Blog C2

Colorama, Euros Childs a'r Promatics
Wel helo.

Yn ddiweddar es i i weld Colorama yn cefnogi Edwyn Collins. Mae Carwyn (Colorama) a'i fand yn wych iawn, mae na gerddorion anhygoel yn y band sy'n gwneud set byw ganddynt yn achlysur bob tro. Mae'n hawdd gweld pam fod Carwyn ym mand Edwyn Collins, cyn-ganwr Orange Juice (Rip it Up and Start Again) a sy'n siwr o fod fwya' enwog am yr hit 'Girl Like You'. Roedd caneuon newydd gan Colorama i chware, ac mae'r EP 'Magic Lantern Show' allan a gwerth ei chlywed.

Roedd Euros Childs yn cefnogi'r band 'Yo La Tengo' a'r daith fer yn ddiweddar. Es i'n excited reit a meddwl ma merch o'r enw Iola Tengo oedd ar daith a wedi gneud yn dda iddi hi eu hun! Roedd gweld Euros yn chware yn bleser pur. Fe yw fy hoff gerddor erioed; mae ei felodiau, ei eiriau, y syniadau sy'n treiddio trwy bob can yn chwythu fy mhen bob tro. Fel arfer, dim ond rhai caneuon oddi ar 'Son of Euro Child' (ei albym ddiweddaraf sydd dal am ddim i'w lawrlwytho o'i wefan - www.euroschilds.com) nath e chware, a'r gweddill yn ganeuon newydd. Pam cadw tiwns newydd nol pam allech chi rannu nhw gyda'r byd? Dyma pam fod Euros yn gerddor mor unigol, dyw e ddim yn meddwl tu fewn i focsus arferol.

A roedd gweld Y Promatics yn chware wythnos yma yn wych hefyd. Nhw ydi'r band sy wedi creu fwya o argraff eleni fi'n meddwl, diolch i'r EP '100 Diwrnod Heb Liw'. Mae eu dylanwadau yn rhyngwladol, a mae'n neis cwrdd a band newydd sy'n gwrando a chwilio am gerddoriaeth yn gyson. Hwn oedd ei gig cynta nhw tu allan i Gymru, a'r tro cynta iddyn nhw ganu yn Saesneg ar lwyfan. Roedd clywed tracs fel 'Seisnigeiddio' a 'Soho' yn wych, a'r un mor dynn a llawn egni ag ar eu CD. Da di'r Promatics de.

Nos Lun ar C2 mae'r cynhyrchydd Llion Robertson yn westai ar fy rhaglen, yn son am ei waith gyda SFA, Lostprophets, Gentle Good a mwy.

Nos Fawrth byd Emyr Glyn Williams o label Ankstmusik mlaen yn son am hunagofiant David R Edwards, 'Atgofion Hen Wanc'.

Bueno.

Gwefan newydd am gerddorion Cymru
Mae cyfres newydd yn cychwyn am 10pm ar C2 heno, gyda rhai o fandiau ac artistiaid amlyca Cymru yn dod i'r stiwdio am awr i adrodd eu hanes, hel atgofion, a chwarae ychydig o glipiau a sesiynau o'r archif (ac ambell drac a sesiwn newydd hefyd!).

Ceri a Gai o Anweledig sydd yn y rhaglen gynta, felly tiwniwch i fewn i glywed sut gafodd y band ei enw, a phwy oedd yn gyfrifol am "ail-addurno" Clwb Pêl-droed Aberystwyth - ymysg straeon eraill. Bydd y rhaglen ar gael ar yr iPlayer am y 7 diwrnod nesaf.

Mae'r gyfres yn cyd-fynd â lansio gwefan newydd /cerddoriaeth - sy'n cynnwys mynegai o brif artistiaid cerddorol yr iaith Gymraeg, gyda gwybodaeth am eu hanes a chefndir, a dolenni hawdd at dudalennau perthnasol ar wefannau'r BBC. Eisiau gwybod pryd oedd sesiwn diweddara Sibrydion (a gwrando arni?) - bydd y manylion ar eu tudalen /cerddoriaeth.

Ni 'di ychwanegu rhyw 40 o broffeils hyd yma, ar artistiaid yn amrywio o Huw Jones i Llwybr Llaethog, a bydd mwy yn ymddangos dros yr wythnosau a misoedd nesa. A gyda chydig o lwc, fyddwn ni'n parhau i ychwanegu at y safle am byth, wrth i fandiau ac artistiaid Cymraeg newydd ddod i'r amlwg!

