyfan y BBC drwy'r penwythnos. Roedd ne fandie hynod o dda yn chware, yn cynnwys Colorama. Bydd tracs byw o set y band oedd yn cynrhychioli C2 yno ar raglenni arbennig nos iau a nos wener wythnos yma. Roedd y Rogues yn dda hefyd, a fydd Sam James hefyd ar y rhaglen. Mae modd gweld fideos o bawb wnaeth chwarae ar y llwyfan ar www.bbc.co.uk/introducing

Nes i bownsio i Blur, a bloeddio gyda Bruce. Roedd Bon Iver yn bleserus, a Tom o Drefforest yn tremendys. Roedd Neil Young yn ifanc ei ysbryd a Status Quo yn sili. Roedd High Contrast o Benarth yn chware drwm a bas boncyrs o uchel, a Bloc Party yn berffaith.

Mae'n wyl anhygoel. Os chi heb fod a'n gallu mynd; ewch. Unwaith yn eich bywyd, mae'n werth e. I ffwrdd o'r llwyfannau mwy mae gymaint i'w weld. Allech chi fynd drwy'r penwthnos heb weld yr un band a chael amser da. Mae pawb yn yr un cwch.

Clywsom ni newyddion trist iawn heddiw. Bu aelod o Colorama, David Fletcher, farw nos Sul, wedi iddo gyraedd adre o berfformio yng ngwyl Glastonbury. Mae ein cydymdeimlad gyda aelodau Colorama, ei ffrindiau a'i deulu i gyd.

Glastonbury - nos Iau.
Nes i gyraedd gwyl Glastonbury eleni ar y nos Iau, mewn amser i ddal Gareth Bonello, y Gentle Good. Nath e chware i babell llawn o bobl ( o leiaf mil, os nad mwy) ym mhabell y Queens Head. Nath e set hyfryd, gyda llinynnau yn ymuno gyda fe. Wedyn ath e i Washington ar gyfer wthnos o gigs Smithsonian; mwy am hynny ar C2 wthnos nesa.

Roedd yr Ods yn gwylio Gareth hefyd, cyn eu gig nhw heddiw, ddydd Gwener.

Nes i weld back o Jamie T, a mwynhau set llawn Golden Silvers. Mae nhw'n fand gwych, a'r prif leisydd Gwilym yn amlwg wrth ei fodd gyda'r ymateb; cannoedd tu allan i'r babell methu mynd mewn.

Wedyn, yn y nos, fe ddaeth y glaw. Wedyn, nath Michael Jackson farw. Heddwch i'w lwch.

Rhaglen Michael Jackson - help!!
Helo 'na.

Mi fydd Lisa Gwilym heno rhwng 10pm ac 11pm yn cyflwyno rhaglen arbennig ar gerddoriaeth Michael Jackson. A dyna'r oll dwi'n wybod ar hyn o bryd!! Ddim yn siwr pa drywydd i fynd, pa westeion... Unrhyw awgrymiadau?

Cofion a diolch

Gar

Gig SFA ym Mangor
Helo bawb

Maddeuwch i mi os dwi'n dod a newyddion ma pawb wedi ei glywed yn barod, ond rhag ofn nad yde chi'n gwybod.... mi fydd y Super Furries yn chwara gig arbennig i ddathlu penblwydd Prifysgol Bangor yn 125 oed, a hynny yn Neuadd P-J. Dwi'n credu mai ryw 800 o docynnau sydd ar gael - o swyddfa docynnau Galeri.

A bydd Dafydd Ieuan o'r SFA ar raglen Lisa nos Wener i son am y peth!

Cofion

Gar

Ble bynnag fi'n rhoi fy het....
Dyna lle na'i gysgu. Fi wedi bod yn teithio eitha tipyn yn ddiweddar. Gynta', roedd Caracas, Venezuela ddim yn rhywle ro'n i erioed yn disgwyl mynd iddi. Ro'n i yno i wneud gweithdai radio drwy'r British Council, ac i djo mewn clwb a gwyl enfawr ar y stryd. Roedd y gweithdai yn hwyl ac yn digwydd yn y 'barrios', ardaloedd tlawd iawn gyda gorsafoedd radio wedi talu amdanynt gan y lywodraeth arlywydd Chavez. Roedd un dj yn ffan mawr o reggae felly nes i adael CD Llwybr Llaethog a Geraint Jarman iddo. Roedd djo i 3000 o bobl yn y nos yn brofiad boncyrs i ddeud y lleia.

Ges i ryw 30 CD o gerddoriaeth newydd o Venezuela, yn cynnwys dubstep. Mae'r genre yma yn parhau i ffynnu, ac mae llwyth o gynhyrchwyr diddorol yn torri drwodd. Yn Sonar, gwyl yn Barcelona, yn fwy diweddar, roedd dubstep i'w glywed bob man. Joker, Martyn a'r Gaslamp Killer oedd yr uchafbwyntiau ag ro'n i yna gyda BBC yn cyflwyno.

Fyddai yn Glastonbury ar y pewnthnos - 'twitterwch' fi os chi yne hefyd. O Gymru fydd Colorama, Yr Ods, Gentle Good, Rogues (band newydd Sam o'r Poppies gynt), Gwibdaith Hen Fran a Georgia Ruth Williams yn chware; wthnos nesa fydd fy rhaglenni wedi eu recordio yn Glasto.