Gwrando
23/02/2018
BBC Radio Cymru

Lisa Gwilym

Nifer y negeseuon 5

Negeseuon

  1. Heno dwi am chwarae rhai o uchafbwyntiau cerddorol chwe Mis cyntaf 2014 ar y rhaglen.

    Darllen mwy

  2. Un o'r pethe dwi'n fwynhau fwyaf am gyflwyno ar C2 ydy medru rhoi sylw a chyfleon i fandiau ifanc hollol newydd - drwy chwarae 'demos', recordio sesiyne a chyfweliadau - ac, wrth gwrs drwy gyflwyno Brwydr y Bandiau!

    Darllen mwy

  3. Mae'n bleser cyhoeddi fod Ywain Gwynedd wedi recordio 3 cân yn arbennig ar gyfer rhaglen Lisa Gwilym.

    Darllen mwy

  4. Haia Un o fy hoff CDs o 2012 oedd un nes i ei phrynu yng Ngwyl Gwydir y llynedd - EP 'Nos Somnia' gan Violas. Mi oedd y Violas yn gwneud set fach acwstic ar lwyfan Nyth, ac yn perfformio fersiyne acwstic o dracie fel Penseiri ac Ama Dablam. Ers clywed 'Nos Somnia' am y tro cyntaf, mae harmonia hyfryd, curiadau hudolus a synau hiraethus Violas wedi dod yn dipyn o ffefryne gen i, felly difyr iawn oedd clywed fod Owain o'r grwp wedi dechra prosiect unigol o'r enw "Carw". Mae o wedi creu cyfri Twitter i hyrwyddo'r prosiect, ac wedi rhoi un trac - Elevate - ar wefan soundcloud. O'r nodyn cyntaf, mae'r trac yn dwyn i gof swn gitar y Violas, ond mae'r curiadau electroneg yn dod a naws eitha gwahanol i "Carw". Gobeithio cawn ni lot mwy gan Owain, achos mae Elevate yn wych... ond gobeithio hefyd y bydd y Violas yn parhau fel grwp! Hwyl Lis x ON Newydd glywed gan Owain - mae o'n gweithio ar fwy o ganeuon ar hyn o bryd, hefo'r gobaith o ryddhau EP pan fydd digon o ddeunydd. Mae'n recordio hefo'r cynhychydd Llion Robertson, ac yn gobeithio gigio - ond ar hyn o bryd yn trio gweithio allan sut fyddai popeth yn gweithio'n fyw!! Diolch Owain!

    Darllen mwy

  5. Haia! Fel grwp, mae'r Super Furry Animals wedi bod yn dawel iawn yn y blynyddoedd dwetha - dim albym ers Dark Days/Light Years yn 2009, a heblaw am chware yn noson goffa Gary Speed yn Stadiwm y Mileniwm, fawr ddim gigs chwaith. Yn amlwg, i ffan fel fi, ma hynny'n beth drwg - dwi'n gweld colled un o'n grwpie mwya creadigol erioed, ond er fod y grwp 'di bod yn dawel, mae'r aelodau - Gruff Rhys, Cian Ciaran, Daf Ieuan, Huw Bunford a Guto Pryce wedi bod yn brysur iawn., ac mae 2013 yn argoeli i fod yr un mor gynhyrchiol iddyn nhw. Sengl Gulp prosiect newydd Guto Pryce hefo Lyndsey Leven, oedd un o fy hoff sengle o 2012, a dwi'n edrych 'mlaen at glywed mwy ganddyn nhw eleni. Mi oedd albym unigol gynta Cian Ciaran, "Outside In", llawn harmoniau hyfyrd a geirie torcalonus, ac felly dwi'n hynod falch bod Cian yn bwriadu rhyddhau ei ail albym yn y misoedd nesa' 'ma. Yr wythnos d'wetha ar y rhaglen, ro'n i'n ddigon lwcus i fedru chwarae traciau "ecsgliwisif" oddiar albym newydd The Earth - band Daf Ieuan hefo Mark Roberts (Cyrff/Catatonia/Ffyrc) a Dionne Bennet (The Peth). Ma na swn pop 'soul' anhygoel i'r albym, swn eitha retro, ond hefyd yn llawn angerdd. Mi fydd albym gynta' The Earth, "OFF/ON1", yn cael ei rhyddhau ar label Strangetown Records yn fuan, hefo sengl am ddim o'r enw "I Deserve You" ar Chwefror 2il. Mae Gruff Rhys hefyd 'di bod yn brysur yn y 3 mlynedd dwetha - falle eich bod chi wedi gweld y ffilm Seperado ar S4C dros y 'Dolig, neu wedi prynu'r albym wych "Hotel Shampoo" - albym fuddugol y Wobr Gerddoriaeth Gymraeg 2011? Ond beth am 2013...? Wel, cyn y Dolig, ges i sgwrs hefo Gruff, ac mi oedd o'n son fod ne albym newydd ganddo ar y ffordd yn 2013. Doedd o ddim isho deud mwy, ond mae na ambell gliw wedi ymddangos yn y dyddiau dwetha. Mae Neon Neon wedi creu cyfrif Twitter - Neon Neon oedd prosiect Gruff hefo Boom-Bip, gafodd enwebiad Mercury - i gyhoeddi y bydda nhw'n DJ-io yn y Roundhouse yn Llundain ar Chwefror 19eg. Ma nhw hefyd wedi lawnsio tudalen tmblr... Dybed ydy hyn yn golygu fod yr ail albym ar y ffordd? Gobeithio wir! Hwyl Lis X

    Darllen mwy