Beth ych chi'n feddwl o'r safle? Pwy sy'n haeddu sylw nesa? Rhowch eich sylwadau ac awgrymiadau yn y blwch sylwadau!

Calan Gaeaf hapus yn A & E
Nos Wener es i allan ar noson codi arian i'r Prince's Trust.  Roeddwn yn beirniadu cystadleuaeth tebyg i'r X Factor yn Tiger Tiger Caerdydd.  Roedd y safon yn wych, llawer o ddawnsio, canu, chwerthin a siampen.  Ond, mae siampen yn beryg pan yn cymysgu â chwrw a gwin! Roeddwn yn dawnsio yn wallgo i Kim Wilde 'Keep Me Hanging On (sad dwi'n gwybod)! yna, mi wnes i lithro ar hyd y llawr  gyda fy nghoesau yn codi uwch fy mhen.  Edrychais fel Charlie Chaplin.  Yna, fe wnes i lanio ar ben fy mhenelin a chwerthin! Ond, pan godais ar ddiwrnod calan gaeaf roedd fy mhenelin fel pel tenis!

Cerddais i A & E gyda penelin poenus.  Roedd gweld yr holl bobl mewn gwisg ffansi calan gaeaf yn ddoniol.  Roedd yn anodd gwybod os oedd rhai mewn poen a wedi brifo go iawn, neu eu gwisg ffansi gwaedlyd nhw oedd yn realistic!

Un peth wnaeth fy syfrdanu i fwy na dim oedd yr holl drafferth oedd gweithwyr yr NHS yn ei wynebu gyda meddwon gwyllt a phobl hen di-fynadd yn adarn ddamweiniau'r ysbyty.  Maen rhaid i fi gyfaddef fy mod wedi ennill parch aruthrol i ddoctoriaid a nyrsus ar ôl fy mhrofiad yn A & E.

Tra yn yr ysbyty cefais x-ray ar fy mraich, ond diolch i'r drefn doeddwn i ddim wedi torri yr un asgwrn, ond cefais dabledi i gael gwared o'r chwydd.

Neithiwr fe es i gyda'r clwb athletau i ymarfer rhedeg  clwydi 100m.  Nid oeddwn yn gwybod bod merched a dynion yn cael clwydi o wahanol maint, felly pan oeddwn yn cystadlu yn ras y dynion, sylweddolais fod  y clwydi yn rhy uchel a disgynais a glanio ar fy mhenelin unwaith eto. UGH!!!!

Dwi wedi  crafu croen fy ngarddwn a fy nghoes.  Gret! Ond, dwin gwybod bod pethau drwg yn digwydd fesul tri felly, gwyliwch allan Gaerdydd fyddai ar fy mhen unwaith eto.

Hwyl xx

Mr Nice a Clinigol - am gyferbyniad!
Helo! Shwmae?  Heb sgwennu ers ache fi'n gwbod, allen i ddod lan a llu o esgusodion am hyn ond y gwir yw dwi jyst wedi bod yn ddiog...

Ond ta beth, ma da fi 'treats' gret i chi ar gyfer Nos Iau a Nos Wener, sef remix o un o ganeuon Clinigol yn ei chware am y tro cyntaf Nos Iau, a Mr Nice sef  Howard Marks ei hun yn cynnig tracie i'w chware ar gyfer slot DJ yr wythnos Nos Wener yma!

Yn ddiweddar fe lawnsiwyd stiwdios fantastic newydd yng Nghanolfan ITV yng Nghaerdydd gyda'r cynhyrchydd John Rea wrth y lliw. Mi oedd John yn gyfarwydd fel cyfarwyddwr Cerdd y rhaglen 'Sesiwn Hwyr' flynyddoedd yn ol ar S4C, a hefyd yn gyfrifol am greu 'soundtrack' y cyfres 'Coalhouse' ar gyfer BBC.

Yn ogystal a bod yn brysur yn cyfansoddi a chynyrchu cerddoriaeth ar gyfer rhaglenni teledu a ffilmiau di-ri, mae e hefyd wedi bod yn cynhyrchu sesiynau ar gyfer Radio 1 Xtra, a hefyd gweithio gyda Charlotte Church ar brosiect cerddorol newydd.... gwyliwch y gofod!

