Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Edrych mlaen i Sesiwn Unnos heno

Categorïau:

Huw Evans Huw Evans | 19:20, Dydd Mawrth, 11 Ionawr 2011

Helo helo helo.

Helo.

Helo.

Dyma ni, nol ar drothwy cyfres newydd sbon o Sesiwn Unnos.
Dwi di blino'n barod a da ni heb hyd yn oed cychwyn eto.
Dwi'n beio seddi anghyfforddus Arriva trains Wales, a'r holl diet pills na dwi di bod yn llowcio ers byta gormod o gig a caws dros y dolig.

Dwi am ddefnyddio symbolau gwahanol y cyfrifiadur nawr i drio cyfleu y cyffro dwi'n teimlo yr eiliad yma....

@~:@!"£$%%%^&*()_()()___+++??????@@:@+}~}}}}}}}}}

Dwi'n licio'r cromfach bach sy' di pinsho ar y diwedd mwya.

DA!

Dwi newydd glywed swn tri ceffyl anferthol yn gweryru'n fwystfilaidd tu allan i'r BBC ym Mangor, sy'n golygu unai ma' Cowbois Rhos Botwnnog di cyrraedd neu ma hi'n ddiwedd y byd a ma un o farchnogion y datguddiad wedi mynd ar goll ym Mangor Uchaf (di cymryd detour bach i falu chydig o stiwds siwr o fod).

Y tri brawd o Benllyn a'i cyffeillion sydd efo ni heno, dwi heb gwrdd a'r 'cyfeillion' eto ond am y tro newn ni alw nhw'n Miss Piano a Mr Trwmped. Fydd y Cowbois yn cael eu gorfodi i weithio gyda'r unig fenyw yng Nghymru sydd wedi byw ar y stryd, gweithio i gylchgrawn Golwg, sgwennu cyfrolau o farddoniaeth ag ennill cadeiriau mewn eisteddfodau (arwahan i Mami sydd yn dal i farddoni, ar thop ei llais, ar Heol y Frenhines yng Nghaerdydd tra'n taro biniau sbwriel efo esgyrn ceffyl).

Mae hi hefyd yn cyfrannu i Golwg yn achlysurol, (ond heb gal un o'i traethodau am daioni byta gwallt wedi cyhoeddi...eto) dwi'n son wrth gwrs am Karen Owen.

'Swn i'n feddwl fydd heno yn weddol syml o rhan cydweithio.
Cowbois yn sgwennu caneuon canu gwlad perffaith, gyda geiriau blodeuog Karen Owen yn lliwio'r melodiau fel paent amryliw llenyddol.
Ond does dim byd yn syml am 4 o'r gloch y bore, arwahan i cysgu.
Ond sneb yn cal cysgu.

Reit, diet pills i bawb a coffi poeth lawr 'i cyrnau.

Dwin meddwl bod Karen Owen newydd gyrraedd y BBC, yn cario
be sy'n edrych fel Bassoon....hmmmmm.....falle fydd heno
ddim mor syml a hyne...

Huw

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.