Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Bangars Gok Wan

Categorïau:

Magi Dodd Magi Dodd | 14:46, Dydd Llun, 31 Ionawr 2011

Chanell-o!

Os ych chi di gweld Sex And The City, cyfres 6 - An American in Paris (part une) newch chi ddeall y cyfarchiad yna. Os dych chi ddim - gwyliwch hi, ma'n wych. Ond ddim cystal â My Motherboard, My Self - cyfres 4. Neith hona neud ichi grio. Lot fawr iawn. Ond mewn ffordd dda)

Ta waeth, dwi'n eich cyfarch chi fel Antony Marantino yn cerdded mewn i siop Chanel ar Fifth Avenue, Efrog Newydd, achos mi oedd arbenigwraig ffasiwn c2, Lowri Price mewn yn siarad da fi nos Wener. Ma Lowri yn gweithio gyda Gok Wan ar hyn o bryd. Ma'n debyg bo' Gok yn hyfryd, ac wrth ei fodd yn gweld merched yn ymfalchio yn eu siap (yn enwedig eu bangers!)

Ond mi nath Lowri weud wrtho ni be fydd trends allweddol gwanwyn/haf 2011. Dyma nhw i chi;


  • Neon

  • Priodasol

  • 70au

  • Ballet

sgidiau ballet

Wrth gwrs, peidiwch â mynd o gwmpas Bangor neu Aber wedi gwisgo mewn twtw a sgidiau ballet, ond gwisgwch elfennau or steils uchod e.e 70au - gwisgwch drowsus llydan. Priodasol - gwisgwch ffrog lês.

Mi fydda i a Daniel Glyn yn gneud sylwebaeth amgen o'r gêm rygbi rhwng Cymru a Lloegr ar nos Wener (mwy am hynny yn fy mlog fory), ond ryn ni wedi penderfynu ar ein gwisgoedd yn barod. Fydda i yn fy leg-warmers oren llachar (neon), Dan yn ei blatfforms (70au) a'r ddau ohono ni yn ein cryse Cymru!

Cofiwch wrando ar raglen Dodd com heno ar wefan C2 am 7pm.

Magi x

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.