Ond hefyd, fe na'th gynhyrchu'r trac 'Dim ond ti sydd ar ol' ar albym diweddar 'Clinigol', gyda Heather Jones yn canu ar y trac, ac yn ddiweddar mae e wedi cyfansoddi a cynhyrchu fersiwn acwstig newydd o'r trac brydferth yma. Mae'n fersiwn hollol wych ac mae ei waith piano ar y gan yn hollol syfrdanol, felly cofiwch wrando Nos Iau i glywed y trac am y tro cyntaf ar C2!

Ma Howard Marks hefyd yn paratoi ar gyfer rhyddhau ei lyfr nesaf 'Tripping' ac wedi cymryd amser mas i ddewis cwpwl o tracs i chware Nos Wener - trip mawr amdani ar gyfer y penwythnos de!

Tan Nos Iau xx

Albym newydd Endaf Emlyn
Helo

'Chydig bach o newyddion i chi! 'Da ni wedi derbyn caneuon newydd Endaf Emlyn - y caneuon newydd cyntaf ganddo ers Dawnsionara yn 1981. Bydd yr album "Deuwedd" allan ar label Sain ar Dachwedd 23ain. Dyma gynlluniau Radio Cymru i gyflwyno'r caneuon:

Iau

Eleri a Daf 8.30am - cyfle cyntaf i glywed un o'r caneuon newydd

Lisa Gwilym/C2 10pm - cyfle i glywed mwy o ganeuon o'r album newydd

Gwener

Richard Rees/Rebecca 6.30am - can o'r album newydd

Jonsi 2pm - sgwrs hefo Endaf am yr album (hwn fydd y cyfweliad cyntaf gan Endaf am yr album ar unrhyw gyfrwng)

Gadewch i ni wybod be da chi'n feddwl o'r caneuon!

Diolch

Gar

Anweledig - atgofion?
Pnawn da bawb!

Dwi'n gweithio ar gyfres o raglenni newydd fydd yn cael eu cyflwyno gan wahanol fandia' - pobl fel Genod Droog, Yr Ods, Topper, Heather Jones, Sibrydion ac Anweledig. Enw'r rhaglenni fydd "/cerddoriaeth", i gyd-fynd hefo gwefan newydd fydd yn rhoi sylw i fandia Cymraeg - tebyg i'r wefan yma.

Ta waeth, Anweledig sy'n cyflwno'r rhaglen gyntaf, ac mi o'n i'n meddwl - oes ganddoch chi atgofion o Anweledig? Gigs? Hoff gan?

Gadewch eich sylwada' yn fama a falla bydd Ceri Cunnington a Gai Toms yn medru ymateb i rai ohonyn n hw ar y rhaglen

Diolch

Gar

C2 Yn Cyflwyno... Yr Ods, Y Niwl ac Endaf Presley
Ma hi'n wyl Bang Bangor yr wythnos yma Ym Mangor, a heno mi fydda ni draw yn yr Academi yn Undeb Myfyrwyr Bangor yn recordio gig Endaf Presley, Y Niwl a'r Ods. Da ni wedi dechra cael "setlists" gan y bandia. Dyma un Yr Ods:

1. Ffordd Ti'n Troi Dy Lygaid

2. Cerdded

3. City's Heart is Burning

4. Nid Bai Y Teledu

5. Pethau Brau

6. Spin Around With Me

7. Fel Hyn Am Byth

A dyma o bosib y "setlist" mwy od erioed!! Y Niwl:

1. Un

2. Dau

3. Tri

4. Pedwar

5. Pump

6. Saith

7. Unarddeg

8. Chwech

9. Wyth

10. Deg

Os na fedrwch chi ddod draw heno, mi fydd uchafbwyntia'r gig ymlaen ar raglen Lisa Gwilym nos fory am 10pm!

DIWEDDARIAD:  Dyma restr caneuon Endaf:

1. Calon Lan

2. Deud Dim, Meddwl Llai

3. Coffa

4. Rhanu Craith

5. Magic Bus

6. Ishtar

7. Why I Love You

8. Ma' Na Reswm

9. Byw Mewn Bwrlwm

10. I Don't Like You

11. Prudd-der

12. I Got A Woman

Ydi Magi yn enw gwrywaidd?!
Helo bawb!

Dwi wedi bod yn dweud lot fawr o helo a ffarwel yn ddiweddar - wrth bob un o'r criwie gwych wnaethon ni gwrdd a nhw fel rhan o Daith Ysgolion C2 / Ciwdod, yna wrthoch chi gyd wrandawyr hyfryd C2 gan fy mod i bellach yn chychwyn ar wythnos a hanner o wylie!

