Gwrando
25/02/2017
BBC Radio Cymru

Yn ystod rhaglen Ifan heno ar C2 bydd yr Ap Feistr, Guto Bongos yn trafod apps yr wythnos.

Ymhlith yr apps heno mae Bambuser. Mae’r app hwn yn eich galluogi i  gael ffrwd fideo byw o’ch ffon drwy ddefnyddio 3G neu WiFi, a’i rannu gyda’ch ffrindiau, eich teulu a’ch dilynwyr drwy’r byd !

Gallwch weld negeseuon, darlledu’n gyhoeddus gan ddweud ble rydych chi drwy GPS.

Rhwng 9 a 10 heno bydd modd i chi wylio Guto yn cyfrannu i raglen Ifan drwy ei sianel ef ei hun, a dyma’r cyfeiriad : http://bambuser.com/channel/gutobongos

Loading...

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf