Help / Cymorth

Archifau Hydref 2012

The Joy Formidable a Lisa Gwilym

Categorïau:

Criw C2 Criw C2 | 09:27, Dydd Gwener, 26 Hydref 2012

Sylwadau (0)

Heno, mae’r grwp The Joy Formidable o’r Wyddgrug yn perfformio yn un o leoliadau enwoca’r byd, yr O2 yn Llundain, yn cefnogi un o fandiau mwya’r byd, Muse!

Ond neithiwr, roedd Ritzy Bryan a Rhydian Dafydd (The Joy Formidable) yn perfformio yn Neuadd Hendre, Bangor, ac fe aeth Lisa draw atyn nhw i gael sgwrs…

In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash Installed. Visit BBC Webwise for full instructions. If you're reading via RSS, you'll need to visit the blog to access this content.

 

In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash Installed. Visit BBC Webwise for full instructions. If you're reading via RSS, you'll need to visit the blog to access this content.

EP Yr Wythnos: R.Seiliog - Shuffle

Criw C2 Criw C2 | 13:55, Dydd Llun, 22 Hydref 2012

Sylwadau (0)

 

Pob nos yr wythnos hon bydd rhaglenni C2 yn chwarae traciau oddi ar EP yr Wythnos: R.Seiliog - Shuffle.

R.Seiliog yw Robin Edwards o Peniel – mae o’n byw erbyn hyn yng Nghaerdydd a bydd yn gyfarwydd i rai fel drymiwr i H.Hawkline, Cate Le Bon a Meanz Heinz.

Mae’r EP 5 trac yn cael ei rhyddhau ar 29 Hydref ar feinyl 10” ar label Peski.

Mae R.Seiliog yn Cwlb Ifor Bach Caerdydd nos Iau Tachwedd y 1af gyda DJ Scotch Bonnet a Koyxen.

 

Gwobr Gerddoriaeth Gymreig 2012

Criw C2 Criw C2 | 15:39, Dydd Gwener, 19 Hydref 2012

Sylwadau (0)

Mewn seremoni gyfforus yng Nghwesty'r Angel Caerdydd nos Iau, cyhoeddwydd mai'r band roc o Gaerdydd Future of the Left oedd enillwyr Gwobr Gerddoriaeth Gymreig 2012.

The Plot Against Common Sense yw 3edd albwm y band o Gaerdydd. Sefydlwyd y band pan ddaeth aelodau o Mclusky a Jarcrew at ei gilydd nol yn 2005.

Roedd 12 albwm ar y rhestr fer a phanel o newyddiadurwyr, cyflwynwyr, blogwyr ac arbennigwyr o'r diwydiant oedd yn beirniadu.

Y cyflwynydd radio Adam Walton oedd yn cyflwyno'r wobr, sydd yn ei ail-flwyddyn. Gruff Rhys a'i albwm Hotel Shampoo oedd yr enillydd y llynedd.

Mae'r seremoni yn dynodi cychwyn Gwyl Swn - gwyl aml-leoliad yng Nghaerdydd.

Y rhestr fer yn ei chyfanrwydd -

Bright Light Bright Light - Make Me Believe in Hope
Cate Le Bon - CYRK
Cowbois Rhos Botwnnog - Draw Dros Y Mynydd
Exit_International - Black Junk
Future of the Left - The Plot Against Common Sense
Huw M. - Gathering Dusk
Islet - Illuminated People
Jodie Marie - Mountain Echo
Kids in Glass Houses - In Gold Blood
Kutosis - Fanatical Love

EP yr Wythnos: Hud - Stuntman

Categorïau:

Criw C2 Criw C2 | 15:27, Dydd Llun, 15 Hydref 2012

Sylwadau (0)

Pob nos yr wythnos hon bydd rhaglenni C2 yn chwarae traciau oddi ar EP yr Wythnos: Stuntman gan Hud.

Mae’r EP 6 trac yn cael ei rhyddhau i gyd-fynd a pherfformiad Hud yn Gwdihw, Caerdydd ar 20 Hydref yn ystod Gwyl Swn.

Rhyddhaodd y band 12 sengl mewn 12 mis yn 2011, ac ar ol rhyddhau’r EP yma, fydd eu halbwm llawn cyntaf ar gael mis Rhagfyr.

Mae’r traciau i’w clywed ar Soundcloud y band.

 

In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash Installed. Visit BBC Webwise for full instructions. If you're reading via RSS, you'll need to visit the blog to access this content.

Guto Bongos: BBC iPlayer Radio

Categorïau:

Criw C2 Criw C2 | 12:32, Dydd Mercher, 10 Hydref 2012

Sylwadau (0)

Guto Bongos neu'r Ap Feistr oedd ar raglen Ifan Evans neithiwr yn trafod app newydd BBC iPlayer Radio.

In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash Installed. Visit BBC Webwise for full instructions. If you're reading via RSS, you'll need to visit the blog to access this content.

Mae'n bosib gwrando ar Radio Cymru yn fyw ar yr app ar ddyfeisiau Apple (dyfeisiau Android i'w ddilyn).

Mae'r app ar gael i lawr lwytho am ddim trwy wefan iTunes Apple.

Albym yr Wythnos: Howl Griff - Fragile Diamonds

Criw C2 Criw C2 | 11:00, Dydd Mercher, 10 Hydref 2012

Sylwadau (0)

 

 

Pob nos tan ddiwedd yr wythnos bydd rhaglenni C2 yn chwarae caneuon oddi ar Albym yr Wythnos C2: Fragile Diamond gan Howl Griff.

Dyma drydedd albym Hywel Griffiths sy'n wreiddiol o Aberystwyth, mae'r adolygiadau cynnar wedi bod yn ffafriol iawn a'r band wedi cael sylw ar rhai o brif orsafoedd radio Prydain.

Bydd Fragile Diamond allan ddydd Llun y 15fed o Hydref. Mwy o fanylion fan hyn: Gwefan Howl Griff


Sgyms C2

Categorïau:

Criw C2 Criw C2 | 14:04, Dydd Gwener, 5 Hydref 2012

Sylwadau (0)

Hei - su' ma'n mynd?

Ma hi’n bnawn Gwener a ma criw C2 a Radio Cymru yn paratoi i fynd mas i ddweud ffarwel wrth ddau o’r tim sy’n hedfan y nyth - sef Gwennan Evans (JK Rowling Cymru - ie hi nath sgwennu’r nofel Bore Da) a Daniel Williams (a odd yn Y Promatics.... So ma fe fel uuhh.. Justin Bieber Dyffryn Nantlle... falle)

 

Gwennan Evans

Yr hyfryd Gwennan Evans

Felly fyddai mas heno - ond un o’r pethe cynta’ nai neud yn hwyr pnawn Sadwrn pan dwi’n deffro - yw gwrando nôl ar raglen Gwilym Rhys sy ar C2 am 6.30 heno. Ma eitem ‘da fe o’r enw Y Sgyms sef rhyw fath o holiadur i fyfyrwyr ynglŷn â’i bywyd cymdeithasol, carwriaethol a gyda phwyslais mawr ar lendid neu wendid glendid

Ahhh - dyddiau sgymi coleg... dyddiau da...

Sôn am ddyddie da - Taith Ysgolion yn dechre wythnos nesa. Ysgol Llanhari amdani fore Iau! O ran y Daith Ysgolion eleni, fe fydd pethe ychydig yn wahanol achos nid yn unig fydd kidz Cymru yn ymddangos ar raglenni C2, cael sylw ar ein safle gwe, ond hefyd mi fydda nhw yn torri ar draws rhaglen Daf a Caryl yn y bore, a Nia Roberts neu Tudur Owen yn y pnawn. Dwi’n ffyddiog eith popeth yn iawn ddydd iau - ond ma Tomos Morse, cynhyrchydd C2 a chyn ddisgybl Llanhari yn rhegi bob yn ail air, felly ma na phosibilrwydd neith cynulledfa Nia dagu ar eu paneidiau wrh wrando ar y rhaglen pnawn Iau.... pwy a wyr... sdim ond un ffordd o wbod....gwrando!

 

 

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.