Mi fydda'i yn fy ôl ar C2 nos Lun, Tachwedd 9fed, ond peidiwch a phoeni - yn y cyfamser byddwch chi mewn dwylo diogel Griff Lynch, Hefin Thomas a Jeni Lyn. Nhw fydd yn cadw fy sedd yn gynnes yn y cyfamser.

Mi fyddai'n meddwl lot tra ar fy ngwylie am fy enw... Magi. Mi ydw'i wastad wedi meddwl amdano fel enw benywaidd, ond mi dderbyniais i e-bost gan un o wrandawyr C2 yr wythnos d'wetha yn dweud ei bod wedi enwi ei chath ar fy ôl, a'i alw'n Magi - ond iddyn nhw ddarganfod wedyn ei fod yn gwrcath (sef cath wrywaidd)!

Chware teg, mae nhw wedi danfon llun o Mr Magi i mewn i ni - mae'n gath hyfryd yr olwg:

Nid Mr Magi yw'r unig gwrcath dwi'n ymwybodol ohono sydd wedi ei alw'n Magi fodd bynnag - dyna yw enw cath Robin Owain sy'n gyfrifol am Gwyliwch y Gofod ar C2 hefyd!!

Hwyl am y tro - dwi'n mynd i bacio fy nghes ar gyfer fy ngwylie!

Magi. x

Rhaglen hip-hop nos fory
Henffych

Mae hi'n 30 mlynedd ers i'r sengl arloesol Rapper's Delight gan Sugerhill Gang gael ei ryddhau - y sengl fasnachol hip-hop gyntaf erioed. Felly, i ddathlu, mi fydd yna awr o hip-hop Cymraeg ar raglen Lisa Gwilym nos fory rhwng 10pm ac 11pm. Unrhyw geisiadau am hoff ganeuon hip-hop?! Bydd Steffan Cravos yn gwneud mix bach o ryw chwarter awr yn arbennig ar gyfer y rhaglen.

Ac ar raglen Lisa heno - sengl newydd Gymraeg y Racehorses. Da

Hwyl

Mynd am y brig - mewn dwy gamp!
Ddim yn aml chi'n cwrdd â rhywun sydd wedi torri record byd mewn unrhyw gamp, felly pan y'ch chi'n cwrdd ag athletwr sydd a record byd mewn dwy gamp chi'n gwybod eich bod mewn cwmni rhywun arbennig iawn!   Mae Aled Sion Davies yn gobeithio ennill y fedal aur yng ngemau Paralympaidd 2012 yn Llundain ac yn dal record y byd ar gyfer taflu'r pwysau a'r ddisgen o dan 18 (dim ond 5 metr y tu nôl y record byd y ddisgen ar gyfer bob oedran).

Er taw dim ond 18 oed yw Aled, mae e' ar hyn o bryd yn y 4ydd safle yn y byd o fewn ei gamp ac yn gobeithio y gall esgyn i'r brig ymhen tair mlynedd.  Ar hyn o bryd mae'n anelu at bencampwriaeth y byd yn Seland Newydd flwyddyn nesa gan hyfforddi am 6 awr y dydd yn ogystal a dilyn cwrs gradd BSc Rheoli Chwaraeon ym Mhrifysgol Athrofa Chwaraeon Caerdydd (UWIC).  Mae'n deg i ddweud nad yw Aled di bod fel fyfyriwr nodweddiadol yn ystod wythnos y glas!

Er ei holl lwyddiant, mae gan Aled orwelion ehangach na Llundain 2012 achos mae o'n gobeithio cyrraedd gemau Olympaidd 2016 yn Rio de Janeiro gan gystadlu ymysg y goreuon fel y person cyntaf gydag anabledd i wneud hynny.  Ar ôl siarad ag Aled, does gen i ddim amheuaeth fod ganddo'r ymroddiad a'r gallu i wireddu ei freuddwyd.  Gobeithio'n fawr y cawn ni'n cyfle i siarad ag ef eto cyn bo hir weld sut mae pethau'n datblygu.

Cyngor Aled i athletwyr ifanc - gweithio'n galed a mwynhau eu camp.  Ceir fwy o wybodaeth am gyfleoedd i bobl ifanc ag anableddau ewch i wefan Chwaraeon Anabledd Cymru

a hefyd ar wefan Cyngor Chwaraeon Cymru.  Mae na glipiau ohono ar wefan BBC Raise Your Game ac ar Y Ras i Lundain ar wefan S4C

Grandewch ar y cyfweliad eto drwy fynd at gwrando eto ar fy rhaglen i ar nos Fawrth y 13eg  o Hydref.

Hwyl Hefxxx

Penblwydd hapus Sain
Deugain mlynedd yn ol i heddiw, fe wnath Sain ryddhau Dŵr, sengl gynta'r label. Huw Jones oedd yr artist, gyda Heather Jones yn canu llais cefndir, a Meic Stephens yn cynhyrchu. I ddathlu penblwydd Sain yn 40 oed, mae gan Lisa Gwilym "mix" arbennig ar raglen heno am toc wedi 10pm - 40 o dracie gan 40 o artistiaid Sain mewn 40 munud. Gobeitiho y gwnewch chi fwynhau - dyma rest o'r caneuon fydd ar y mix!

1 Endaf Emlyn - Evan Edward Lloyd

2 Geraint Jarman - Gwesty Cymru

3 Trwynau Coch - Wastad ar y tu fas

4 Mim Twm Llai - Sunshine Dan

5 Sidan - Di Enw

6 Huw Jones - Mathonwy

7 Tebot Piws - Mawredd Mawr

8 Y Chwyldro - Rhaid Eu Tynnu i Lawr

9 Bando - Space Invaders

10 Anweledig - Dawns Y Glaw

11 Sibrydion - Simsalabiim

12 Bob Delyn - Lisa Lan

13 Eliffant - Nol Ar y Stryd

14 Bran - Tocyn

15 Heather Jones - Nos Du

16 Y Cynllwyn (Melltith Ar Y Nyth

17 Derwyddon Dr Gonzo - KO

18 Gwacamoli - Asbestos Tescos

19 Big Leaves - Yr Un o'r Pla

20 Steve Eaves - Ymlaen mae Canaan

21 Crysbas - Dreunog Marw

22 Clystiau Cwn - Byw ar y Radio

23 Nia Ben Aur

24 Mynediad am Ddim - Ceidwad y Goleudy

25 Bryn Fon - Ceidwad y Goleudy

26 Shwn - Bachgen

27 Meic Stevens - Y Brawd Houdini

28 Trebor Edwards - Un Dydd Ar y Tro

29 Mr Huw - Sgwd dy Bres

30 Maffia Mr Huws - Guitar yn y To

31 Plethyn - Tan yn Llyn

32 Catatonia - Gyda Gwen

33 Huw Chiswell - Y Cwm

34 Gwibdaeth Hen Fran - Trons Dy Dad

35 Elin Fflur - Harbwr Diogel

36 9 Bach - Bwthyn Dy Nain

37 Hogia'r Wyddfa - Safwn yn y Bwlch

38 Edward H - Rosi

39 R.S.Thomas - Welsh Landscape

40 Dafydd Iwan ac Edward - Cwm Rhyd y Rhosyn

Hanner ffordd...
'elo!

Dyma fi a Meic mewn caffi coffi nid anenwog yn 'Recsam. Newydd wario £30 ar sgidiau newydd (Meic yn dweud bo' nhw'n rhy uchel). Wedi prynu coffi iddo gan mai fe sy'n teipio hwn (ac yn gwneud yn dda iawn i deipio yn acen y de!! [meic])

Paratoi ar gyfer gig yn y Tivoli ym Mwcle heno - allai'm aros i weld Masters in France a'r Bandana. Newyddion da hefyd, dau o fandiau ifanc y daith yn ymuno - criw o Ysgol Brynhyfryd a Morgan Llwyd yn perfformio yn ogystal. Piti am DJ Dodgy Dodd.

Y daith hyd yma 'di bod yn briliant - 'di mwynhau pob eiliad arwahan i godi am 6 bob bore.

Fan fawr wen y daith yn anelu tua'r Gorllewin wythnos nesa - byddwch yn barod ysgolion Maes yr Yrfa, Tregib, Strade ac Ystalyfera - ni ar y ffordd!!

Hwyl am y tro - Magi a Meic (M'n'M's)

Chwaraeon a Taith C2 / Ciwdod
Roeddwn wedi penderfynu blwyddyn yma i gymeryd rhan mewn gweithgareddau newydd yn fy ail flwyddyn yn y coleg.  Felly, rwyf wedi mynychu clybiau bocsio cic ac athletau Prifysgol Caerdydd.

Ddoe fe safais yn stond, yn methu anadlu ar ol cael fy nghicio yn fy chest - teimlais gewin traed yn crafu fy asennau tra oedd chwys yn diferu o fy nhalcen - lovely!   Ond, mae'n deimlad braf cael paffio a dysgu sut mae amddiffyn dy hun.  Rwan, rwy'n gwybod os fyddai Magi fel 'damsel mewn distress' mi faswn i'n gallu gwaeddi 'na phoener fenyw! Nai dy amddiffyn' yn lle rhedeg a gadael iddi sortio ei phroblemau ar ei hun! Hahahaha!

Yn ogystal a hynny, rwy'n rhedeg gyda'r clwb athletau 4 gwaith yr wythnos.  Pan oeddwn yn 15 oed, roeddwn yn rhedeg clwydi 100m a hefyd 400m ar gyfer Gogledd Cymru.  Rwan, mae'n anodd dal fy ngwynt am 50m, dyna faint o un-fit rwyn teimlo!

Rwyf am wneud gweithgareddau ymarfer pob diwrnod o hyn ymlaen, erbyn y flwyddyn newydd rwyn gobeithio gallu cerdded lawr y stryd mewn fest gyda breichiau fel Popeye, a'r pecs a'r 6-pack yn galed ac yn popian allan. Ie, dyna yw'r freuddwyd, yn lle bod mewn corff y bachgen 'mr.muscle - loves the jobs you hate!'

Dydd Llun diwethaf, es fyny i ysgol Glan Clwyd efo Taith C2/Ciwdod.  Cefais amser gwych yn cyflwyno'r gweithdy radio. Dechreuais boeni am gadw fy swydd fel cyflwynydd oherwydd roedd safon cyflwyno a talent y disgyblion yn wych.  Yn ogystal a hynny, cafodd rhai ohonynt wneud band efo Cofi Bach a Tew Shady, ac i feddwl eu bod ond wedi cael bore i gyfansoddi can, roedd o'n well na'r caneuon sydd allan yn siart y 40 uchaf.

Roedd o wir yn ffantastig - cliciwch yma i'w chlywed, mae'n anhygoel. Rwy'n edrych ymlaen i glywed beth mae'r ysgolion eraill am ei wneud dros y daith.

Hwyl am y tro,

Glyn xx

Can Yr Ods am ddim ar wefan yr NME!
Yn fama!

Cyfweld a Cerys Matthews
Odd hi'n bleser ddoe i gael sgwrsio a Cerys Matthews unwaith eto ar gyfer fy sioe ar C2, gan recordio sgwrs fydd i'w glywed ar fy rhaglen nos Lun nesaf - Hydref 5ed.

Ma hi yn un o'n artistiaid mwya dylanwadol ni dros y pymtheg mlynedd diwethaf ac erbyn hyn yn plethu perfformio yn unigol a chyflwyno ar BBC 6 Music gyda bod yn fam i ddau o blant.

Ma'i halbym newydd hi 'Paid Edrych Lawr' allan ar y 5ed o Hydref ac mi fydd albym Saesneg (Don't look down), sy'n cynnwys fersiynnau o rhai o'r traciau fydd yn gyfarwydd i wrandawyr C2 fel 'Y Corryn a'r Pry' ac 'Awyrennau', yn cael ei ryddhau ar yr un diwrnod.

Ar ol arbrofi a gwahanol steiliau ers ddechrau perfformio'n unigol, ma'r albym hwn yn mynd a'r swn i gyfeiriad sy'n gweddu mwy i'w llais hi yn fy marn i. Ma'r caneuon newydd yn swno'n gret gyda naws sydd yn hamddenol ac eto yn cyfleu egni llais Cerys.

'Sinematig' oedd disgrifiad Cerys o'r swn a ma na sain 'mawr' i'r cynhyrchu a'r gerddoriaeth gefndirol yn sicr. Fy hoff albym Catatonia oedd 'Way beyond blue' a dwi'n credu fod rhai o'r traciau yn atgoffa rhywun o rai o uchelfannau'r albym honno.  Ma'r daith o gwmpas theatrau Cymru a Lloegr i gyd fynd a'r albym yn cicio bant yn Theatr Mwldan Aberteifi ar y 17eg o Hydref.

Cofwch felly y bydd y cyfweliad i'w glywed ar fy sioe ar C2 am 11yh nos Lun nesa y 5ed o Hydref - a bydd clipiau fideo lan ar wefan C2 hefyd.

Hwyl tan hynny,

Hefin.